Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blentyn

blentyn

(Gwyddwn, wrth gwrs, beth oedd diweddglo'r hanes, ond daliwn i obeithio, fel pe bawn yn blentyn, nad oedd yn wir.) Yng nghanol y gwasanaeth bu ergyd anferthol a chladdwyd Marie a'i thad o dan wal a cherrig.

Y mae'r ddau, dyn a llysieuyn, yn angori wrth rywbeth diogelach nag ef ei hun fel iorwg wrth goeden, mwswgl wrth garreg neu blentyn wrth ei fam.

Cafodd ei wraig a'i ddau blentyn lawr ar lan y môr.

Yng nghapel hynafol Carmel, Rhoshirwaen, siaradodd Mrs Katie Pritchard am yr hanes a'i hatgofion personol hi o'r amser y bu hi'n blentyn yno.

Roedd hen dwnnel tanddaearol, gannoedd o droedfeddi islaw, wedi mynd â'i ben iddo a'r tri thŷ uwchben a fu'n gartrefi, efallai, i rai o'r coliars a wnaeth y twnnel, wedi disgyn yn domen flêr o gerrig a fframiau ffenestri, ac yn lle chwarae bendigedig i blentyn wyth oed.

Mae angen i blentyn ddeall bod consyrn ei gymuned gyda'i genadwri a bod ei ymdrechion i fynegi'r genadwri honno, sy'n aml yn garbwl a bler, yn gymeradwy yng ngolwg y rhai sy'n ei derbyn.

Ceisiai bob amser wisgo'r ddau blentyn yn fodern.

'Dwn i ddim pwy rôi i gi yno, heb sôn am blentyn." "Ia, 'ntê, a'r cyflogau'n fychan." "Bychan, i%a; meddyliwch chi rŵan am John yma, yn cael dim ond pymtheg swllt yn yr wythnos ar ôl gweithio blynyddoedd am ddim, a sefyll tu ôl i'r cownter o fore gwyn tan nos, a'r hen ddyn hwnnw'n cerdded o gwmpas y siop, efo'i hen lygada ym mhob man.

Os nad oes, mae o leiaf dwy ffactor y gellir eu hystyried:- (a) Mae'r hyn a wnaeth, wedi ei wneud pan oedd yn blentyn y byd hwn, yn ddieithryn i wladwriaeth Israel Duw, ac o dan lywodraeth tywysog llywodraeth yr awyr.

Ar y llaw arall, os ydych chi'n credu yng ngwyrth creu'r byd, yn credu bod Duw wedi rhoi ei unig blentyn yn rhodd i geisio achub dynoliaeth, a chredu bod y Nadolig, boed y dyddiad yn gywir ai peidio, yn gyfnod o glymu hyn, a'r byd a'i bethau yn glosiach at ei gilydd, yna nid peth gwirion ydi meddwl bod gan pawb a phopeth ar wyneb y ddaear ran yn yr ŵyl.

"Fe gês i bob anogaeth a chefnogaeth gerddorol gyda mam pan oeddwn i'n blentyn," meddai Cale, sy'n awr yn 55 oed.

Dyma fo'n dweud wrthyn ni wedyn, pan oedd o'n blentyn, fod gan ei dad o dŷ ar Topsham Road a bod yna un stafell yn y tŷ a bwgan ynddi, ac y byddai ei dad yn ei chadw dan glo bob amser.

'Roedd pethau'n mynd yn esmwyth iawn ym mherthynas Teg a Cassie ar y dechrau ond dechreuodd pethau fynd o chwith yn gynta pan ddaeth Steffan i chwilio am ei fam - 'doedd Cassie 'rioed wedi cyfadde wrth Teg fod ganddi blentyn cyn priodi - ac yna pan benderfynodd Beryl, mam Cassie, adael y gogledd a dod i fyw at ei merch i'r Deri.

