Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bicio

bicio

Yr ydw i am bicio i siop lyfrau ddydd Sadwrn.

Wel ydi, mae pawb hefo tractor, a chlymu fferm wrth fferm, ffermwyr cefnog yn awyddus i gael gafael ar y tir ac yn barod i adael i'r hen fythynod fynd er mwyn cael byw yn y cymoedd, gan bicio i fyny bob hyn a hyn mewn cerbyd neu dractor neu rywbeth.

Haws o'r hanner oddi yno fydd iddo bicio i gefnogi tîm rygbi Cymru a thîm criced Morgannwg.

Cofiaf wylio cynnwys y llyfr hwn mewn cyfres faith ar y teledu sbel yn ol a James Burke yn traethu gyda huotledd wrth bicio o wlad i wlad i gyfleu ei syniadau am hanes gwareiddiad.

'Glywist ti?' 'Be?' 'Mae o wedi boddi.' 'Pwy?' 'Ne' wedi marw.' 'Ond pwy, Leusa?' 'Y Captan 'te...Captan Timothy.' ''Rioed?.' 'Cyn wiried â'r efengyl i ti.' 'Pwy oedd yn deud?.' 'Sydna, y forwyn fawr, hi ddeudodd, gynna, pan o'n i yn mynd â'r lludw allan.' 'Raid i mi bicio i'r stabla rwan, i ddeud wrth Robert 'y mrawd.

Cadwai olwg ar y datblygiadau diweddaraf ym Mhrydain ac Ewrop trwy gylchgrawn The Studio a thrwy bicio i Lundain yn aml i weld arddangosfeydd.

Roedd hi'n rhy hwyr i mi bicio adref a gofyn i Mam am frechdan bacwn!

"'Roeddwn i'n meddwl amdanoch chi," meddai Ann Ifans, "'roeddwn i am bicio i lawr gyda'r nos.