Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

betha

betha

Mae 'na gymaint o betha' i mi gael eu gwneud nhw wsnos nesa.

"Ac yli." ar yr un gwynt, "cyn i ti glirio dy hen betha estyn slipars dy daid i Yncl Hughes.

Fe ddysgais i lawer o betha' oddiwrth Angharad...

Dau yn unig oedd yn y ras y diwrnod hwnnw ac yr oedd y Rheolwyr yn betha' od o glên, pob parch iddynt, ac yn holi'n ddifrifol o gwrtais.

Wedi dod yn rhydd o'r breichiau cryfion cafodd JR ei lusgo i'r gadair freichiau ger y tân a rhoddodd Laura Elin orchymyn siarp i'w mab Hywal, a eisteddai ar y stôl drithroed, yn pigo'i drwyn, i symud 'i hen betha oddi ar y bwrdd i'r gŵr bonheddig gal tamad yn 'i grombil.

'Diawl, tydyn nhw'n ddau o betha' del, hogia.' 'Wel o leia', 'ngwas i, ma'r hwch yma a finna' yn dal hefo'n gilydd.'

Mae'r cwn poeth i gyd hefo chdi ar y llwyfan 'na.' Ar wahan i ryw betha bach fel 'na, roedd o'n hen foi iawn.

Rydw i â 'ngolwg yn barhaus ar betha 'mhlentyndod y dyddia hyn.

A does gen i neb ond ti ar achlysuron prin fel hyn i ddod yn ôl efo mi i ail-fyw chydig ar yr hen betha.

''Dan ni'n rhannu pob math o betha,' meddai Siwsan J.

Cyn hynny, roedd yna fwy o betha i'w gwneud, mwy o lefydd i fynd iddyn nhw, digon o hwyl.

Pan mae'r awydd a'r ysbryd yn caniatâu gallaf golli amser neu ennill - (mae'n dibynnu sut mae rhywun yn edrych ar betha!) yn eistedd yn gwylio fflôt wrth geisio dal pysgod crâs.

Roedd joints plastig yn betha digon handi!

Duw a ŵyr, roedd digon o betha hanfodol i'w gwneud cyn rhyw fanion dibwys fel trwshio llechan ar ben to!

Wrth gwrs, mae'r intifada wedi newid lot o betha.

Er mod i wedi gwneud llond Chevette glas o'r enw Fflem o bethau gwallgo, pentwr go fawr o bethau gwyllt a llond casgen o bethau gwirion, a phob tro mae rhain yn cyfuno i fod yn wallgo gwyllt a gwirion bost elli di fentro bod Branwen ac Angharad nepell i ffwrdd; er mod i wedi gneud tomen o betha gwirion, y gwir ydi, a dwi yn meddwl hyn o ddifri, dwi ddim yn credu mod i'n difaru gwneud dim erioed.

Ond mi Iynaist ti wrth dy wreiddia." "Mae hi braidd yn hwyr i ti feddwl am betha felly rşan.