Mae rhai o'r technegau yn berthnasol iawn i fridio anifeiliaid fferm.
Dichon nad oedd hynny'n ymddangos yn berthnasol iawn ar y pryd, ond y mae'r disgyblion a fu yn y dosbarth hwnnw'n cofio'r wybodaeth hyd heddiw.
Nid oedd cyfaddawd yn berthnasol i'r drafodaeth, gan nad oedd ffordd ganol rhwng byw a marw.
Ni thybir ei fod yn uniongyrchol berthnasol i bwnc yr ysgrif hon, gan nad yr un o angenrheidrwydd yw'r hyn a ddywedir yn yr Hen Destament am y syniad o genedl â'r hyn a ddywedir am y syniad o Israel.
Hoffwn yn arbennig gyfeirio at yr hyn a ddywed yr Athro ar ddechrau ei lith, gan y teimlaf fod ei eiriau'n berthnasol iawn i argyfwng yr iaith heddiw.
Allan o'u cyd-destun nid ydynt yn fawr: yn eu cyd destun maent yn wefreiddiol berthnasol.
Roedd Y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi honni nad oedd y Ddeddf Cydraddoldeb Hiliol yn berthnasol i'r Gyrcas gan eu bod yn ymuno âr fyddin ac yn ei gadael hi yn Nepal nid ym Mhrydain.
Mae gwaith y chwaraewyr yn y gymuned yn gwneud Cerddorfa'r BBC yn uniongyrchol berthnasol i fywydau llawer o bobl yng Nghymru – yn enwedig y rheiny nad ydyn nhw hwyrach wedi tywyllu drws neuadd gyngerdd o'r blaen.
o eitem lO: Cytunwyd nad oedd y mesurau diogelwch ychwanegol yn yr adeilad ym Mlaenau Ffestiniog yn wir berthnasol i'r Ganolfan Gynghori.
Oherwydd natur y gwledydd neu'r diwylliannau y rhoeson ni lawer o sylw i Israel neu'r Mohawks yng Nghanada ac mae'n wir fod llawer o'r pynciau wedi bod yn uniongyrchol berthnasol i Gymru - ond roedd llawer nad oedden nhw felly.
Un dechneg o'r fath yw BLUP; gall hwn gymharu ansawdd gan ystyried unrhyw ffactorau eraill sy'n berthnasol, megis lle magwyd yr anifail, ei hanes teuluol, ffactorau megis rhyw neu ddul magu yr anifail.
Peth cyffredin iawn yn Lloegr, hyd yn oed ymysg gwŷr llengar, fu adweithio yn erbyn addysg glasurol, a diystyru llenyddiaeth Ladin a Groeg fel rhwybeth sych a phendantaidd na allai byth fod yn berthnasol i fywyd cyfoes.
i) ymgyfarwyddo â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a Chôdau Ymarfer Iechyd a Diogelwch fel y maent yn berthnasol i'w rôl;
Nid yw'n fwriad penodol, felly, i drafod rhagoriaethau a ffaeleddau un sir ond yn hytrach i gyflwyno casgliadau cyffredinol a gododd o'r astudiaeth ac sydd yn berthnasol y tu hwnt i Wynedd, ac mewn rhai achosion, y tu hwnt i Gymru.
Mae'r meini prawf gwerthuso a nodir ym mhob adran o'r Fframwaith yn berthnasol i bob disgybl, gan gynnwys y rhai gydag AAA.
Fe ofynnodd - - os oes elw yn cael ei dalu iddynt hefyd - doedd - - ddim yn gweld fod y ddadl honno yn berthnasol.
Y mae'r diffiniadau a ganlyn yn berthnasol i'r Cytundeb hwn:-
Daeth llythyr i law oddi wrth Gyngor Bwrdeisdref Arfon yn gofyn am enwebiadau ar gyfer Noson Wobrwyo Chwaraewr y Flwyddyn - penderfynwyd nad oedd y llythyr yn berthnasol i ni fel rhanbarth.
