Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blinder

blinder

Heibio i'r paragraff cyntaf, ac wele: 'Oferedd i'w printio llawer o lyfrau, Blinder i'w cynnwys llawer o feddyliau, Peryglus i'w dwedyd llawer o eiriau, Anghyssurus i'w croesawu llawer o ysbrydoedd, a ffolineb yw ceisio ateb holl resymmau dynion, Ond (o Ddyn) cais di adnabod dy galon dy hun, a mynd i mewn ir porth cyfyng.' Pa arfau a feddwch i ddringo creigiau'r dychymyg hwn?

Bydd yn teimlo pryder yn yr Hydref rhag ofn bod ei dail wrth ddisgyn yn peri blinder i'r teulku drws nesaf neu'n myfyrio ar faint o arian a gâi pe torrai hi i lawr a'i gwerthu fel coed i'r saer.

'Roedd ôl blinder y dydd ar wyneb y Cripil ac er bod hwnnw ddwywaith ei oedran, cododd Elystan y corff hanner diffrwyth a'i fagu yn ei arffed fel magu plentyn.

Er gwaethaf ei blinder a'i phrofiadau erchyll, cytunodd Siwsan i gymryd rhan mewn cynhadledd i'r wasg y bore canlynol, wrth i Adam a Natalie gael hwyl eithriadol yn chwarae yn yr eira.

'Reit unwaith eto, y cyfan, meddai Andrews yn y man a'r blinder yn bygwth cracio'i lais tawel.

Fore drannoeth pan ddaeth y gŵr pwysig i lawr i frecwast cafodd fy mam ei rhyddhau o'i blinder, neu o leiaf roedd hi bron yn siwr.