Ond yr oedd wedi gwneud y Nadolig i'r ddau blentyn a charient bopeth iddo i'w fwyta.

Wrth sôn am fynychu'r capel yn blentyn noda hyn:

Nid yw'n debyg i'r gaeafau pan oeddwn yn blentyn.

Tyfu y mae hi trwy i blentyn gymryd arno'i hun y cyfrifoldeb o geisio dilladu ei feddyliau mewn iaith.

Pan oeddwn i'n blentyn capel gynt, fe ganwn yn y cwrdd y geiriau hynny sy'n sôn am 'Y Gþr wrth Ffynnon Jacob'.

Oedd dada yn un o ddeg o blant a chollodd ei fam pan oedd ond plentyn bychan, ond yn wahanol i blentyn "Y Bwthyn Bach To Gwellt", cafodd dad cyfrifol, gofalus i chadarn i'w magu i gyd efo'i gylydd a'u codi o dan do o safon cysegredig.

Llew wedi dweud fwy nag unwaith fod rhyw blentyn yn llechu ynddo, rhy Peter Pan sy'n gwrthod prifio a thyfu'n hþn.

Wrth ddarllen am Miriam a meddwl amdani fe ddaeth i'm cof fy mhrofiadau i fel yr unig blentyn yn siarad Cymraeg mewn ysgol gyfan o blant dan saith.

“Fy nghof cynta pan yn blentyn oedd gweld fy nhad yn ei wisg llongwr,” meddai Hywel, a fagwyd ym Môn.

Erthylodd Stacey blentyn Hywel.

Ni fydd yr un oedolyn sy'n gweithredu mewn sefyllfa fel hyn yn disgwyl i blentyn gofleidio pob elfen yn yr adborth ar unwaith.

Mae hyn yn gwbl ddilys yn seicolegol, oherwydd fe fydd rhiant yn tueddu i weld ei blentyn fel ymgorfforiad o'i febyd ei hun, ac wrth golli Siôn mae'r bardd yn ffarwelio â holl hwyl ac asbri ieuenctid, fel y gwelir yn y paragraff olaf.

Er yr adeg pan oeddwn yn blentyn, 'rwyf wedi mwynhau clywed am anturiaethau.

Synnwn i ddim nad yw ambell i blentyn ysgol yn dipyn o grât injian Rover i'w athrawon.

'Ia, Dei, un da am gellwair fuoch chi 'rioed.' "Does 'na neb o'r gangen wedi tramgwyddo, gobeithio?' 'Bobl annwyl nac oes.' 'Mae Sioned wedi bod yn brysur, meddai Lleucu fel pe bai'n egluro wrth blentyn.

Ac mi fyddaf yn rhyfeddu at y goeden hon bob blwyddyn gan na wn am unrhyw goeden arall sydd yn blodeuo cyn deilio þ sef mynd yn hen cyn bod yn blentyn!Y Ferch Dawel - Manon Eames (tud.

Yr hyn sy'n ddiddorol yma yw fod Kate Roberts wedi newid rhyw yr hynafiad a ddaeth yn blentyn o Lyn.

Yno y diflannai am oriau, yn blentyn, i hongian ar iet yr ardd, ac i smalio gyrru car mewn sgerbwd hen dractor rhydlyd.

Yr unig wahaniaeth yr ydw i'n ei deimlo fel Cristion yw fod hynny'n eich gwneud chi ychydig bach yn fwy gofalus yn y ffordd, er enghraifft, yr ydych chi'n ffilmio rhywun sydd wedi diodde' neu'n ffilmio rhywun mewn damwain neu blentyn bach mewn poen.

Mae'r un ddelfrydiaeth yng ngwyrdd y gwellt ac yn oren y tywod, ac yn hwn eto ceir afon yn rhedeg ar y tywod a dau blentyn yn chwarae wrth ei hymyl gyda phwced a rhaw - y ddau mewn trywsus cwta.