Bydd hyn yr un mor berthnasol i gynlluniau a ariannir yn rhannol gan Grantiau o'r Swyddfa Gymreig.
Addysg Gymraeg sy'n berthnasol i'r gymuned leol.
Yn ogystal â hynny, nid dim ond y gorffennol oedd yn berthnasol.
Yr oedd cryn ddadlau ynglŷn â'r ffordd yr oedd Plaid Cymru ynghlwm wrth fudiadau rhyngblaid fel CND, nad oeddynt yn uniongyrchol berthnasol i genedl aetholdeb Cymreig.
Mae'r Arolwg Perfformiad gydol y flwyddyn wedi dangos yn glir i'r Cyngor Darlledu bod gwneuthurwyr rhaglenni BBC Cymru, a'r rhai sy'n gyfrifol am strategaeth gyffredinol, wedi darparu cyfoeth o raglenni radio a theledu a fu'n berthnasol ac adloniadol i'r gynulleidfa sy'n gwrando ac yn gwylio.
'Am dros ddegawd, dioddefodd y system addysg yng Nghymru ffrydlif o ddiwygiadau honedig nad oedd yn berthnasol i Gymru, ac yn ymwneud yn unig â dogma marchnad rydd y Torïaid.
Tybed nad ydyn ni, rai ohonon ni, yn edrych ar air Duw fel print mân nad yw'n berthnasol i'n taith ni trwy fywyd?
Rydym fel Cymdeithas am ganolbwyntio ein ymdrechion ar ymgyrchu dros Ddeddf Iaith berthnasol i'r ganrif newydd - ac i'r Gymru ifanc ddemocrataidd newydd - a dyma fydd ein prif ymgyrch eleni ac fel ymateb i'r her hon rydym yn miniogi ein trefniadaeth ac yn cychwyn ar ymgyrch y prynhawn yma.
Mae'r hegemoni sy'n gweithio drwy'r gymdeithas yn gweithredu tuag at y nod o integreiddio'r holl gymdeithas i mewn i'r drefn ddominyddol - er enghraifft, mae'r system addysg yn gyfrwng tra effeithiol o gyflwyno'r diwylliant dominyddol, a gwneir hyn trwy ddewis a dethol yr wybodaeth sy'n 'berthnasol', 'gwerthfawr', etc., (er nad yw hon yn broses fwriadus ac ymwybodol, fel y nododd Gramsci) - ond mae rhannau o'r gymdeithas nad ydynt yn cael eu hintegreiddio'n llwyr.
Yn y cyfarfod - fydd yn cael ei gynnal am 12.30 Dydd Mercher bydd y Gymdeithas yn egluro pam yr ydym yn galw am Ddeddf Iaith berthnasol i'r unfed ganrif ar hugain.
Mae'n rhaid sicrhau, felly, fod y cyfleoedd a ddarperir yn berthnasol i ofynion y cyhoedd.
Dywedodd - - ei fod hefyd yn gweld fod cytundeb ar lefelau Ffioedd Rheoli yn berthnasol i bopeth ariannol ac i ddyfodol y sector annibynnol yng Nghymru.
I bwrpas crynhoi rhestr o anghenion ymchwil, penderfynwyd mabwysiadu'r fframwaith a ganlyn, sy'n dangos y gofynion o fewn un o bedair ffram gyd-berthnasol.
Ond y mae hanes yn bwnc sydd wedi cynyddu mewn bri yng Nghymru yn ystod yr wythdegau, ac wedibod yn destun trafod brwd, fel petai bellach yn bwnc gwir berthnasol inni oll.
Dylai'r holl ddogfennau sy'n berthnasol i'r cyfarfod fod yn y naill iaith a'r llall.
Cyffyrddir yn ogystal a strategaethau dysgu gwahanol megis "hunan addysgu cynhaliol," trefnu nodiadau a'u symleiddio ar gyfer plant a phroblemau iaith sydd yn benodol i un pwnc; agweddau cyffredinol a welwyd wrth arsylwi mewn ysgolion sydd yn fwy eang eu hapel ac yn berthnasol i unrhyw athro.
