Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blasus

blasus

Roedd yn ddyn digon croesawgar a chawsom bryd blasus a sgwrs mewn Chinese am 6 kuai (50 ceiniog ballu).

Blasus, dymunol a derbyniol oedd y mwyar!

Pe bai'r 'Germans' yn dod i wbod beth sy'n mynd ymla'n fan hyn, fe fydden nhw'n siŵr o'i fomio fe." Ar ôl te blasus yn y 'Gloch' aeth Mrs Treharne a'r plant i lawr i lan y môr, ac aeth y Doctor i fyny'r rhyw i'r Orsaf Arbrofi i gwrdd â'r swyddogion yno.

Sôn am feddwl gwirion, - ond roedd fy nghylla druan yn gwingo o eisiau rhywbeth cynnes a blasus i'w lenwi.

Ar y creigiau o'n blaenau gwelwch y bilidowcars a'r fulfran, yn sefyll fel milwyr ar wyliadwriaeth, yn barod i godi a gwibio o fewn trwch blewyn i'r ewyn ar sgwat am bryd blasus.

Ond dyma'r eira'n dechrau dod yn blu bach yma ac acw ac ymhen rhyw awr brasaodd a bu rhaid gadael tân braf a llyfr blasus a'r boliaid cinio'n pwyso'n drwm.

Fel y gŵyr pawb, os clyw hwnnw rithyn o si am rywbeth 'blasus', man a man i chwi brynu hanner tudalen o'r Cambrian News a'i gyhoeddi ledled byd a betws yn y fan a'r lle.

Ond yn troi'n win blasus - o brynu potelaid gan un o'r hen ddynion wyneb-lledr a mwstas Stalinaidd, gwyn, a chap stabal am ei ben, sy'n eistedd yng nghysgod olewydd efo rhesiad o boteli, heb labelau, ar wal wen isel ger y traeth.

Troisom wedyn am Aberdaron ac yn ol i Nant Gwrtheyrn, lle'r oedd pryd blasus yn ein haros.

Cynigodd Steven a Mabel goginio pryd inni a chawsant hwyl reit dda - pryd blasus dros ben.

"PA LE, PA FODD DECHREUAF": yw teitl llyfryn a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n fraslun bywiog a blasus o fywyd a gwaith Dr Roger Edwards, yr Wyddgrug, - un o wyr athrylithgar y ganrif ddiwethaf.

'Rydym yn dewis erthyglau a straeon a fydd yn cyfleu yr amrywiaeth liwgar a blasus o ddeunydd sydd yn y papur bob wythnos.

Blasus dros ben.

Gallai Cela Trams redeg y lle, a thalu cyfran go dda o'r elw i'r Trysorlys: byddai hynny'n siŵr o ennill cefnogaeth y Canghellor a hawdd fyddai darbwyllo'r bobl y byddai N'Og mor gyfoethog o hyn ymlaen fel y gallai pawb wledda ar fwydydd llawer mwy blasus a maethlon na wynwyn.

Blasus oedd y peint uwd yn y bore a'i gynhesrwydd yn treiddio trwy'r gwythiennau a'r ymennydd, ac amheuthun oedd y cig lledr, y pytatws llygredig a'r pwding reis dyfrllyd.

Dyna beth oedd colled, y rhan fwyaf blasus!

Mêr esgyrn y negro druan lanwodd eich cypyrddau â llestri drudfawr o aur, arian, a china - gwaith dwylaw celfydd celfyddwyr blaenaf Prydain ac Ewrop - a huliodd eich byrddau a'r danteithfwydydd brasaf, a'ch selerydd â gwinoedd mwyaf blasus gwinllanau Ysbaen, Portiwgal, a Champagne.

Hyfryd ydyw cael eistedd yn dawel ar lan afon neu lyn, a gweld y pysgod yn codi i ddal y clÚr, a'r adar, ar adenydd chwim, yn cystadlu â hwy i ddal y tamaid blasus.

Ar ôl deffro i frecwast blasus diolch i Elin sy'n gweithio yn y ganolfan, (a chlirio ychydig ar effaith y Pino-shite), parhawyd â'r drafodaeth am ddeddf iaith ar y bore Sadwrn.

"Mi wn am westy rhagorol, lle bydd digon o groissants breuaf a mwyaf blasus y cyfandir ar gael!