Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

beri

beri

Efallai y cofiwch i Rhys Owen a Lleucu Meinir beri difrod i Swydda Bwrdd yr Iaith dros flwyddyn a mwy yn ôl.

Gwrthododd toreth o Gymry adnewyddu eu trwydded deledu; arestiwyd a charcharwyd llawer o genedlaetholwyr eraill am beri difrod i drosglwyddyddion.

Yn yr osgordd hon o weinidogion digwyddodd fod un gŵr a fu'n arwr mawr i mi oherwydd iddo beri imi yn gynnar iawn yn fy oes nychu am fedru creu fel y gallai ef.

Roedd yn fore heulog braf er bod yr awel yn ddigon main i beri i Rhys gerdded yn gyflym.

Gallwn weld, hyd yn oed mor fuan wedi ei chyfarfod, fod meddwl wastad yn mynd i beri trafferth iddi.

Llew o gael rhyddhad oedd mynd ati i ysgrifennu gweithiau gwreiddiol a hefyd addasu chwedlau gwerin a ffeithiau hanesyddol, gan beri bod storm ym mynwes sawl plentyn wrth iddo fynd o antur i antur wrth droi'r tudalennau.

Oblegid creodd gatrodau o feirchfilwyr arfog, a wibiai'n gyflym ar draws gwlad gan beri dinistr i filwyr traed araf y Saeson.

dylai hynny fod yn ddigon i beri i unrhyw lygoden feddwl ddwywaith cyn ymosod ar hâd y goeden Ilex.

Cyfeiria'r bardd at anwadalwch y planedau, ac ymbil ar Dduw a'r seintiau i beri heddwch rhwng y ddwy diriogaeth.

Os oedd y cread yn peri syndod i'r Iddew gynt, dylai'n gwybodaeth helaethach ni amdano beri inni synnu hyd yn oed yn fwy.

Credai'r prifathro i'r fellten ddigyn i'r ddaear yn ymyl yr ysgol ac i dipyn o'i grym fynd i waith metel y rheiddiaduron gan beri iddo neidio ar ei draed yn bur sydyn mewn sioc.

Y maent hefyd yn dileu ambell ddarn a oedd yn debyg o beri tramgwydd i'w cyfoeswyr hwy.

Fy nehongliad i o'r bradychiad a'r dienyddiad (os caf roi fy nghasgliadau'n foel, heb ymhelaethu dim yma) yw i Jwdas Isgariot benderfynu traddodi Iesu i ddwylo'r awdurdodau yn y gobaith y byddai terfysg yn codi yn y ddinas o'i blaid ac y byddai'r rhyfel mesianaidd yn dilyn; i'r terfysg ddyfod o dan arweiniad Barabas a'i drechu'n ddigon buan gan filwyr Pilat; i Iesu wrthod yn y brawdlys a cherbron y dyrfa arddel y fesianaeth filwrol a'r deyrnas ddaearol wedi ei seilio ar rym arfau; ac i'r gwrthodiad hwn beri siom chwerw i'r bobl.

Mae agwedd Elin yn parhau i beri pryder.

Mewn achosion o'r fath, gall "Adennill" cyfeiliornus beri niwed di-ben-draw, a bydd yr Uned yn derbyn cyngor oddi wrth yr Adain Gefn Gwlad ynglŷn â gwerth safleoedd i'r amgylchedd.

Credaf y buasai gan yr Athro fwy o achos i lawenhau, yn hyn o beth pe buasai fyw heddiw, ond yr wyf yr un mor sicr y gwelai ormod o olion o'r drwg hwn ym mywyd y genedl i beri iddo roi ei saethau i gyd yn ôl yn eu cawell.

Mae hynny'n anodd i ni ei gredu heddiw mewn dyddiau pan yw cyplau ifanc nid yn unig yn cael cyfathrach rywiol - neu secs fel y bydda i'n i alw fo - ar ein teledu bob nos ond yn comowtio'n noeth ar rowndabowts hefyd gan beri pob math o dagfeydd traffig.

Trodd y Cyrnol a galwodd ar i un o'i is- gapteiniaid beri i'r ddau ffariar brysuro; yna aeth yn ei ol at yr heol fawr ac ailddechrau marchogaeth 'nol a blaen yn aflonydd.

Gall rhai nwyon cemegol o simneiau ffatrioedd hefyd beri i fetalau rydu.

Maen debyg mai Mark Roberts yw stricar prysuraf Prydain a redodd ar draws cwrt 14 yn Wimbledon eleni gan beri i Anna Kournikova guddio ei phen yn ei thywel.

Mae ynddo rym yr anorfod; grym ffaith; grym mawredd real y pellterau, y galaethau a'r nifylau tan, grym y cwriciau y mae disgyrchiant y ser niwtron yn ei beri i Amser.

Roedd hon yn ffordd dda i beri i blant fwrw eu swildod a magu hyder i sefyll o flaen pobol.

Cofier mai'r braster yn y pryd hwn yn hytrach na'r pysgod a'r tatws sy'n debyg o beri ennill pwysau.

Y golau oedd y peth cyntaf, a hwnnw yn ddigon i beri i ambell un ryfeddu ato weddill ei ddyddiau.

Yr oedd gwich Ms Wright yn un o ddau beth a ddigwyddodd yn ddiweddar i beri im cenhedlaeth i ymhyfrydu yn y ffaith nad ydyn nhw'n sgwennu caneuon fel yna mwyach.

Yn sicr, nid oedd dim ym mhryddest fuddugol Glanffrwd ar 'Y Gymraeg' i beri i'r Times ofidio.

Ar air, nofel i beri i John Morris-Jones droi yn ei fedd ac i Dostoiefsci godi ohono."

Collais ffrind pan fu Capten Lewis farw o beri-beri yn fuan wedyn.

Llithrodd cadno ar hyd y llwybr defaid a groesai Fynydd y Glog gan beri cyffro sydyn yn y ddiadell wasgaredig, ond ni chymerodd ef yr un sylw ohonynt hwy.

Ar y llaw arall, mae'r ychydig nwyddau sy'n llwyddo i gyrraedd y siopau yn diflannu ar unwaith am fod gwerth y rwbl yn disgyn o ddydd i ddydd gan beri i bawb frysio i gasglu eiddo yn hytrach na hel arian.

Yn ei araith groeso ar ôl cinio ganol dydd y diwrnod cyntaf, dywedodd y Maer na wyddai'n iawn beth oedd amcanion y mudiad yr oedd yn ei groesawu, ond ei fod yn credu y byddai'r mudiad yn gwneud gwasanaeth mawr i Gymru pe gallai beri i'r byd alw Brythons arnom yn lle Welsh: cawsai ef brofiad chwerw mewn busnes am fod yr un gair Saesneg yn enw ar y Cymry ac yn ferf a oedd yn golygu twyllo.

Mwg ac ager yn chwyrl~o allan o ambell agen yn yr ochrau, a rhyw dawch brwmstanaidd yn gordoi'r holl, gan beri i mi grychu fy nhrwyn wrth anadlu.

"Brysiwch." Roedd digon o arddeliad yn y gorchymyn i beri iddi ufuddhau.

Yr oedd un olwg ar ei haelodau cedyrn yn ddigon i beri imi wybod bod yr Arglwydd wedi ei hiacha/ u'n llwyr.