Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

beunydd

beunydd

y dyn sydd byth a beunydd yn canmol ei wlad a'i iaith, ac yn aml yn dal swydd fras o'u herwydd, ond sydd er hynny yn magu ei blant yn Saeson uniaith.'

Ac wedi cyfaddef bod agendor rhwng delfryd ac ymddygiad yn fy arferion bwyta, megis mewn llawer o bethau eraill, rhaid imi ganmol y bacwn a'r wy a gawsom i frecwast bob bore cyn cychwyn ar y daith, a'r bara toddion bras nad yw dietegwyr heddiw yn ei gymeradwyo, y brechdanau ham, a'r caws, a'r tomatos a'r afalau a baciwyd beunydd ar ein cyfer.

a mwy amryw ar ymadroddion nag sydd gennych yn arferedig wrth siarad beunydd yn prynu a gwerthu a bwyta ac yfed'.

Bob tro y meddyliai amdani, hyllaf yn y byd y gwelai ef ei hwyneb a'i chorff hen, fel bod y côf amdani bellach yn hunllef a dyfai'n ffieiddiach beunydd.

Dychwelant atynt byth a beunydd i ymdrybaeddu yn nirywiad ein diwylliant.

Dyma lle yr oeddynt hwy a'u teuluoedd yn preswylio - yn byw yn foethus yng nghanol eu llawnder - yn ymdroi mewn porffor a lliain main ac yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd eu plantations ar y dyffryn, neu hwyrach tua glannau y Mississippi, yn cael eu gweithio ymlaen gan eu niggers, ac overseers uwch eu pennau.

Nid rhyfedd i feirdd megis Wiliam Llŷn a Wiliam Cynwal roi cymaint pwyslais ar y 'Tŷ bonedd (a'r) Tŷ rhywiog' ynghyd â'r 'beunydd hil bonedd helaeth'.

'R oedd yn un o'r rhai "ymysg trueiniaid daear, sydd a'u trem/ Yn treiddio beunydd trwy barwydydd clai/ I wylio'r ser o hyd ar Fethlehem." Wrth ef a'i fath, deillion ydym oll.

Mae'r ddau'n ymladd byth a beunydd yn Ffrainc am fod y Brenin Edward III o Loegr yn mynnu mai fe biau tiroedd arbennig yn Normandi, Anjou ac Aquitaine yn Ffrainc.' 'A beth am y milwyr Ffrengig cyffredin?' 'Maen nhw'n meddwl bod Owain yn filwr gwych.

Gwneir ffyliaid ohonom i gyd beunydd.

A rhaid cyfaddef mai dipyn o gamel fu+m i am nifer o flynyddoedd - yn byw allan o'r bag oedd gen i ar fy nghefn ac yn symud o fan i fan byth a beunydd.

Er inni gael ein creu, yng ngeiriau'r Salmydd, 'ychydig is na'r angylion', er inni gael ein cynysgaeddu â meddwl rhyfeddol a doniau nodedig, pobl ydym o gig a gwaed, llestri llawn craciau, yn dyheu beunydd am angor, am gysur a sicrwydd.

Fedrwn ni ond gobeithio y bydd cerddoriaeth o'r fath yn cyrraedd y siopau'n eithaf buan ond, yn y cyfamser, fe fydd Gang Bangor yn ei chwarae byth a beunydd, a does gennym ni ddim bwriad ymddiheuro am hynny.

Pa Gymro nad yw'n gywilydd ganddo weld y nifer o eiriau Saesneg sy'n cartrefu beunydd yn ein hiaith?

Teimlai Vera'n agosach ato ef nag y gwnâi at eraill y gweithiau iddynt; roedd hi'n gartrefol ac yn gysurus yn ei gwmni, ac er nad oedd hi'n un i hel clecs, roedd Edward Morgan wastad yn barod am sgwrs ac ni fyddai, fel y rhan fwyaf o'i chyflogwyr, yn siarad byth a beunydd am ei hunan.

Yr oedd cyhuddiad o ragrith yn erbyn yr offeiriadaeth ar wefusau Hughes byth a beunydd yn y cyfnod hwn.

O ludw'r hen aelwydydd - tywynodd Tanau dros y gwledydd, O bennau'r bryniau beunydd - rhoi cyfrin Oleu fu gwerin y gwael fagwyrydd.

Nodir y byddai lle ar dudalennau "TIR NEWYDD" i bob agwedd ar waith yr artist, a mynegiant llawn o'r diwylliant modern gan gynnwys y wyddoniaeth sydd fwyfwy beunydd yn ffurfio sail nid yn unig bywyd cyffredin ein gwareiddiad heddiw ond ein bywyd esthetig

Ond dywedodd Arglwydd Brecon ei hun ei bod hi'n drueni na wnâi'r ardaloedd Cymraeg fwy i gychwyn diwydiannau eu hunain yn hytrach na galw byth a beunydd am gymorth o'r tu allan.