Yr oedd y cwbl yma'n creu ofn a chasineb dwfn ac yr oedd Penri druan cyn bo hir i gael blas y ffisyg chwerw hwn a ddistyllodd Whitgift i buro'r Eglwys o'r gwenwyn Piwritanaidd.
Pam?' 'Mi weli Emrys a'i fam a'i chwaer yn 'i mwynhau hi, ond maen nhw wedi hen arfar hefo'r blas.
Mantais y Blaid, tra bo diddordeb pawb arall mor isel, yw bod ei chefnogwyr wedi cael blas mor dda ar lwyddiant yn ddiweddar.
Gellir gwella'r blas trwy gymysgu stribedi mân o fetys efo sôs hufen neu mayonnaise ac ychwanegu lovage, teim a hadau carddwy.
Os yw'n haws i rai nesau at oes Llywelyn Ein Llyw Olaf trwy ddarllen nofel Marion Eames na llyfr hanes Beverley Smith, yna boed felly, ac efallai y bydd blas y naill yn codi archwaeth at y llall.
Storïau i blant sy'n dechrau cael blas ar ddarllen.
Mae halen yn arafu twf y burum, ond mae'n rhoi gwell blas i'r toes.Cymysgir yr halen felly gyda'r blawd, fel nad yw'n dod i gysylltiad uniongyrchol a'r burum.
Mae peth o'r clod yn ddyledus i Blas y Cilgwyn ei hun, sef y plas yn Adpar, Castellnewydd Emlyn, ergyd carreg o'r wasg argraffu gyntaf yng Nghymru.
Yfodd hithau ei siâr, a synnu at y blas siarp.
Diolch byth, yr oedd y llanw wedi troi a blas yr heli yn ei ffroenau, fe ddeuai ffrwd o fywyd newydd i'r harbwr gyda'r llanw i ysgubo'r surni oedd ar y tywod ac o'i hysgyfaint hithau.
Mae gan bob garddwr ei ddewis cyntaf ond efallai y gellir enwi'r Alicante fel un o'r rhai gorau eu blas.
Wrth ei fwyta efo reis yr oedd ei flas fel blas cyw iâr tew.
Ond yn raddol daeth tro ar fyd a chafwyd blas, unwiath eto, ar berfformio a chystadlu.
Blas mwy ydi o hefyd.
Ond, yn unol â neges Timothy Edwards, Cefn-mein, gwraig weddw a ddychwelodd i Blas Nanhoron y noson honno a'i gwedd-dod annisgwyl hi wedi cyffwrdd eigion calonnau holl weithwyr y Plas ond bod gan bob un ohonynt ei eli'i hun i'w roi ar y briw.
Deuai pob math o frawddegau cysurlawn i'w phen ond 'roedd blas hen arnynt i gyd.
`Cael ysgwyd llaw â 'nghefnder yn ei gegin ei hun'; sgrifennu am arferion byw yr Americanwyr cyffredin; `cael cyfle hefyd i ysgwyd llaw â rhai o'i ddynion cyhoeddus'; rhoi blas o wleidyddiaeth a pholisi; `gweled hefyd rai o olion y galanasdra ofnadwy diweddar'; fel newyddiadurwr o'r iawn ryw, cyfleu rhywfaint o gyffro'r funud.
Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad o lafur diflino pawb a sicrhaodd lwyddiant y cynhyrchiad, gan hyderu ei fod wedi ennyn yn y gynulleidfa rwyfaint o'r blas a gafodd darllenwyr gwreiddiol O Law i Law hanner can mlynedd yn ôl.
Rwyf wedi dechrau cael blas ar rai o'r rhaglenni i ysgolion ac mae rhai ohonynt yn ddiddorol dros ben.
Ond crwtyn serchog oedd Wil a phawb yn ei hoffi a chael blas ar ei ffraethineb annisgwyl, ac yr oedd yn ffefryn mawr gan Dic.
O ddyddiau Bedo Aeddren, Tomos Prys o Blas Iolyn ac Edward Morus, Perthillwydion, bu gan fro Uwchaled draddodiad didor o feirdd.