Roedd yn dioddef o asthma pan yn blentyn, a chafodd fagwraeth ofalus gan ei fam.

Ganed Arshad Rasul, 45, ym Mhacistan ac ar hyn o bryd mae'n byw yn Harpenden, Swydd Hertford gyda'i wraig a'i ddau blentyn.

Mae stori Toni Caroll yn dechrau yn blentyn yn y capel.

Dywed mai'r rhan waethaf o'i gwaith yw dod o hyd i blentyn sydd wedi marw.

Wedi i fy mam guro, daeth merch ieuanc i'r drws, ac wedi deall ein neges, anfonodd blentyn i alw'r prifathro atom.

Camgymeriadau Cristnogion, Mae'r Cristion yn berson arbennig iawn - Mae'n blentyn i Dduw; Mae ganddo galon newydd, ac ysbryd newydd o'i fewn; Mae'r hen ddyn wedi ei ladd, ac mae'n ddyn newydd.

Os yw Shakespeare o'r pwys mwyaf i blentyn o Sais, a yw Goronwy Owen yn llai pwysig i Gymro?

Wrth adrodd hanes Marie yn blentyn gartref ac yn yr ysgol, roedd yn amlwg fod perthynas hynod o agos rhyngddynt.

Chwarddai rhai'n y dref pan sonient amdano, a'i alw yn hen ffŵl am ei fod yn siarad hefo pob anifail fel pe byddai'n blentyn.

Mae ei rieni'n byw yno o hyd, yntau a'i wraig a dau blentyn yn byw yn Llundain.

Coginiodd bryd enfawr, 'roedd ei merch, ei gwr, pennaeth yr heddlu, ei wraig a'i blentyn yno hefyd.

Mae'r dysgu iaith yn digwydd wrth i blentyn ddysgu sut y gellir ei defnyddio.

Erbyn y Calan byddai pob plentyn yn cael cwdyn arian newydd a'r adeg honno roedd disgwyl i blentyn adrodd pennill neu gwpled wrth ddrws bob cartref.

Roedd hi'n un ar bymtheg oed as wedi tyfu'n ferch ifanc dal, osgeiddig; y gwallt cyrliog melyn a fu ganddi pan oedd yn blentyn wedi tywyllu'n frown golau cochlyd.

Gyda nhw yn y car roedd eu dau blentyn, Linda - gwallt coch, deg oed, a Richard (Dic), gwallt du, deuddeg oed.

Dyna ydi bod eilwaith yn blentyn, debyg.

Gan fod fy nhad oddi cartref ar y môr y rhan fwyaf o'i amser, a minnau'n unig blentyn, cawswn dipyn o faldod gan fy mam, a dyna pam yr oeddwn i'n fachgen mor swil ac afnus.

Y mae un o'i gariadon yn marw wrth esgor ar ei blentyn.

Pe bawn yn gwybod y diwrnod hwnnw nad oedd yn codi ei blentyn i siarad Cymraeg, er ei fod ef ei hun yn weindigo ar eglwys Gymraeg, 'rwy'n siŵr y buaswn wedi dweud wrtho na fyddai dyfodol iddi pe bai pawb yn gwneud fel efe.

Am ychydig o flynyddoedd, a hithau'n blentyn bach, yr oedd tŷ William a Mary Thomas yn gartref i'm mam.

I blentyn bach sydd heb eto feistroli iaith y gymuned y mae'n byw ynddi, y mae'r ffaith bod y bobl sy'n ei amgylchynu ag iaith yn dangos yn gwbl amlwg iddo eu bod yn DISGWYL iddo yntau hefyd ddatblygu'n siaradwr, yn ddylanwad pwysig arno.

* sicrhau trwy bolisi ysgol gyfan fod datblygiad yn y mathau o dasgau a osodir sydd yn arwain pob math o blentyn, a hynny'n gynnar yn eu gyrfa uwchradd, i arfer y pum math o ddealltwriaeth a nodir.

