Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

berfedd

berfedd

Gan ei bod yn berfedd nos neu yn oriau mân y bore, ni wyddwn yn iawn beth i'w wneud â'r jar te, roedd golwg mor wael arno, ond o ran parch fe gedwais gwmpeini i'r trwyth.

Cof gennyf o deithio droeon i Sir Fôn yn ystod y pedwardegau i wylio adar, ac uchafbwynt ymweliad berfedd gaeaf fyddai taro heibio Cors Cefni i gael golwg ar y Gwyddau Dalcenwen fyddai'n treulio rhan o'r gaeaf yno.

Torrid llinyn ei fogail allan a'i hoelio i dderwen, yna fe i gorfodid i gerdded o gwmpas y goeden nifer o weithiau nes bod ei berfedd wedi ei dynnu allan a'i ddirwyn o gwmpas y pren - bywyd am fywyd.

Nid paentio colur dwyieithog ar wyneb y Cynulliad ydy'r gamp, ond creu corff cenedlaethol sydd â'i organau a'i berfedd yn gweithio yr un mor effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Dyma fo, yn Blackpool o'r diwedd a'r sŵn yn cynhesu'i berfedd.

Ceisiai sugno i'w berfedd y golygfeydd gwibiog, hyd nes y brawychwyd ef gan gip ar gloc talu'r cerbyd.

(Gyda llaw, adleisiau o Iddew Malta a Dr Faustus a Tambourlaine (Marlowe).) 'Bei cawn i berfedd y ddaear im cist am coffr, mi gysgwn yn llonydd a gwyn fyddai fy myd'.

Cafodd hwnnw ei gadw dan glo, yng nghist galed y pericarp fel y cai ei basio yn gyfan drwy berfedd yr aderyn a'i fwrw i'r pridd yn rhywle arall.

Aeth honno o'i flaen gan ei dywys ar hyd grisiau cerrig, cul i lawr i berfedd y graig.