Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blew

blew

Mae'r blew hefyd yn wahanol ac yn debycach i wlân dafad.

Yna gostyngodd blew ei hamrannau nes eu bod nhw bron ag anwesu ei gruddiau a'u codi yn ara deg eto, fel cyrtan mewn theatr.

Doedd dim mwy yn ei ben, doedd e'n dda i ddim mewn athletau, a doedd dim blew ar ei frest.

Mae'n wir hefyd ei fod ambell wythnos yn ei chael yn anodd i lenwi'r golofn, a gwelir tuedd iddo "hollti blew ar adegau felly.

Yn wahanol i gwningod, genir yr epil yn llawn blew a'u llygaid yn agored ac ymhen awr neu ddwy ar ôl eu geni y maent yn abl i symud o gwmpas.

Treuliodd RT dipyn o'i amser mewn adolygiad ac mewn erthygl yn tynnu blew o drwynau rhai o'i gyfoeswyr (Bebb, er enghraifft) yr oedd dylanwad y weledigaeth hon - er teneued oedd - arnynt o hyd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

Yn y tyllau hyn bydd nyth diddos o laswellt yn gymysg â blew'r fam, a bydd hithau yn mynd yno bob nos i roi llaeth y frest i'r cywion ac wrth ymadael yn gofalu cau ceg y twll gyda phridd fel nad yw'n hawdd canfod y fynedfa.

Edrychodd Alun ar y ci a gweld fod y blew ar hyd ei gefn yn sefyll i fyny'n syth.

Dyna'r fan lle bu : y côr segur, a'r aerwy oer ynghrog ar y buddel, a pheth blew coch yn glynu o hyd wrth ei ddolennau.

Eithr am yr hen Seren yma...Gwir bod ei hanadl mor bêr â gwair, a'i blew fel sidan coch cynnes; ond yr oedd ei llygaid mor eiddgar â'i thafod.

Mae mochyn y Felin A hwnnw heb ddim blew Yn bwyta bonion cabetsh Ni ddaw e' byth yn dew.

Yng Nghaerdydd tro rhai o benaethiaid y BBC oedd hi i ddiodde er mwyn yr achos ac, wrth iddyn nhw golli eu blew oddi ar eu coesau, roedd y staff yn mwynhau'r profiad a chyfrannu i'r coffrau.

Mae'r tebygrwydd yn anhygoel, - y lliw browngoch patrymog, y teimlad melfedaidd, y blew bychain a'r arogl arbennig.

Ond awn ni ddim i hollti blew am hynny rwan.

Iddo ef neges seml oedd yr Efengyl a gallai fod yn bur bigog ynglyn â diwinyddion a oedd yn sefyll yng ngoleuni gwrandawyr trwy hollti blew'n fympwyol."Take heed", meddai, "of sophisticating the Gospel." Fel y Ficer Prichard, credai Wroth fod gwerth mewn llunio penillion ar batrwm y cwndidau i wneud hanfodion y Ffydd yn gofiadwy i'w bobl.

Mynych oedd y gwyliau drama tair act, a brwd, hyd at waed bron, oedd ymrwymiad y cyhoedd i'w cwmni%au bro, a pheryglus oedd hynt y beirniad druan fyddai'n gorfod hollti blew wrth bvwyso a mesur rhagoriaethau'r cystadleuwyr.