Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bisyn

bisyn

Wedi darfod y ddau dwll mae ei fêt sydd ar y top yn gollwng dau bisyn o haearn crwn iddo; mae yntau yn eu rhoi yn y tyllau, wedyn mae'r sawl sydd ar y top yn gollwng darn o bren iddo.

Yn ôl y drefn arferol, roedd pawb oedd wedi mynd ar y trip wedi cyfrannu ychydig o newid mân 'fel cydnabyddiaeth i'r dreifar', ac rwan fod pawb arall wedi disgyn o'r bws oddi allan i'r post, fe estynnodd Elsie Williams y cwbl i Elfed: swp o ddarnau dwy geiniog a phum ceiniog ac ambell bisyn deg wedi eu casglu mewn pecyn marjarîn oedd yn dal i gynnwys ychydig friwsion ar ôl brechdanau rhywun.