Cynnwys lu mawr o gerddi rhagorol a erys yn eu blas tra pery'r iaith ac nid y rhan lleiaf pwysig o'r gyfrol, o ran glendid arddull a graenusrwydd cynnwys, yw'r Rhagymadrodd.
Yn ddigon oer i roi blas ar dân.
Ac yr oedd yn Blas - gatiau crand a stepiau yn arwain at bileri Rhufeinig, ac oddi mewn i'r neuadd fawreddog paneli o luniau lliwgar ar y waliau.
Gall bod dau darddiad o'r enw Cardamine, un yn golygu berwr dwr oherwydd blas cyffelyb y dail a'r llall oherwydd ei allu honedig i leddfu anhwylder y galon.Cyfeiria'r pratensis at y gweirgloddiau.
Dyna'r tro cyntaf erioed imi gael blas ar daith hir ar droed.
Blas sur sydd i bob asid.
Blas chwerw sydd iddynt, a theimlad sebonllyd wrth i chwi eu rhwbio rhwng eich bysedd.
Credaf mai ar Blas Llansteffan yr oedd fy llygad i.
Mae hon yn ddigon diniwad.' Gwyliodd Dan y lleill yn difodi'r deisen gwsberis gyda blas, a phan dorrai Emrys ail damaid iddo'i hun, ni allai ymlid yr olwg farus o'i lygaid.
Ac efallai y bydd rhai darllenwyr yn tagu ar y blas rhywiol sydd ar bopeth.
Ond daliai'r gwirioneddau yn eu blas--neu yn eu diflastod~ Yn yr ysgrif gyntaf y ceir un o'r cyffelybiaeth mwyaf Tegladeilwng:
Mae'r ail stori yn dechrau wrth iddi hi a'i mam-gu fynd am wyliau i Blas yn y gogledd sy'n cuddio ambell i gyfrinach.
Ceir blas ei feddwl yn y ddwy frawddeg hyn:
Caraf deimlo'r awelon yn fy ngwallt, a blas yr eigion hallt ar fy ngwefusau.
Mae hwnnw wedi gadael blas pleserus yn fy ngheg i, os na wnaeth dim arall.' Am rai munudau, syllodd Lisa ar ei ôl.
Daeth paraseicoleg hefyd yn bwnc sy'n cael mwy a mwy o sylw, gyda llawer yn ymddiddori'n arbennig mewn amgyffred uwch synnwyr - y gallu i amgyffred heb ddefnyddio'r pum synnwyr arferol: golwg, clyw, blas, teimlad ac arogli - (ESP) yn ei amryfal ffurf: telepathi; rhagwelediad (precognition): clirolwg ( y gallu i weld yr hyn sydd o'r golwg); clirglyw (y gallu i glywed yr hyn sydd y tu hwnt i'r clyw arferol); gweld paroptig neu weld heb lygad (y gallu i weld drwy groen); a meddylnerth (y gallu i effeithio'n uniongyrchol ar fater, megis ei symud, ac i allu dweud hanes gwrthrych drwy ei ddal yn y llaw yn unig).
Dro ar ôl tro ni allai wrthsefyll greddf wanwynol i geisio blas dwr yr Elwy ar y glannau.
Sawl blas gwahanol at ddant pawb.
Ar ei orau, mae'n gallu rhoi blas mwy real o ddigwyddiadau nag y gall yr un gohebydd tramor proffesiynol ei roi; ar ei waetha', mae'n golygu fod pobl gyffredin yn cael eu trin fel arbenigwyr.
Prynodd guazi (hadau blodyn haul), bisgedi blas chilli, siocled a phapur i Kate a finnau, a rhyw fath o hufen iâ od wedi ei wneud o ffa soya.
Nid ar amrantiad y deuir i lawn werthfawrogi blas eu siarad.
Y mae'r syniad o Baradwys mor aml â blas, a gallu dyn, a'i ddychymyg i feddwl a breuddwydio am y lle perffaith iddo ef ei hun.
Wel, mae'r rhai o ardd gymaint yn well eu blas na'r rhai a dyfir mewn caeau.
