Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bentrefol

bentrefol

Gallwn brofi pwysigrwydd yr uned bentrefol trwy gyfeirio at nifer o enghreifftiau e.e.l. Pan unir capeli, gan gynnal gwasanaethau bob yn ail mewn gwahanol bentrefi, tuedda'r mwyafrif o'r gynulleidfa ddod bob amser o'r pentref y cynhelir y cwrdd ynddo e.e.2. Pan fydd plentyn yn cael ei symud - trwy ddewis rhieni - i ysgol pentref arall, tuedda'r plentyn golli cysylltiad cymdeithasol anffurfiol hefyd â gweddill plant y pentre e.e.3. Pan gae'r ysgol, bydd holl blant y pentre'n colli'r ymwybyddiaeth o fod yn griw y pentre wrth fynd i'r ysgol uwchradd ac felly'n colli'r ymwybyddiaeth o berthyn ar y lefel hon.

Os yw'r iaith i oroesi rhaid iddi feddu ar nifer helaeth o sefydliadau o bob math i'w chynnal, sefydliadau a fydd yn cwmpasu pob agwedd ar fywyd ac sy'n creu rhwydweithiau cymdeithasol heb ddibynnu ar yr uned bentrefol.

Ar y dechrau, er enghraifft, croniclo natur y gymdeithas bentrefol Gymreig oedd y stori fer Gymraeg yn ei wneud yn nwylo R.

Mae Cyngor Ceredigion yn dadlau fod yr holl gysyniad traddodiadol o gymuned bentrefol wedi dod i ben.

Yn wir, rwy'n cofio'r dydd y gwawriodd arnaf gyntaf fod y fath beth a chymdeithas bentrefol yn bod o gwbl yn y Cei.

Oherwydd dinistrio sylfaen bentrefol ein hiaith rhaid creu sylfaen newydd iddi; troedle a fedr wrthsefyll bygythiadau'r mewnlifiad cyson o Saeson i'r ardaloedd gwledig, a throedle a fedr gymathu nifer sylweddol ohonynt heb danseilio'r iaith a'r diwylliant Cymraeg.