Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blaenoriaethau

blaenoriaethau

Codai pryder pellach, petai'r broses adnabod anghenion o fewn y cynghorau newydd yn arwain at anwybyddu anghenion neilltuol y disgyblion a'r myfyrwyr sydd yn mynd trwy'r ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg, trwy fod cynrychiolwyr y system honno yn y lleiafrif bob amser wrth ystyried anghenion a blaenoriaethau a'r anghenion cyfrwng Cymraeg yn cael eu gosod yn ddarostyngedig i anghenion y disgyblion a'r myfyrwyr sy'n mynd trwy'r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yn bennaf.

Mae'r Ysgrifennydd Addysg yn ystyried ar hyn o bryd argymhellion gan Fwrdd yr Iaith o ran blaenoriaethau datblygu addysg Gymraeg.

Maent i'w gweld mewn rheolau a deddfau, mewn blaenoriaethau, a hefyd yn ymddygiad rhai oedolion ac ieuenctid.

Wrth estyn y gwahoddiad, amlinellodd brif elfennau ei swyddogaeth: bod yn fforwm a fyddai'n gallu cynghori llywodraeth ganol a lleol ar bolisi iaith; gwella cydlynu ymhlith asiantaethau sy'n cyfrannu at addysg yn yr iaith Gymraeg; dynodi anghenion datblygiad, a blaenoriaethau oddi mewn i'r anghenion hynny, ac i fod yn gyfrwng i'w hateb; dosbarthu gwybodaeth; dynodi anghenion ymchwil.

Byddai gwireddu'r cynllun yna heb fynd 'nôl ac edrych ar y sylwadau sydd yn y ddogfen yna - a beth yw blaenoriaethau polisiau'r Cynulliad - wedi bod yn ffolineb llwyr.

Ond y canlyniad rhesymol yw mai lluniau symudol ynghyd â sain sy'n fwyaf effeithiol: gweld gwlad bell, ei phobl a'i blaenoriaethau wrth ddatblygu trwy gyfrwng darlun lliw symudol a sylwebaeth sain yw'r nesaf peth at fynd yno ein hunain.

Y mae PDAG yn gweithio er mwyn hybu addysg Gymraeg yn ei holl agweddau trwy gynghori'r system, gan gynnwys Yr Ysgrifennydd Gwladol a'i swyddogion, yngln â'r anghenion a'r blaenoriaethau.

Blaenoriaethau Ymchwil Y mae nifer o'r ffactorau a nodir uchod yn rhyngberthnasol ac yn gwau i'w gilydd.

Gwariodd yn helaeth ar wladwriaeth les; un o'r blaenoriaethau oedd dymchwel yr hen gartrefi sinc a chodi tai newydd.

Mae'r lleoliadau gorau'n adlewyrchu'r cydblethiad mwyaf addas rhwng eich nodau personol chi a blaenoriaethau'r ysgol.

Perygl yw iddi fynd yn rhy hwyr bellach i droi'r llanw ond yn sicr dylai hwn fod yn fater a fydd yn uchel ar restr blaenoriaethau Huw Jones.

Er gwrthwynebiadau gwleidyddol (ac yn aml, ansicrwydd gwyddonol), yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf, trawsnewidiwyd ein hamgyffred o'n dibyniaeth ar yr amgylchedd - tyfodd ymwybyddiaeth newydd ac, yn araf, blaenoriaethau newydd.

Blaenoriaethau Datblygu Ysgol

Pwy fydd yn cynghori swyddogion ac aelodau'r Awdurdod, a'r Cynghorau Cyllido eraill, ar natur y gofynion a'r blaenoriaethau yn y sectorau priodol?