Mae'n deg tybio y gallai'r neges a yrrai'r tadau Piwritanaidd i'r afael â'r drygau hyn gyda'r Efengyl ar eu tafodau yn awgrymu y dichon fod eu neges hwy'n berthnasol yn ein hoes ninnau.
Mae elfennau eraill o'r hinsawdd, megis tymheredd a heulwen, sy'n berthnasol i amaethyddiaeth, hefyd yn amrywio o ardal i ardal.
Plant fydd yn adrodd y straeon sy'n berthnasol i'w hardal eu hunain yn ogystal â storïau mwy cyffredinol.
Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Uned Defnyddwyr i grynhoi gwybodaeth berthnasol i'r Cynllun Gofal.
DEFNYDDIO ADNODDAU: Mae'r uchod hefyd yn berthnasol i ddefnydd adnoddau, a dylai'r holl staff ddeall goblygiadau defnydd aneffeithlon ar adnoddau.
Ymhlith y rhannau ymadrodd (parts of speech) yn ein gramadeg mae yna un gyfundrefn gryno sy'n berthnasol yn y cyd-destun hwn.
Mae gwaith y chwaraewyr yn y gymuned yn gwneud Cerddorfar BBC yn uniongyrchol berthnasol i fywydau llawer o bobl yng Nghymru - yn enwedig y rheiny nad ydyn nhw hwyrach wedi tywyllu drws neuadd gyngerdd o'r blaen.
Gobeithiwn y byddwch yn datblygu'n athrawon ymroddedig a brwdfrydig a fydd yn ceisio hybu dysgu gwyddoniaeth fel profiad sydd yn cyfoethogi'r unigolyn ac fel pwnc sydd o bwys yn ein bywyd beunyddiol ac yn berthnasol iddo.
'Dwi eisiau i Cai a'i gyfoedion fedru derbyn addysg berthnasol fydd yn fodd iddynt ddatblygu meddwl agored, dadansoddiadol.
Os yw'r awdur yn gallu creu darlun digon cryf o ofnau mewnol dyn, yna mae hi'n bosibl dehongli'r myth hwnnw yn berthnasol i bob cenhedlaeth.
Mae cynifer o hen ymadroddion a rheolau gwledig yn parhau'n berthnasol.
Golyga tybiaeth (vi) fod y model a geir yn Ffigur I yn berthnasol i'r tymor byr yn unig, a thybiaeth (vii), ei fod yn un statig; h.y.
Pa flaenoriaethau datblygu ysgol sy'n arbennig o berthnasol i'r maes rydych chi'n gweithio ynddo?
Er i Diole\ ysgrifennu ei ddadansoddiad yng nghyd-destun gwaith a wnaed ym Môr y Canoldir, y mae ei ddadansoddiad ef o'r problemau sy'n wynebu archaeolegwyr môr yr un mor berthnasol i foroedd Prydain.
trwy nodi sut y gellid cryfhau statws y Gymraeg yn y gymuned leol a thrwy geisio pontio'r agendor rhwng y Cymry Cymraeg a'r Cymry di-Gymraeg lle mae hyn yn berthnasol.
Fel arfer, cynhyrchir ffilm trwy gadw at sgript sydd wedi ei pharatoi yn ofalus a bydd pob llun a dynnir yn berthnasol i fan arbennig yn y sgript honno.
Felly, nid yw'r sampl cyffredinol yn berthnasol yma.
Mae amrywiaeth mawr yn y gwahanol siroedd a rhaid disgwyl am ragor o fanylion mewn perthynas â gweithredu gofynion y Gymraeg cyn y gellir cynnig cyngor ar faterion polisi sy'n berthnasol i Gymru gyfan a siroedd unigol.
Mwy llwyddiannus yw'r straeon symlach sy'n ymwneud ag emosiynau sy'n berthnasol i bawb ohonom.
