Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blewog

blewog

Oedd ei anadl yn drewi, neu ei gorff, neu = am un eiliad frawychus credodd ei fod yn drewi fel ffwlbart = ond na, yr idiot blewog yna yn ei ymyl oedd yn chwarae â'r llosgydd Bunsen.

Yr un Bet sy'n teimlo cysur y gegin 'fel bwa blewog' am ei gwddw.

Pan ddywedais i fod arna i eisiau ci, meddwl am greadur bach clên, blewog fyddai'n ysgwyd ei gynffon i roi croeso inni roeddwn i.

Myn coblyn," meddai'r meddyg Americanaidd, mae Dr Livingstone wedi cyrraedd, hogiau." O'r crwyn blewog daeth llaw mewn maneg felen.

Gwêl Begw'r ieir yn swatio yng nghornel yr ardd 'a'u pennau yn eu plu, yr un fath yn union ag y stwffiai hithau ei phen i'w bwa blewog yn y capel ar fore Sul oer' (Tc yn y Grug).

Felly, hefyd, y byddai Kate fach Cae'r Gors yn mwynhau teimlad ei bwa blewog am ei gwddw yn y gaeaf.

'Roedd yno greadur mawr, blewog yn cynrychioli Cymru.

Efallai ei fod o'n iawn i chwaraewyr rygbi blewog ruthro ar ei hyd a'i led ond doedd o ddim yn gweddu gystal ar gyfer y rhai hynny sy'n cicio yn hytrach na thaflu pêl at ei gilydd.

Cynyddodd y suo a chwifiodd y coesau blewog yn ofer yn yr awyr.