Wedi dod o hyd i'w phwrs, bydda Bigw yn cael gafael ar yr arian ac yn gwthio rhywbeth gwirion fel punt, neu bumpunt weithiau, i'n dwylo.
'Ylwch be gawson ni gan Bigw.' 'Brensiach annwyl,' fydda Mam yn ei ddweud ac yn cymryd y prês oddi arnom yn syth yn barod i'w roi yn ôl i Bigw tro nesaf.
'Yf, Bigw, yf...' Yn y diwedd, rwy'n cymryd ei phen i'm dwylo ac yn torri pennau'r blodau i gyd i ffwrdd.
Byddai Bigw yn pwdu efo ni am dipyn, ac yna'n gwneud yn union yr un peth cyn pen diwedd y mis.
Mi fydden ni blant yn eistedd yn y parlwr tywyll a byddai Bigw yn estyn ei bag.
Efo Bigw, roedden ni'n teimlo ein bod yn gwneud rhywbeth drwg.
'Bobl bach!' medda Bigw.
'Dydw i ddim yn dweud.' 'Pwy sy'n dy licio di, 'ta?' 'Wn i ddim.' 'Pwy sy'n caru dy wallt hir tywyll ac yn ysu am gribinio ei fysedd drwyddo?...Bertie?' Chwarddodd Bigw yn bryfoclyd.
Drwy gil fy llygaid, gwelaf Bigw yn edrych ar y pethau am amser hir iawn.
Mae Bigw yn mwydro am rywbeth.
Chwerthin a chwerthin ddaru ni, a finnau'n mwynhau edrych ar Bigw yn hapus, ei gwallt newydd yn siglo yn ôl a blaen fel pendil, a'i dannedd gwyn yn y golwg.
Wyddai Bigw ddim beth i'w wneud â'i harian, felly doedd waeth iddi ei roi i'r plant ddim.
''Gorwch nhw Bigw,' dwi'n ei ddweud mewn llais uchel.
"Mewn garej ydy ni, Bigw.'
'Wnaiff rhain y tro, Bigw?' 'Del iawn.' Mae popeth yn ddel iawn gan Bigw.
Bigw annwyl, wyddwn i ddim p'un ai i chwerthin neu grio.
Rwy'n dychwelyd i'r car ac yn dangos y bloda i Bigw.
'Pwy wyt ti yn ei licio, Bigw?'
Yna fe ddeuai Bigw atom yn flin, a gofyn, 'I be oeddech chi eisiau dweud wrth Mami?' a golwg gyhuddgar yn ei llygaid.
'Ia, Bigw.
'Na, dwi'n iawn, Bigw.
'Y blodau!' gwaeddodd Bigw, ac edrychais i fyny a'i gweld yn bwrw blodau, cafod fawr o flodau amryliw yn ein tagu gyda'u perarogl.
Wrth gwrs, byddai'r cyfarfyddiad nesaf rhyngom a Bigw yn un anghyfforddus.
'Faint oeddan nhw'n gostio?' 'Peidiwch â thrafferthu, Bigw.'
Roedd hi'n gallu rhoi popeth i'w phlant heb gymorth Bigw.
Rydw i'n estyn y pethau o'r cefn efo un law a'u rhoi ar lin Bigw tra'n llywio'r car o'r garej yn ôl i lif y traffig.
Gwthiais y gwelltyn i'r twll a'i sipian yn braf, yna'i basio ymlaen i Bigw.
"Mewn garej ydy ni, Bigw.' Pan af at y cownter, dywed y dyn nad siec sydd ei angen ond y cerdyn.