Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blaenaf

blaenaf

'Y rhai fydd wrthi, wyddost, fydd yr hen Ddic Owen Turnpike a'r hen Wil Thomas - y nhw fydd y dynion blaenaf.

Y Cwmni Blaenaf am rentu cerbydau yng Nghaerdydd a De Cymru.

Colbir yr Eisteddfod Genedlaethol am roi'r 'lle blaenaf o hyd i ffurf obsolesent fel yr awdl'; y mae'r Eisteddfod wedi mynd yn sioe enfawr ariangar, wedi ei llwyr ysgaru â phob rhith o gelfyddyd'; ac y mae ei chystadlaethau'n anathema i gelfyddyd.

Cerddodd yn dalog at y blaenaf o'r ceir.

Heblaw unigolion a theuluoedd fe ddaeth newydd-ddyfodiaid eraill i'n mysg yn ail chwarter y ganrif hon, sef y mudiadau newydd fel Sefydliad y Merched a Chlybiau'r Ffermwyr Ifainc, Cymdeithas y Capel, Dosbarth Allanol y Coleg a llawer o weithgareddau eraill a alluogodd y plwyf i ennill y lle blaenaf mewn cystadleuaeth sirol ar weithgarwch ardal wledig.

Mêr esgyrn y negro druan lanwodd eich cypyrddau â llestri drudfawr o aur, arian, a china - gwaith dwylaw celfydd celfyddwyr blaenaf Prydain ac Ewrop - a huliodd eich byrddau a'r danteithfwydydd brasaf, a'ch selerydd â gwinoedd mwyaf blasus gwinllanau Ysbaen, Portiwgal, a Champagne.

Ymsefydlodd nifer ohonynt, ac yn eu plith rhai o ysgolheigion blaenaf Lloegr, yn Genefa.