Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bla

bla

Roedd gan yr arlywydd fwy ar ei blât na cheisio achub ei wlad; roedd ei briodas, hefyd, mewn trafferth.

Daethant yn fwy hyf a ffyrnig fel y ciliai awdurdod y Rhufeiniaid, nes dod yn bla ar y wlad a rhaid oedd ceisio'u gorchfygu.

"Rwy 'di gweud wrthot ti o'r bla'n.'

Ni fyddai byth yn bwyta crystiau, a chyn codi oddi wrth y bwrdd arferai eu gwthio o dan ei blât.

'Dwi'n cofio unwaith mam wedi gwneud cwstad wy, a thrwy rhyw anffawd disgynnodd matsian i'r cwstad, heb i mam sylwi, fe gyrhaeddodd y fatsian ar blât 'y nhad, ac yntau'n troi at Glyn, fy mrawd, a deud 'Gymi di hanner y fatsian 'ma efo fi Glyn?' Os bydda ni'n digwydd mynd i rywle i gael bwyd wedyn, tŷ ffrindia' neu gaffi, ac os bydda rhywun yn cynnig cwstard, mi fydda ni i gyd fel un yn dweud, "Oes 'na fatsian yno fo?" 'Roedd nhad yn ddoniol pan oedd o wedi gwylltio hyd yn oed, dyma ddwy enghraifft sy'n dod i'r cof.

Safai o hyd ar flaenau'i thraed tua hanner ffordd ar draws llawr y gegin, yn ei choban wen, a'i breichiau ar led fel petai ar ganol cofleidio rhyw berson anghwmpasadwy, a'i llygaid wedi rhewi'n fawr a chrwn fel dau blât piwtar.

ar ôl astudio'r fwydlen dewisodd hi blât o paella reis gyda darnau o gyw iâr a bwyd môr ).

Roedd hi'n fantais dod o hyd i Gymry ar wasgar a chael golwg ar y sefyllfa drwy eu llygaid nhw - diffiniad ar blât o'r safbwynt Cymreig - ond faint o'r radicaliaid Cymreig fyddai'n mwynhau clywed Cymry De Affrica yn amddiffyn apartheid, neu'n clywed Cymry De America'n cefnogi unbeniaid yn erbyn tlodion, neu'n gwneud ffortiwn mewn gwledydd tlawd ar draul y brodorion?

Erbyn heddiw, mae cwningod yn prysur adennill eu tiriogaeth ac mewn rhai mannau y maent yn bla unwaith eto.

Y mae trigolion trefi glan môr yn y gogledd yn cwyno fod gwylanod yn bla yno.