Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blino

blino

Roedd hi'n blino'n hawdd y dyddiau yma ac yn teiml;o'n lluddedig a gwan gan nad oedd hi'n gallu bwyta fawr ddim.

Mae llawer o deuluoedd, ar ôl cael gwaith yn weddol bell i ffwrdd, yn blino teithio bob dydd ac ni allant fforddio hynny, p'un bynnag.

Ond doedd dim digon o le iddyn nhw i gyd mewn un gwely, ac mi fydden nhw'n gweiddi, "Rydw i bron _ syrthio o'r gwely!" "O, rydw innau bron _ syrthio!" "Does gen i ddim digon o le!" "Does gen innau ddim digon o le chwaith!" "A rydw i'n cael fy ngwasgu yn y canol!" Felly doedd yr un o'r dynion bach od yn gallu cysgu'n gysurus, ac roedden nhw wedi blino'n l_n.

Ydi hogie Topper byth yn blino?

Cymysgedd yr ydw i'n dechra amau y byddai o ddirfawr les i Gruff acw wrthi - achos mai fo ydy'r unig ddyn yng Nghymru, synnwn i ddim, sy'n cwyno ei fod o wedi blino gormod a bod ganddo fo gur yn 'i ben ar yr un pryd.

Erbyn amser cychwyn i'r cyfarfod yr oedd gennyf bwt o anerchiad, ac nid oedd y siarad yn blino dim arnaf, ond crynwn yn fy esgidiau rhag ofn i rywun of yn cwestiwn.

Efallai bod y Cymry'n dechrau blino ar y brenhinoedd Seisnig.

Cefaist fwy na digon o gynghori a phregethu, a blino cael dy lusgo ar draws gwlad, ond uchel oedd ei fwriad.

"O, rydw i wedi blino," meddai hi ac eistedd i lawr ar y soffa.

Ond y maent yn blino gan lymder y frwydr.

Roedd Tony Blair yn amlwg wedi blino'n rhacs rôl rhuthro'n ôl o Albania i lansio'r maniffesto Llafur.

Mi ddaru Defi John a Jim ddechra' chwara'n wirion ymhen dipyn, ar ôl blino bod yn llonydd - a thaflu cregyn bach aton ni a ninna wedi cau'n llygaid, smalio cysgu.

`Rydw i wedi blino.' `A finne,' meddai Debbie, `Fe fydda i'n falch i ...' Ni chafodd gyfle i orffen yr hyn yr oedd hi'n mynd i'w ddweud oherwydd gwthiodd dyn heibio iddi, gafaelodd yn y bag arian a rhedodd lawr y stryd.

Ac eto, yn y pen draw, math o degan oedd y plas iddi - i'w fwynhau o dro i dro ac yna blino arno - ac wedyn mynd nol i'w chartref Bodwigiad.

Roedd wedi blino'n lân a'r peth cyntaf yr oedd eisiau ei wneud oedd eistedd i lawr.

Athro o adran arall yn galw hefo'i ferch, ond Kate a minnau wedi blino gormod i gael sgwrs.

"Rydan ni i gyd wedi blino, ond mae pawb i helpu cario pethau o'r car," meddai Dad.

Nid oes amheuaeth nad yw'r duedd i 'feddwl yn gam' yn parhau i'n blino ni fel cenedl heddiw, a bod hynny nid yn unig yn bygwth ffyniant a pharhad yr iaith Gymraeg, ond hefyd yn creu rhwyg ac anghydfod yn ein plith.

Wedi blino'n lân ar ôl cael tair gwers gyda phob gwers yn awr a hanner.

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

Dwi wedi blino teithio eangderau'r sygnau diwael ar dy gefn.

Dydw i ddim wedi blino o gwbl - rydw i'n cal hwyl,' oedd ymateb Dilys.

Hwyrach y coleddai Harri syniadau rhy uchel am Gwen ymhob ystyr' a phrotest Gwen 'Harri, wyt ti wedi blino arna' i?' Y mae E.

Ysbardunai Harri ei geffyl i ddilyn Ernest, a chyn pen yr awr yr oedd wedi blino yn enbyd, a da fuasai ganddo gael gorwedd i lawr yn rhywle, a chafodd gyfleustra yn bur fuan.

