Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blaten

blaten

Collai'r blaten dipyn o'i gwres yn y broses, a gwaith y gweithiwr ffwrnais oedd dychwelyd y blaten i'r ffwrnais ar ôl pob part, a'i phoethi eto ar gyfer y part nesaf.

Nid oedd Daniel yn gawr o ddyn, ond beth bynnag oedd pwysau'r blaten ni chlywais ef yn cwyno.

Rhoddai'r dwblwr holl nerth ei freichiau cryfion i blygu'r blaten boeth, a chyn i ddeupen y blaten gyfarfod â'i gilydd ar lawr y felin, rhodd ai'r dwblwr holl bwysau'i glocsen ar y blaten i ddyfod â'r dybliad i fwcwl.

Ar brydiau, pan oedd y stêm yn isel, fe stolid (atal), y peirianwaith, gan ddal platen yn dynn yn y rowls, ac ni ellid ailddechrau'r peirianwaith heb ryddhau'r pinnau a ddaliai'r blaten yn y rowls.

Dibynnai ansawdd y blaten lawer ar y gweithiwr ffwrnais.

Wedi'r cwbl, onid mewn gwres mawr y cynhyrchid y blaten dun?

Yna, gyda thafliad nerthol o fon ei fraich chwith, gyrrid y blaten ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.

Y lle mwyaf peryglus ar wyneb y ddaear oedd llawr y felin pan eid drwy'r broses o gynhyrchu'n blaten dun.

Yr oedd maint y blaten yn cael effaith ar ei thymheredd; po fwyaf oedd arwynebedd y blaten, mwyaf oll o wres a gollai wrth ei gweithio.