Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bleserus

bleserus

Taith bleserus, heb orfod dringo gormod na dychwelyd yr un ffordd, yw'r un i fyny Llwybr y Mwynwyr at Lyn Glaslyn ac yna i lawr Llwybr y Pyg.

Yn y pnawn roedd Meic Stevens yn perfformio ac er iddo fo ddweud ei fod wedi cerdded bob cam o Gaerdydd heb fy ffon yr oedd ei berfformiad yn gwbl bleserus - do, fe gafwyd y clasuron Dournanez a Môr o Gariad, ai lais rywfodd yn gweddu i awyrgylch yr Wyl.

Doedd dim disgwyl i ddiwrnod oedd yn dirwyn i ben â dôs ddwbwl o ffiseg fod yn arbennig o bleserus i neb, hyd yn oed os oedd yn ddiwedd yr wythnos.

Ond pa mor bleserus bynnag yw'r sioe fach leol ar ddiwrnod heulog a haf, faint ohonom fyddai'n ystyried cadw'r catalog?

O'i fewn gwelir golygfeydd hyfryd naturiol, nid o waith llaw, ac hefyd batrymau hynod o bleserus o weithgarwch dyn ar hyd yr oesau.

"Roedd yr eira wedi dadleth, a doedd hi ddim yn bleserus iawn i gerdded siwc-siac drwy'r llaca.

Does dim angen imi ddweud wrth unrhyw un pa mor bleserus yw chwerthin yn iach.

Er nad yw'r gân yn un hir y maen bleserus iawn ac yn dangos elfennau o gerddoriaeth bync Gymraeg - mae yna gyffyrddiadau syn atgoffa rhywun o gerddoriaeth Ffa Coffi Pawb.

Os ydynt hwy eu hunain yn credu yn eu hartistiaid yn gerddorol, mae'r gwaith o werthu'r cynnyrch wedyn yn bleserus.

Gallai hithau wedyn gynnal sgwrs fach bleserus efo Owain, oedd bellach bron yn bedair oed ac yn medru mwynhau sgwrs gall efo'i fam, nes iddo yntau hefyd ildio i gwsg.