Yn wir, nid oes dim sy'n llefaru'n fwy eglur ar berthynas Methodistiaeth a'r eglwysi Annibynnol yng ngogledd Cymru yn y cyfnod hwn na'r ffaith fod yr un teulu wedi magu dau blentyn a enillodd le iddynt eu hunain fel prif bregethwyr dau enwad, sef Henry a William Rees.

Nid oedd ar y tynged, blentyn iddi o'r groth, ond magodd dri o'i chalon.

Yr oedd ei sefydlu yn ganlyniad cynnig i'r Gynhadledd, ac ar un olwg yr oedd mudiad yr iaith yn blentyn iachus iawn i'r Blaid yr adeg honno.

Yn yr un modd credid gynt na ddylai mam a oedd newydd roi genedigaeth i blentyn fynd i ymweld â phobl heb yn gyntaf fynd i le o addoliad.

Ni fu farw neb yn Hu%nxe, ond cael a chael oedd hi fod dau blentyn o Libanus wedi byw, ar ôl iddynt gael eu llosgi'n ddifrifol, ac fe fydd y creithiau ganddynt am byth.

Cyd-ddigwyddiad difyr yw fod ei nain wedi byw yn Y Faenol pan oedd hi'n blentyn bychan.

Pan oedd Morgan yn blentyn fe aeth Eglwys Loegr (a oedd yn cynnwys pedair esgobaeth Cymru) drwy broses o Brotestaneiddio cyflym dan y Brenin Edward VI ac yna drwy adwaith Catholig pur chwyrn dan y Frenhines Mari I, ond pan oedd Morgan yn dair ar ddeg oed fe ddaeth y Frenhines Elisabeth I i'r orsedd a sicrhau mai Protestaniaeth Anglicanaidd fyddai crefydd swyddogol y deyrnas - Lloegr a Chymru - o hynny ymlaen.

Byddai fy nhad yn cofio llawer ohonynt ac yn adrodd rhai imi pan oeddwn yn blentyn.

Canys mwy trist na thristwch oedd deall mai Miriam oedd yr unig blentyn punp oed a siaradai gymraeg o blith naw o blant a dderbyniwyd i ysgol Llangybi y flwyddyn honno wedi gwyliau'r haf, a hynny yn un o gadarnleoedd 'tybiedig' yr iaith.

Pan o'n ni'n blentyn roedd cael oren, afal a chnau yn werth y byd.

Os yw'r Saesneg o'r pwys mwyaf i blentyn sy'n cael ei fagu yn Lloegr, pam nad yw'r Gymraeg o'r pwys mwyaf i blentyn sy'n cael ei fagu yng Nghymru?

Cofiodd, pan yn blentyn, iddo glywed rhyw stori nad oedd erioed wedi'i choelio tan y foment honno.

Diddordeb mawr yn y sinema erioed, dechreuodd wneud ffilmiau byr pan oedd yn blentyn.

Cydiodd rhyw blentyn bychan, budur iawn yr olwg yn ei arddwrn a syllu'n ymbilgar i'w lygaid.

Blentyn bach yng Nghuba.

Syrth calon Bronwen 'fel pendil cloc pan dorro ei lein' ('Gorymdaith'); mae Lora'n teimlo ias 'tebyg i'r un a gafodd pan oedd yn blentyn, pan dorrodd lein y cloc mawr yn y gegin, gefn trymedd nos' (Y Byw Sy'n Cysgu); cwyd y pwysau oddi ar fynwes Bet 'yn araf, fel pendil doc yn codi wrth ei ddirwyn' (Tyroyll Heno).

Roedd hi'n falch fod ganddi blentyn wrth gwrs - ond, hei-ho, roedd hi'n falch fod yr hen Falan ganddi hefyd.

'Iesu tirion, gwêl yn awr Blentyn bach un plygu lawr...'

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Teulu'r Cwpwrdd Cornel.