Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

biti

biti

Mae'n biti bod yna gynifer ohonyn nhw, oherwydd dyma lyfr sy'n cyflwyno "genre% newydd i'n llên - llyfr sydd yn efelychu ac yn cael ei ysbrydoli gan gêmau cyfrifiadur.

Biti ei bod hi mor styfnig a diweledigaeth, meddyliodd Alwyn.

Er mi fyddai'n biti petaen nhw'n cael angau a nhwythau ond prin nabod ei gilydd.

'Ond mae o'n werth 'i bwysa mewn aur er hynny, er 'i fod o mor dew a thrwm.' 'Mae'n biti na fasa fo wedi priodi a chael rhywun i ofalu amdano fo,' sylwodd Mrs Richards.

Biti bod yr hen wraig mor fusgrell, oedd sylw trist gwþr y pentref, wrth ddychmygu symudiad bysedd Morfudd dros eu cyrff hwythau.

Biti garw.

Tydi o'n biti na fasa hithau'n gallu eu gweld?

Yn sicr yn agoriad grymus i'r albym ond biti nad yw'r gân yn cychwyn yn bendant.

Ella fod gan Mam biti drosto fo ond fedra i yn fy myw gymryd ato fo.

A biti garw hefyd mai'r bobol sydd heb rithyn o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, na gwybodaeth chwaith cyn amled â pheidio, sy'n penderfynu pwy sy'n cael mwyafrif yn y Senedd.

Biti na fyddai pawb yn cael gwisgo dillad lliwgar, meddyliodd.

"Biti na f'asa dy geg di 'nte, Mari!" Gresyn na fuasai gennyf finnau amgenach rheolaeth ar fy nhafod.

Biti garw am hynny, achos mi oedd Mrs Robaits, Cae Hen, wedi gaddo ers talwm y caen ni'n tri fynd efo hi a Jên a Jim i draeth y Foryd am ddiwrnod.

O, biti 'ntê?

'Biti garw.

Biti am hyn ar ôl cael dwy act oedd yn datblygu'n addawol o ran plot a chymeriadaeth.

Yn wir roedd o mor denau roeddech chi'n gallu cyfrif ei asennau o ac er ei bod hi wedi tantro gymaint yn erbyn ei gael o, roedd gan Mam biti drosto.

'Mae hi'n...hen...ac mae hi'n marw...ac mae hi ishio'ch gweld chi...' 'Biti.'

"Biti 'na fasa chi wedi dwad ymlaen i gyfarfod Deilwen," sibrydai Menna, 'Does dim byd yn ffroenuchel ynddi, a mae hi'n meddwl y byd o gael actio yma." "Beth am Lewis Olifer?

Biti na fyddai cymorth dysgu fel hwn ar gael pan oeddwn i'n hogyn.

Yr unig biti oedd mai un o bob pâr roedden nhw wedi'i bwyta.