Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

benywaidd

benywaidd

Yn wir, fe geir fod y merched yn fwy gwrywol a'r dynion yn fwy benywaidd na'r boblogaeth yn gyffredinol.

Mae'n debyg mai fy awr fawr i ar lwyfan oedd ychydig fisoedd yn ôl fel Doctora mewn sgets yn Esquel, Patagonia - lle cefais yr anrhydedd o fod yr unig feddyg benywaidd gyda barf yn y Wladfa i gyd.

Bydd y parasitoed benywaidd yn chwilio am westeiwr addas trwy ddefnyddio symbylyddion amgylchol a ddeilia o'r gwesteiwr a'i gynefin.

Fod y ferch ifanc yn sylweddoli o leiaf un peth; mai benywaidd yw'r pethau hyn sydd rhwng coesau gwrywod.

Buasai un baban benywaidd yn farwanedig; ac fel y crybwyllwyd ni lwyddasai fy mrawd bach i fyw ond am ddiwrnod neu ddau.

Trueni, mewn gwirionedd, nad oedd gen i amser i chwarae yr hyn syn cael ei alw yn Egg Invaders ller ydych chi, y chwaraewr, yn gondom syn saethu at hâd gwrywaidd er mwyn amddiffyn wy benywaidd rhag rhaib y dihiryn Sberman.

Ceir disgrifiadau manwl yn adroddiadau swyddogol y cyfnod, a hefyd mewn llyfrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, megis llyfr ardderchog Robert Hughes the fatal shore, ac o diddordeb arbennig i ni'r Cymry astudiaeth fanwl Deirdre Beddoe o hynt a helynt y carcharorion benywaidd o Gymru, Welsh Convict Women, a llyfr Dr Lewis Lloyd, Australians from Wales.

Fodd bynnag, mae'r benywod yn fwy gwrywaidd, a'r gwrywod yn fwy benywaidd na fyddid yn ei ddisgwyl.

Gan brofi cyflwr mor braf yw'r un benywaidd erbyn hyn.

Diau fod agwedd y bardd yn sylfaenol wrywaidd wrth weld ei fab yn ymgorfforiad ohono'i hun, ond gellir ymdeimlo â rhyw dynerwch benywaidd yma hefyd.

Prif rinwedd sancteiddrwydd benywaidd oedd purdeb corfforol.

(Dadansoddir yn yr ymchwil beth yw'r priodoleddau benywaidd a gwrywaidd).

Roedd y rhan fwyaf o athrawon a gweithwyr benywaidd y coleg yn perfformio yno - perfformiadau proffesiynol iawn yr olwg.

Roedd aroglau benywaidd yn y compartment pan euthum i mewn; roedd dwy ferch y môr wedi bod yn ymbincio a ffresio eu hunain gydag 'Ashes of Roses' neu ddŵr lafant - dyna, rwy'n meddwl, oedd y persawr oedd yn y ffasiwn yr adeg yma.