Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blasu

blasu

Diddorol - blasu fel creision poeth.

Ar ôl cyrraedd, aem i gyfarfod y myfyrwyr meddygol Gwyddelig a blasu awyrgylch arbennig Dulyn hyd oriau mân y bore.

Yn hytrach carwn ystyried y gerdd ei hun, yn gyffredinol, gan y gellir ei blasu a'i mwynhau heb wybod sut y daeth i fod.

Buom yn blasu'r dafodiaith yng nghwmni Dr Gwen Aubrey a'r Parchg Caradoc Evans Fe ddaeth y Prifardd Meirion Evans, Y Prifardd Robert Powell a'r Athro Hywel Teifi Edwards ynghyd â Grwp Offerynnol Ysgol Ystalyfera i gyflwyno'r Celfyddydau inni.

Mae rhai ohona ni yn dal yn ddigon hen i gofio'r dyddiau du hynny pan oedd y goleuadau yn diffodd fesul un ag un drwy Brydain ben-baladr - a'n pobl ifanc, goreuon eu cenhedlaeth yn aml, yn gwneud dim byd mwy difrifol yn y tywyllwch dudew hwnnw na blasu siocled.

Gan ei bod hi'n bum mlynedd ers i Menna Elfyn gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth yr oedd hi'n hen bryd inni gael blasu ei danteithion eto.

Gweld 'Eryr Pengwern pengarn llwyd', ei glywed yn 'aruchel ei adlais', blasu 'afallen beren a phren melyn' teimlo Dafydd ap Gwilym pan drawodd ei 'grimog .

Caru'r nos yw'r 'porth lletaf i anniweirdeb'." Gellir meddwl bod llawer o ddarllenwyr Baner ac Amserau Cymru yn aros yn awchus am ddarllen hanes Wil Dafydd ar ôl blasu'r broliant hwn ac ni siomwyd hwy.

Byddai wedi bod wrth ei fodd yn aros yno i'w blasu, ond ni chafodd gyfle gan mor gyflym y rhuthrai'r bêl yn ei blaen.

Fe gawsom wledd gan Agenda Nos Sadwrn gan brofi a blasu yr awyrgylch yn bur effeithiol.

Diolch i'r drefn, wnest ti ddim blasu ond y tameidyn lleia - ac eto, roedd hynny'n ddigon i'th hala i gysgu am amser maith!

Un o'r elfennau hyn yn sicr iawn yw dawn bardd i sylwi â'r pum synnwyr - gweld, clywed, blasu, cyffwrdd, arogli: gweld a chlywed yn arbennig.

Does dim i'w wneud ond eu blasu; er y gellid, efallai, atgyfnerthu eu heffaith arnom trwy ddarllen gwaith meistr cyffelyb ar iaith a dychymyg, megis yr hen fardd hebreig hwnnw gynt a barodd i Dduw ateb Job o'r corwynt: 'Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a holl feibion Duw yn gorfoleddu?' Ar y llaw arall ni chawn anhawster i amgyffred arwyddocâd y gwrthgyferbyniad awgrymog rhwng 'ymryson' yn nechrau'r pennill a 'murmur' ar ei ddiwedd.