Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bleidiol

bleidiol

Ers hynny bu nifer fychan o rai oedd yn bleidiol i'r iaith yn gweithio i sicrhau dyfodol iddi o fewn i'r cyfyngiadau gormesol a roed arni gan reolaeth sectyddol y llywodraeth yn y gogledd.

"Mae'n glir eu bod yn bleidiol iawn i ynni niwcliar, ac mae'n debyg mai ffordd o dawelu'r meddwl cyn cyhoeddi eu rhaglen nesaf yw hyn," meddai.

Roedd e'n gwbl sarrug ynglŷn a gwleidyddion yn gyffredinol - nid Mrs Gahandi yn arbennig, ond gwleidyddion fel brid, gyda'u golwg ar bŵer a'r gem wleidyddol bleidiol.

Mae'r gyfraith yn bleidiol i'r Gymraeg, a dyna ydi holl bwynt cael Bwrdd statudol i weithredu.

'Does dim rhyfedd eu bod â chysylltiadau agos â Tseina,' meddai cadeirydd y siambr, 'gwþr busnes llwyddiannus ydyn nhw bob un; a pha ystyr sydd i fod yn bleidiol dros Tseina?