Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

berfa

berfa

Y diwrnod o'r blaen yr oedd gweithiwr ffordd yn gwthio berfa lawn o goncrit i fyny planc.

Yr oedd berfa mor wahanol i weddill hil olwynog ei chyfnod am ei bod mor ddibynnol ar ddyn.

Rydw i'n ei gofio fo'n mynd i'r America y tro dwytha', a f'ewyrth Hugh, brawd Mam, yn mynd hefo fo ac yn rowlio berfa a thrync metal mawr arno.

Mi fum i'n dipyn o giamstar gwthio berfa ar safle adeiladu flynyddoedd yn ôl...

A dyna'r tro cyntaf i gymysgedd o deimladau fynd ar draws ei gilydd þ siom a hiraeth, ac yn fwy na'r cwbwl tosturi am fod breuddwyd rhywun arall wedi'i ddinistrio þ er mai dim ond berfa oedd o.

'Roedd hi'n gwneud ei gwaith yn iawn mae'n siwr, ond berfa bell, oeraidd, ffurfiol haearnaidd, ag wyneb mawr a dim dyfn ynddi hi oedd hi.

Berfa

Yr un fath ag efo llongau pan aeth berfa bren yn ferfa haearn yr aeth y rhamant ohoni.

A 'doedd ryfedd yn y byd i wefr o falchder redeg trwy wythiennau hogyn bach deg oed pan glywodd o fod ei frawd mawr am wneud berfa iddo fo.

Ond y mae berfa yn perthyn i'r dechrau.

Dyn a'i olygon ar y pellteroedd y tu draw i lesni'r gorwelion, y crwydrwr cosmopolitan oedd dyn â'i law ar lyw beic, ond dyn o fewn ffiniau'i gynefin yn gwarchod gwinllan ei dadau oedd dyn â'i law ar lorp berfa.