Gyda'r newidiadau yn nhrefniadaeth, strwythur a phwrpas HMS ar ddechrau'r nawdegau, perthnasol yw gofyn a fydd athrawon yn cael y cyfle i ystyried ymchwil sy'n berthnasol i'w dysgu?
Y mae'n codi'r cwestiwn hefyd tybed beth a fyddai cyflwr y Gymraeg yng nghymoedd glo y de pe byddai llenorion y gorffennol wedi llwyddo i greu llenyddiaeth rymus, berthnasol i'w byd.
Y mae'n rhaid i chi ar bob adeg gydymffurfio a chyd- weithredu â'r drefn ddiogelwch berthnasol i'ch swydd, ac i roi ystyriaeth ddyledus i ddiogelwch eich cyd-weithwyr.
Mae'r cwbl hyn yn berthnasol iawn wrth drafod gyrfa Penri.
Yn y cyd-destun hwn y mae'n berthnasol i grybwyll hefyd ein gwrthwynebiad i fwriad D^wr Cymru i godi gwaith carthion yn Llanfaes ger bedd Eleanor, gwraig Llywelyn ap Gruffudd a mam Gwenllian.
Eto, ychydig a ŵyr y Cymry amdani, er ei bod yn berthnasol iawn i brofiad ein gwlad ninnau yn yr un cyfnod.
Mae sylwadau'r Gymdeithas yn arbennig o berthnasol gan ein bod ar ganol ymgyrch o weithredu uniongyrchol i sicrhau fod y colegau addysg bellach yng ngorllewin Cymru yn dod yn sefydliadau cwbwl ddwyieithog.
Prinnach oedd unrhyw feirniadaeth a'i bryd ar amlygu pwysigrwydd ysgrifennu o'r fath os oedd y Gymraeg i oroesi'n gyfrwng llenyddiaeth a fyddai'n berthnasol i'r ardaloedd mwyaf poblog yng Nghymru'r ugeinfed ganrif," meddai.
Rydym fel Cymdeithas am ganolbwyntio ein ymdrechion ar ymgyrchu dros Ddeddf Iaith berthnasol i'r ganrif newydd - ac i'r Gymru ifanc ddemocrataidd newydd - a dyma fydd ein prif ymgyrch eleni.
Awgryma'r pwyslais hwn ar arbenigrwydd Israel, sy'n seiliedig ar y ffaith fod Duw trwy ei hethol yn ei gosod ar wahân i'r holl genhedloedd eraill ac nad ydyw ychwaith yn berthnasol i drafodaeth ar genedligrwydd fel y cyfryw.
Eglurwch sut y cyflwynir y pwnc, gan dynnu sylw at y cysyniadau dan sylw, y sgiliau a'r prosesau a ddatblygir a sut y mae'r syniadau yn berthnasol i'r byd y tu allan.
Dro arall gwelid y golygyddol yn troi'n adolygiad ar lyfr pwysig, un a roddai gyfle i'r golygydd roi ei farn arno, a thynnu sylw at yr hyn a fyddai'n berthnasol i'r ymofynwyr Undodaidd.
o'u siarad a'u gwrando: eu gallu i siarad a gwrando mewn amrywiaeth o gyd-destunau; i fynegi syniadau, teimladau a safbwyntiau; i roi gwybodaeth a chyfarwyddiadau ac ymateb iddynt, i ddarllen ar goedd, i actio ac i drafod mewn grwpiau bach a mawr; Pa amodau gwaith sy'n berthnasol?
Hyd y gellir dylai'r newyddion fod yn berthnasol.
Nid yw'n berthnasol i les y dinesydd eithr i falchder gwladwriaethau mân a mawr.
Aeth Ben â ni trwy'r gwahanol ddulliau ymgyrchu a ddefnyddiwyd gan Jiwbili 2000, ac er ei bod yn fudiad o fath gwahanol i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, roedd nifer o'r pwyntiau yn berthnasol i'r ymgyrch dros ddeddf iaith.