Newydd orffan byta rydan ni rŵan - mae'u blas nhw yn 'y ngheg i o hyd.
'Lle sy unsyd llys Winsor', oedd disgrifiad un bardd o blas Gwedir, ac fe'i cyfrifid ganddo'n 'olud adail gwlad'.
Gwelwn fod y wawr yn dechrau torri a gwelwn ambell i fferm yn y pellter gyda chaeau o geirch melyn; hyn oedd eu prif gnwd, a hyn yn dod ag ambell i baced o Shredded Wheat a blas Scotch Quaker Oats yn ôl i'm cof.
Nid bod llawer o'r rheini wedi bod yn fy achos i chwaith ac y mae dyn yn cael blas masoc-istaidd ar y dalar fel hyn yn myfyrio ar ei fethiant!
Yno y bu+m innau lawer tro yn cael blas ar sgwrs gyda'r gof a'r saer athronydd hwn, un a allai fod wedi esgyn i gadair athroniaeth mewn rhyw goleg neu gilydd pe bai amgylchiadau wedi caniata/ u hynny pan oedd yn ifanc.
Doedd dim blas ar fwyd yn y lle 'ma, ond blas ych-a-fi y Bromid yn y te pisho crics 'na.
Wedi ysbaid yn edmygu gwaith cywrain yr arlunydd bywyd gwyllt, ceir cyfle i gael blas ar fywyd yn ystod Oes Newydd y Cerrig wrth gerdded i mewn i dywyllwch siambr gladdu Barclodiad y Gawres ger Aberffraw.
'Roeddwn i wedi bod yn darllen Madam Wen ac wedi cael blas eithriadol ar y nofel gampus honno.
Gwyddai'r rhain beth oedd blas erledigaeth ac alltudiaeth yng nghfnod Mari Tudur.
Serch hynny, carwn feddwl fod pob un o'r canlynol yn barod i gydnabod ei ddyled i'r hen blas: 'J.
Teg dweud mai rhwystredigaeth oedd cymhelliad rhai o'r milwyr - chwilio am gyfle i gael blas ar ymladd go iawn cyfle na chafodd y marines Prydeinig yn ystod Rhyfel y Gwlff pan oeddent yng Ngogledd Iwerddon.
Doedd dda ganddo mo'u blas nhw na'u golwg nhw na'u haroglau nhw.
Siaradai Ernest yn ddi-baid am ddifyrrwch y diwrnod, a disgrifiai yr hynt gyda blas.
Roedd blas melysach o lawer ar y fuddugoliaeth o'r herwydd, ac roedd yn werth aro~s~ amdani ers colli flwyddyn ynghynt.
Yn Skol Louarn Veig Trebern (Herve/ Trebern bach yn mitsio) hanes llai dramatig a gawn, ond â blas llawn cystal arno, lle crisialir atgofion plentyndod yr awdur, wedi eu haddasu ond ychydig ar gyfer cyfrwng llenyddol.
Ond nid pawb sy'n hoffi'r blas pridd arnynt.
A yw'r awdur hwn yn cael blas nad yw'n genhadol wrth ddweud ei stori ?
Dringodd nifer o'r morwyr i lawr atynt, penderfynodd y capten ac Ibn eu bod hwythau hefyd ag awydd rhoi troed ar dir sych wedi wythnosau ar fwrdd drewllyd y llong a blas yr heli ar bob dim: 'Lle ydan ni?' Ibn ofynnodd y cwestiwn wrth wylio'r lan yn nesa/ u: 'Tuscani.' Atebodd un o'r morwyr cyn ychwanegu: 'Dwi'n meddwl.' Ond doedd Ibn ddim callach.
Roedd yna fwd a blas o Venezuela ar y Vetch eto neithiwr.
Wedi cynnig ei wasanaeth, a thra'n disgwyl am long, prysurodd ymlaen â'r gwaith enfawr o aildrefnu perllannau a gerddi yr hen Blas ac ailhau y lawntiau a'r porfeydd, yn ogystal â phlannu rhai miloedd o goed i gysgodi a harddu'r lle.
