Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bleser

bleser

Bu'r diwrnod ar ei hyd yn un o bleser, boddhad a bendith.

eu cymorth a'u cefnogaeth a mynegodd ei bleser ar gael cysylltiad mor glos a'r cwmni%au yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd yr Is-bwyllgor Cymraeg.

Byd natur sy'n cynnig ei hun yn ddelweddau i'r rhan fwyaf o'r cerddi ac mae hynny'n eu gwneud yn bleser i'w darllen.

Dros blwc o amser câi Gwenhwyfar bleser o'r ymyrraeth nes iddo gyrraedd hyd at fôn ei gwallt.

Holl bleser hen bobl fyddai casglu at ei gilydd wrth dân mawn o dan yr hen simdde fawr ac am y goreu chwedl a'r mwyaf dychrynllyd ei stori.

Cefaist bleser wrth ei ddilyn i gartrefi'r mawrion yn Lloegr.

Rhoddasai hyn i gyd bleser mawr iddo a chydnabyddiaeth deilwng o'r holl waith a oedd yn ei gyflawni y blynyddoedd hynny.

Mae'n bleser cael y cyfle i wasanaethu'r gwerthoedd yr wy'n credu ynddyn nhw." Dyna nodwedd llawer o'r cynhyrchiadau y mae ef wedi gweithio arnyn nhw yn y gorffennol, llawer ohonyn nhw ar y cyd gydag awdur y gerddoriaeth y tro hwn, Eirlys Gravelle.

Roedd Geraint Talfan Davies wedi datblygu tîm cryf dawnus tu hwnt o wneuthurwyr rhaglenni ac maen bleser gennyf allu adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan Geraint yn ei naw mlynedd fel rheolwr.

Roedd Geraint Talfan Davies wedi datblygu tîm cryf dawnus tu hwnt o wneuthurwyr rhaglenni ac mae'n bleser gennyf allu adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan Geraint yn ei naw mlynedd fel rheolwr.

I'r mwyafrif o bobl, rwy'n siŵr mai braidd yn sych yr ymddengys llawer o'r llenyddiaeth uchod (er fod enwau hir a phert yr anifeiliaid yn gallu bod yn hwyl), ond i'r sawl sydd a gwir ddiddordeb mae pori rhwng cloriau'r cyhoeddiadau hyn yn dod ag oriau o bleser amheuthun, er efallai mai ansylweddol yw eu ffurf.

Falle bydd y steil ddim yn bleser i'w wylio ond maen rhaid creu steil iddyn nhw eu hunain.

Sonia am ddarllen y beirdd Lladin fel gwaith cartref yn ystod gwyliau'r ysgol a phrofi eu 'clasuroldeb dwys', ac wedyn troi at y llyfr Cymraeg newydd, a chael cymaint o bleser ynddo nes gadael 'ei Horas a'i Gatwlws ar y llawr, / Yntau ar newydd win yn feddw fawr'.

'Pa bleser sy 'na mewn rhedeg ras a'r wobr yn eich poced cyn cychwyn?' .

Yn wir mae'r lluniau eu hunain yn dweud y stori, sy'n ei wneud yn addas iawn i blant sydd heb ddysgu darllen eto - ac yn ychwanegu at bleser y rhai sydd yn gallu.

Gydag amser, fe ehangwyd y gorwelion a threfnwyd cystadlaethau llwyfan a roddodd bleser digymysg i do ar ôl to o aelodau.

Mae'n bleser gennyf eich hysbysu, fod y gofgolofn i'r Dywysoges Gwenllian wedi ei chodi o'r diwedd, yn Sempringham.

Ysgrifennais ar ddarn o bapur 'Mae'n bleser mawr i mi fod yma eto yng Nghymru'.

Mae'n bleser cynnwys cyfieithiad o'r hanes am Mrs Morgan yn y Llais.

Wel, sdim byd sy'n bleser i gyd, dim un pleser y medri ddeud 'i fod o'n ddifrycheulyd" "Siarad drosot dy hun ngenath i " A thynnu'i law rydd dros ei gwar heibio'i blows ac at ei bronnau.

Ond wedi dweud hynny, mae yna fwynhad i'w gael o dreulio diwrnod ar lan y môr, a chyfle i ail-fyw ambell bleser o'ch plentyndod coll.

Darllenai ef gywyddau Beirdd yr Uchelwyr, nid yn unig er mwyn darganfod safonau gramadeg, ond hefyd o bleser pur yng nglendid eu hiaith, yng nghynildeb eu cystrawennau, ym mherseinedd eu canganeddion.

Câi bleser wrth gyfri ac ailgyfri gan ei fod o'n cynilo i brynu ci bach.

Pan glywodd yr Yswain yr hanes, teimlai yn dost dros Harri, a diflasodd gryn lawer ar bleser y dydd iddo.

Mae'n bleser calon gennyf fynegi pob cefnogaeth i'r Gymdeithas yn eu hymgyrch dros gryfach Deddf Iaith i Gymru.

Hwre!' gwaeddem ninnau, yn gwingo yn ein cadeiriau gan bleser ac yn ymbaratoi am yr ugeinfed tro i glywed yr ias yna i lawr y meingefn.

Roedd yn bleser gan BBC Choice Wales ddarlledu cyngerdd y ganrif - digwyddiad gala gwych yn nodi agoriad hanesyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda'r fath hunanfeddiant.

Yr unig beth a amharodd ar bleser y daith oedd gweld milwr Prydeinig yn neidio allan o'i gerbyd i fonclustio a chicio Eidalwr a fethodd â chilio o'i ffordd mewn pryd.

Does dim yn rhoi mwy o bleser i mi y dyddiau braf hyn na chrwydro o gwmpas yn gwrando ar sgrysiau pobol eraill.

Caf bleser o ddod yma ganol haf hefyd i chwilio am blanhigion y mynydd-dir yn eu blodau.

Roedd hi'n bleser ac yn addysg i wylior Iseldiroedd yn chwarae, meddai cyn-ymosodwr Cymru, Malcolm Allen ar y Post Cyntaf.

A does dim byd syn rhoi mwy o bleser na gyrru trwy Llundain am dri y bore da chriw o bobl feddw yn mynnu dod o hyd i Burger King lle gallen nhw socian lan yr alcohol tran canu caneuon yr Eagles nerth esgyrn eu pennau.

Cawsom oriau bwygilydd o bleser hefyd wrth bysgota llysywod yn afon Soch a brithyll bychain yn afon y Felin a lifai o lyn y gwaith dwr.

Ond os oedd na bleser wrth fynd ati i ddarllen am gymeriad bach newydd yng nghreadigaeth hudolus Angharad Tomos mi roedd na ofid hefyd.