Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

betys

betys

Yng ngwledydd Llychlyn fe gymysgir stribedi betys efo briwgig i wneud 'peli cig'.

Tybir i hyn ddigwydd am fod y betys yn hybu effeithiolrwydd yr iau; ac un o swyddogaethau'r iau yw trin braster.

I bwrpasau meddyginiaethol gellir paratoi sudd betys trwy grasu'r betys, eu plicio wedyn a'u malu'n ddarnau mân a'u rhoi trwy hidlen neu gymysgydd bwyd, ac yna ychwanegu dŵr neu ddŵr mwyn (mineral).

I'w coginio'n gynt a chadw mwy fyth o'r maeth gellir torri'r betys amrwd yn stribedi mân, eu rhoi mewn sosban gyda'r mymryn lleiaf o ddŵr a llond llwy fwrdd o olew'r olewydden neu flodyn yr haul.

Nid chwedl felly yw rhinweddau betys.

Addas i'r haf yw'r cawl oer a wneir o stribedi betys, sug oren, iogurt a dŵr cyw iar.

Dylid trin dail betys yn debyg i'r modd y trinnir spinaits; ond gwell torri ffwrdd y rhan isaf o'r goes sy'n tueddu i fod yn wydn.

Berwi betys sy'n arferol gennym ni.

o annwyd, a bod rhai yn colli pwysau er gwaetha'r siwgr sydd mewn betys.

I wneud te betys o'r dail, maler yn fân tua dwy gwpanaid o'r dail eu rhoi mewn sosban efo wyth cwpanaid o ddŵr a berwi am un munud.

BETYS COCH Nid yn aml y gwelir betys coch amrwd yn y siopau y dyddiau hyn.

Yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi dadansoddi gwreiddiau a dail betys a chael ynddynt rai sylweddau anhysbys ynghyd â ffibr, haearn, caliwm, potasiwm, y fitaminau A, C a nifer o'r cymhlyg B, gyda'r dail yn arbennig o gyfoethog mewn haearn a fitamin A.

Gellir hefyd goginio stribedi betys, efo llyfiad o olew drostynt, yn y popty; neu eu crasu mewn llefrith.

Wrth reswm mae betys amrwd yn arbennig o faethlon.

Ym Mhrifysgol Warsaw yn y saithdegau cafwyd fod pobl oedd yn yfed sudd betys amrwd yn feunyddiol yn dioddef llai na'r cyffredin.

Ym Mhrydain 'roedd prinder pethau fel sebon, llafnau eillio, ac 'roedd rhai merched yn defnyddio betys cochion fel minlliw, a brownin grefi ar eu coesau yn lle sanau.

Ac yn yr Unol Daleithiau defnyddir betys mewn pob math o gyfuniadau: betys efo oren, betys efo afal, betys ar dôst efo pennog ac wyau wedi eu berwi'n galed; betys mewn iogurt efo cennin syfi, sinamon a nytmeg - i enwi dim ond rhai.

Yn draddodiadol mae sudd betys a te betys (a wneir o'r dail) yn feddyginiaeth rhag diffyg gwaed, i gywiro pwysedd gwaed isel ac i wrthwneud gormod o asid yn y cylla.

Gwell fyth o safbwynt cadw'r maeth yn y betys yw eu crasu yn y popty.

'Roedd y Groegiaid yn gwerthfawrogi betys fel bwyd meddyginiaethol.

Er yr Oesoedd Canol mae'r Ffrancwyr wedi defnyddio sudd betys i buro'r iau (afu).

Mae merched yn Rwsia, yr Almaen a Gwlad Pwyl yn cymryd te betys yn rheolaidd i gadw trefn ar y gyfundrefn genhedlu.

Yn yr Almaen a Gwlad Pwyl heddiw defnyddir gwraidd betys a'r sudd ymron yn ddyddiol i hybu gallu'r corff i wrthsefyll afiechyd.