Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

betrus

betrus

Os teimlodd haneswyr llên Cymru'r rheidrwydd i gydnabod, er yn betrus, ddylanwad y Trwbadwriaid ar y Rhieingerddi, mae'n siŵr y buasai haneswyr llên y Trwbadwriaid eu hunain yn barod i hawlio dylanwad y llên honno arnynt, petasent yn gwybod amdanynt hwy, oblegid un o ryfeddodau'r canu Trwbadwraidd ydyw belled y cyrhaeddodd ei ddylanwad a chyflymed.

Edrychai Emli braidd yn anniddig, a hytrach yn betrus hefyd.

Trafododd yn betrus ddigon darddiad enwau lleoedd, nododd ffiniau'r plwyfi, disgrifiodd natur amaethu a chynnyrch yr ardaloedd, a chyfeiriodd at ychydig o henebion.

'Wel, ydy,' atebodd y wraig yn betrus braidd, 'ond alla i eich helpu chi?'

Holodd yn betrus.

Clywai, er gwaethaf yr eginyn o hunanhyder a oedd yn bygwth blaguro'n betrus ynddo, yr angen am rywun yn gefn iddo yn ei ddiflastod ac i herio'r dagrau o rwystredigaeth a lletchwithdod rhag mentro ymhellach na'i lygaid.

Ar ôl rhyw decllath trodd ar ei sawdl a dod yn ôl yn betrus.

'Fu'r syniad o ail fis mêl fawr o lwyddiant mae gen i ofn,' meddai'n betrus.

Canodd adeyrn yn rhywle: yn betrus i ddechrau, yn unig ac arloesol ond yna, gan anghofio'i ofnau ym mhereidd-dra ei gan ei hun, yn sicr-orfoleddus.

Ar y dechrau, bu'r Ysgrifennydd Cartref Winston Churchill yn betrus, ond cyn bo hir rhoddodd rwydd hynt i'r ceisiadau am Gatrawd Gwyr Meirch a throedfilwyr yn y Rhondda, yn groes i ewyllys RB Haldane, yr Ysgrifennydd Rhyfel.

'Ella 'mod i'n anghywir,' cynigiodd yn betrus, 'ond hyd y gwela i mae cadw'r cyfrifon yma'n mynd i gymryd llawer llai o amser nag yr oedd ych tad yn 'i awgrymu.

Yn gadarnhaol y mae'n ffydd ddi-betrus ym muddugoliaeth gwirionedd.

Mewn cyfres o stori%au byrion, byrion, ffwrbwt weithiau, gyda thro yn y gynffon a rhyw islais o ddirgelwch yn gorwedd wrth wraidd nifer ohonyn nhw, mae'n edrych allan ar y byd, ambell waith yn chwyrn, ambell waith yn betrus, ond bob amser trwy lygaid unig ac ynysig un person sydd wedi ei charcharu yn ei chnawd a'i meidroldeb ei hunan.