Mae'r bêl 'na wedi treulio tipyn ac rwy'n siŵr dy fod ti'n dechre blino arni...'

Yna gwelodd Janet yn dod tu ôl iddo a gafael yn ei law a i geryddu: 'Robert, paid blino Miss Beti fel hyn!' Yn sydyn daeth iddi ddarlun rhithiol o bellter ei phlentyndod ei hunan, ac am rai eiliadau gwelodd wyneb Janet yn newid a throi'n wyneb Hannah unwaith eto.

Doedd ganddi hi ddim amser i ddarllen drwy'r rhain yn awr gan ei bod wedi blino cymaint.

Ond doedd dim digon o le iddyn nhw i gyd ar un gadair, ac mi fyddai pob un ohonyn nhw yn gweiddi, un ar _l y llall, "O, rydw i bron _ syrthio!" "Rydw innau bron _ syrthio!" "Does gen innau ddim digon o le!" "A rydw i'n cael fy ngwasgu yn y canol!" Felly doedd yr un o'r dynion bach od yn cael gorffwys iawn, ac mi fydden nhw bob amser wedi blino.

Erbyn y prynhawn, mi fyddai'r dynion bach od wedi blino, ac mi fyddai arnyn nhw eisiau eistedd i orffwys.

Byddwn wedi blino cymaint ar ôl rhedeg ar ôl merch i'w dal yn y lle cyntaf y byddai'n wyrth imi fedru hyd yn oed garu efo hi - heb son am fedru rhedeg marathon wedyn.

Ac erbyn amser gwely mi fydden nhw wedi blino'n l_n ac yn barod i fynd i gysgu.

"Gawn ni ffîd yn tū ni y flwyddyn nesa% ebe Eurwyn, "swpar dyrnwr go iawn" "Golwg wedi blino arnat ti, Arfon" ebe Glenys gan roi ei llaw oer dros ei law o.

Canu wnaf a bod yn llawen, Fel y gog ar frig y gangen; A pha beth bynnag ddaw i'm blino, Canu wnaf, a gadael iddo.

A hefyd, gan ei fod wedi blino ar fyw heb ennill ei damaid fel myfyriwr, mae Comiwnyddiaeth hefyd yn fodd i'w ryddhau o'i waith ymchwil a dychwelyd i'w ardal i weithio ar y ffordd.

Mewn siop Smiths ddydd Sadwrn clywais un fam yn dweud wrth un arall fod ei phlant hi yn cwyno fod y Potter diweddaraf mor drwm ei fod yn eu blino nhw wrth ddarllen.

Doedd dim ots mod i'n cymryd pum gwaith gymaint i gyrraedd, na mod i'n llithro wrth fynd, na mod i'n cyrraedd wedi blino'n lan ac yn dioddef clymau gwythi.

A Dr Zota yn cysgu yn Bod Eglur y noson honno wedi blino yn bwt ar ol y daith.

Does bosib na fyddai dyn yn blino ar hynny.

Fe ddof yma yfory i gael diwedd y stori," gwenodd Louis arno ond er bod ei lais yn mynd yn wanach am ei fod wedi blino.

Erbyn cyrraedd y Foryd, mi oeddan ni wedi blino'n ofnadwy, ond chym'ron ni ddim arnon o gwbl er mwyn i ni gael mynd i nofio ar ein hunion.

fel rheol, pan ddeuent y ffordd hon, byddent, ymhen hir a hwyr, yn blino ar lif cyson y dŵr ^ r ac yn chwilio am rywbeth arall i 'w diddanu.

Olion blino efallai.

Ond dwi'n cofio cyfnod ychydig o flynyddoedd yn ôl pan oedd y myfyrwyr Cymraeg yn protestio, roedd rhywun yn cyrraedd adre wedi blino'n lân ar ebychiada' harthiog ambell un gwrth Gymraeg yn y lle 'ma.

Erbyn hyn roedd yr hogiau wedi dechrau blino ar y lol yma ac fe daflwyd amheuon ar gyfreithlondeb priodas rhieni'r gyrrwr, ymysg rhegfeydd eraill.

Roedd Douglas Bader wedi dechrau blino, a thop ei goesau yn brifo yn ddychrynllyd.