Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

berthyn

berthyn

Efallai nad ydym yn sylweddoli mai llên gwerin yw yr hyn y byddaf yn ei drafod, ond cawn weld fod yr un hanfodau yn perthyn i'r credoau a'r straeon cyfoes hyn, ac a berthyn i lên gwerin traddodiadol.

Fe berthyn i'r gwladwr pur y ddawn annaearol i fod yn yr union le pan fydd pobl ddieithr yn cyrraedd, ac 'roedd Elis Robaitsh, Tŷ Cam, wedi ei fendithio'n helaeth â'r ddawn hon.

Cyfrannodd swyddogion a chynrychiolwyr PDAG i drafodaethau nifer o bwyllgorau a gweithgorau a berthyn i gyrff addysgol eraill.

Gwaetha'r modd nid oedd eu mapiau yn dangos y bobl oedd yn rhan o'r tir na'u teimlad o berthyn i'w bro enedigol, na'u hatgofion yn ymestyn yn ôl dros y cenedlaethau at eu hen, hen hanes.

Gall eglwysi fod yn eglwysi Annibynnol heb berthyn i'r Undeb a'r un modd gyda gweinidogion.

Nid gofyn am garedigrwydd yr ydym ond am hawl a berthyn i bob cenedl.

Ond eto roedd y rhan fwyaf o'r Cymry yn tueddu i berthyn i'r Capel pan ddes i i Aberdaron.

Roedd eglwysi Llanfair Clydogau, Blaen-porth, Llannerch Aeron a Llanddewi Brefi i berthyn i'r pen-cantor.

Gallwn brofi pwysigrwydd yr uned bentrefol trwy gyfeirio at nifer o enghreifftiau e.e.l. Pan unir capeli, gan gynnal gwasanaethau bob yn ail mewn gwahanol bentrefi, tuedda'r mwyafrif o'r gynulleidfa ddod bob amser o'r pentref y cynhelir y cwrdd ynddo e.e.2. Pan fydd plentyn yn cael ei symud - trwy ddewis rhieni - i ysgol pentref arall, tuedda'r plentyn golli cysylltiad cymdeithasol anffurfiol hefyd â gweddill plant y pentre e.e.3. Pan gae'r ysgol, bydd holl blant y pentre'n colli'r ymwybyddiaeth o fod yn griw y pentre wrth fynd i'r ysgol uwchradd ac felly'n colli'r ymwybyddiaeth o berthyn ar y lefel hon.

Mae'n syndod pa mor niferus yw'r rhai sy'n tybio y gallant berthyn i eglwys ar eu telerau eu hunain a chredu beth a fynnont, heb ystyried beth yw gofynion Iesu Grist.

Os caf ddychwelyd am funud i sôn am ddisgrifiadau gwyddonaidd Kate Roberts o fywyd fel yr oedd yn y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon, hoffwn nodi ymhellach fod llawer o arferion ac o feddyliau yn ei gwaith hi sydd bellach wedi diflannu; ond y mae'n bwysig ein bod ni'n eu hadnabod - yn gyntaf, er eu mwyn eu hunain, hynny yw, oherwydd eu bod; yn ail, er mwyn gallu adnabod mai un o themâu cyson Kate Roberts yw newid: mae hi'n dweud yn rhywle nad oes dim byd oll mor gyson â newid; yn drydydd, mae'r arferion a'r meddyliau hyn yn dweud cyfrolau am agwedd meddwl ei chymeriadau - ac os na ddown i werthfawrogi'u hagwedd hwy at fywyd fe gollwn ran dda o'r rhin a berthyn i'r llenyddiaeth.

Hyd yn oed yn yr oes pan fu'r addysg yn gyfangwbl Saesneg, rhoddai'r ysgol i'r disgyblion yr ymdeimlad o berthyn ac aethant i'r ysgol uwchradd fel 'criw' y pentref.

Pe collid yr ysgolion hyn, a'r plant yn cael eu symud i ysgolion mewn pentrefi eraill yn ôl cyfleustra gweinyddwyr a chyfrifwyr, byddai'r plant yn cael eu hamddifadu o rai o gonglfeini'n haddysg gynradd - sef y sicrwydd o berthyn a chael eu hadnabod a'r gallu i gydweithio.

Yn Efrog Newydd y sylweddolodd gymaint oedd ei awydd i berthyn i grwp roc pan oedd yn ei arddegau yng Nghymru.

Ond y pentref unigol (a'r gweithle) yw sylfaen bywyd cymunedol naturiol neu anffurfiol y mwyafrif o drigolion ac, ar y lefel hon y creir ymwybyddiaeth o berthyn i gymuned organig ac amlochrog o'i gwrthgyferbynnu â pherthyn i fudiad neu garfan diddordeb arbennig.

Er hynny, fe fyn iddo gael yno gaer fawr a berthynai i arweinydd milwrol o'r dosbarh neu'r teip y gellid disgwyl i Arthur berthyn iddo.

Ni ellir dibrisio 'lleoliaeth' a'r syniad o berthyn yn glos iawn i ardal neu gymdogaeth ymysg ysweiniaid y ddwy ganrif hynny.

Yn ein barn ni, mi fyddai hyn yn ffordd mwy ystyrlon o geisio magu ymdeimlad o berthyn i'r Cynulliad ar hyd ac ar led Cymru.

Ymddangosai Alun Michael yn ddiffuant o ddiolchgar iddi am gyfraniad amserol a rhoddodd sicrwydd fod pob hawl i aelodau'r Cynulliad berthyn i'r Seiri Rhyddion ond na allent ddisgwyl bod uwchlaw arolwg.

Er bod un mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers i mi groesi'r ffordd o Fryn Meirion i'r Coleg ar y Bryn, erys ynof yr ymdeimlad o falchder imi gael y profiad gwerthfawr o berthyn i'r gyfundrefn ddarlledu enwocaf a'r fwyaf ei pharch yn y byd.

Gellir rhannu'r nodweddion gorau rhwng y rhai cyffredinol a berthyn i'r uned neu'r ysgol feithrin a'r rhai mwy penodol yn y dosbarth.

Er ei methiant cymharol (ac onid trafod llwyddiant a methiant cymharol yr ydym mewn celfyddyd fel mewn bywyd?), fe berthyn iddi liaws o rinweddau, ac efallai fod hyd yn oed ei gwendidau yn dadlennu pethau diddorol am natur ein diwylliant llenyddol yn gyffredinol.

Yr ysgol bentref fu'r cyfrwng pwysicaf i ddatblygu'r ymwybyddiaeth hon o berthyn i'r gymuned leol.

Rhoes y brenin ganiatâd i Bec hefyd wneud eglwysi prebendaidd ohonynt, neu i berthyn i eglwysi a oedd yn brebendaidd yn barod.