Roedd popeth arall wedi newid yma, a hen gelfi wedi cymryd lle'r holl foethusrwydd a berthynai i'r bwthyn pan oedd yn gartref i'w chwaer.
Fe berthynai'r saint, yn fras, i'r oes Arthuraidd, a rhan o'r darlun hanesyddol o Arthur yw'r portread ohono a geir yn y Bucheddau, er ei fod yn sicr yn cynnwys elfennau chwedlonol.
Nodwedd arall a berthynai i'w gymeriad a'i gynnyrch oedd cadernid a phendantrwydd, a hyn a wnaeth ei olygyddiaeth, fel ei weinidogaeth, yn rymus ac effeithiol.
Naturiol i Israel, fel eraill a berthynai i'r un cefndir â hi, oedd meddwl amdani ei hun mewn dull a oedd yn addas i'w bywyd cymdeithasol.
A hyd yn oed pe bai'r testun yn hŷn nag y gallwn ar hyn o bryd ei brofi, mae'r ffaith nad oedd copi%wyr diweddarach wedi moderneiddio nac addasu'r hanes, drwy gydblethu'r cnewyllyn brodorol ag elfennau o draddodiad arall, yn awgrymu'n gryf yr ystyrid y chwedl Gymraeg am Drystan ac Esyllt fel stori wahanol, mewn rhyw fodd, i hanesion eraill a berthynai i'r un un byd Arthuraidd, a bod y chwedl wedi ci thrin yn wahanol o'r herwydd.
Nodweddir llawer o'u canu hwy gan yr ysgafnder a berthynai i'r traddodiad gwledig fel y'i ceir yn y penillion pyncio a'r cerddi ymddiddan.
Cyhuddwyd ei fab Samuel o ladrata gweithredoedd a berthynai i feistr tir arall, cafwyd ef yn euog a charcharwyd ef am flwyddyn.
Anifeiliaid a berthynai'n wreiddiol i diriogaethau o amgylch y Môr Canoldir yw cwningod, ond a gludwyd yma i Brydain gan y Normaniaid.
Diflannodd llawer o ddirgelwch gwaith yr alcemegwr ynghyd a'r hud a lledrith a berthynai iddo, pan ganolbwyntiodd Robert Boyle ffisegydd a chemegydd Prydeinig, ar ddatblygu moddion a phils i'r claf.
Delwedd arall a berthynai i waith yr offeiriad, ond wedi ei gosod o ongl hollol wahanol, yw honno am Grist fel yr Archoffeiriad mawr a gyflawnodd ddefodau puredigaeth fel y daeth hi'n bosibl i bechaduriaid fynd i mewn i gysegr presenoldeb Duw, yn union fel y caniateid i'r Archoffeiriad fynd drwy len y cysegr i bresenoldeb Duw (Heb.
Rhoddwyd cyfle iddynt i gyd-drafod a mynegi eu barn ar y ddogfen ymgynghorol yn gyffredinol, ac yn benodol ar y rhannau ohoni a berthynai i'w priod feysydd.
Er hynny, fe fyn iddo gael yno gaer fawr a berthynai i arweinydd milwrol o'r dosbarh neu'r teip y gellid disgwyl i Arthur berthyn iddo.
Mae gennyf rai llyfrau yn fy llyfrgell a berthynai i Lloyd George.
Buwyd yn cyfarfod mewn ysgubor a berthynai i Robert Parry, y cigydd, am rai blynyddoedd.
Dyma'r rhan bwysicaf o ddigon a berthynai i'r olwyn.
Cerdd arall a berthynai i'r Mudiad Rhamantaidd oedd hon, ond un o gerdd gwannaf y mudiad ydoedd.
Cawn olwg ar ffynhonnell gyllidol werthfawrocach na'r enillion tirol; sef y brenin yn ennill y gallu a'r breintiau a berthynai i Lywelyn Ap Gruffydd yn y gogledd ynghyd a'r wrogaeth a berthynai i'r Tywysog.
Ymhlith yr ysgolion enwocaf yr oedd y rheiny yn yr Almaen a'r Iseldiroedd a berthynai i'r urdd grefyddol ryfedd honno, Brodyr y Bywyd Cyfun (...).
Yn ystod y flwyddyn Sabothol a gymerodd Dyfnallt Morgan tua deng mlynedd yn ol, fe'm rhoddwyd i (a fyddai wedi dwlu ar gael bod yn ddisgybl i RT) yn athro ar ei weddw - arni hi a'r lodesi eraill a berthynai i ddosbarth allanol Dyfnallt ym Mangor, hyhi a'i chydlodesi a'r diweddar Mr RS Rogers (o annwyl goffadwriaeth).
Yn ogystal, cyflogodd William Jones, Talybont i wneud cynllun manwl o'r Plas a'i erddi, i gofnodi enw pob fferm a oedd yn perthyn i'r Stad ac ysgrifennu yn y gyfrol enwau pob cae a berthynai i'r ffermydd hynny.