Gofid Enid yw ei hofn mai hi sydd ar fai fod Geraint wedi colli blas ar ymladd a thwrnameint, yn ôl pob golwg.
I gael blas da dylid eu sgwrio'n dda, eu lapio mewn foil cegin a'u crasu am oddeutu dwy awr.
Ond os ydym yn anelu tuag at Gymru sy'n gynyddol ddwyieithog dylid ceisio meithrin agweddau cadarnhaol tuag at ddwyieithrwydd drwy sicrhau fod pob plentyn sy'n derbyn addysg feithrin yn cael blas o'r Gymraeg fel rhan o brofiad addysgol cynnar.
Roedd tair Lodge i Blas Bodorgan, cartref Sir George Meyrick.
Ychydig flynyddoedd ar ôl sefydlu TG4 y mae cynulleidfa'r sianel wedi cyfarwyddo a phêl-droed Sbaen, dilyn hynt a helynt cyfreithwyr Amsterdam, a chael blas ar haute cuisine y gwledydd pell.
Ond roedd yna odreuon arian i'r cwmwl hwnnw oherwydd, yn ôl yr wybodaeth a ddaeth i Blas Nanhoron, roedd Capten Timothy Edwards yn hwylio adref ar fwrdd yr Actaeon ac i gyrraedd Prydain at ddiwedd Awst.
Yn y cyfamser cafwyd blas ei argyhoeddiadau protestannaidd.
Bryd hynny mae'n ofynnol i'r gohebydd fod yn arbenigwr ar wneud rhyw fath o jig-so, ac yn bwysicach fyth ei fod yn cael blas ar osod ambell ffaith yma a thraw mewn darlun aneglur cyn bod y darnau i gyd yn disgyn i'w lle yn y cynadleddau terfynol i'r wasg.
Ond byth oddiar hynny bu+m yn pwnio fy nhrwyn, megis, i weithiau'r athronwyr ac yn cael blas ar gwmni rhai fel Iorwerth [Jones] oedd yn cyd-letya â mi yn yr Hostel a J. R. Jones wedyn yn Rhydychen.
Nid oedd hwyl ar wni%o na blas ar fwyd.
Gynt roedd awydd plant ac oedolion am gael profi blas byd natur, hud a lledrith a'r goruwchnaturiol yn cael ei ddiwallu helaeth drwy wrando ar chwedl; gwerin, megis chwedlau arwrol a chwedlau'r Tylwyth Teg.
Blas sur sydd i ffrwythau heb aeddfedu, am eu bod yn cynnwys asid.Er enghraifft mae asid malig mewn afalau surion, ac asid tartarig mewn grawnwin.Asid sitrig sydd mewn lemonau, a dyna pam y gelwir ffrwythau megis lemonau a leim yn ffrwythau sitrig.
Eglurodd Cathy ei bod yn mynd ar gwrs hwylio i Blas Menai ymhen pythefnos.
Dywedwyd y byddai'n amhosibl cadw'r gwin i fynd drwy'r nos wrth gario'r dŵr arno, - roedd y blas yn codi o'r gwaelod.
Fe ellir profi blas yr olygfa heb wybod ail i ddim am y trigolion, ddoe a heddiw.
Ychwanegwch ‘chydig o "Triton" i roi blas.
Diolch bod 'na gymaint o rai yn dysgu ein hiaith, yn cael blas ar ei dysgu ac mor frwd drosti.
Gyda llaw, ydi Morus y bwtlar yn 'i bantri?' 'Sydna yn deud bod o 'di picio i Blas Llandygwnning hefo'i fasgiad wellt, ar ryw negas neu'i gilydd.' 'Bicia inna i'w bantri ynta i nôl gwydriad bach o'r rum hwnnw ddaeth i Borth Ceiriad pan aeth llong 'rhen Gaptan Huws Barrach Fawr yn sownd yn y creigia.
Roedd blas arbennig ar ddathliadau'r nos Calan - er i'w threulio efo llond ystafell o Saeson chwil ofnadwy!
Credai pawb yn yr ardal fod gwell blas ar frithyll Afon Ddu na physgod unrhyw afon arall.