Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blith

blith

Wrth ffurfio ensym rhaid bod ynddi stor anferth o wybodaeth raglenedig er mwyn gallu penodi pa ddilyniant o asidiau amino sydd yn anghenrheidiol o blith llawer o wahanol drefniannau.

Hefyd bod Ruth, geneth arall o blith 'plant' Pengwern, a Nolini ac Enomeris, wedi gweld Philti yn trin cornwyd oedd gan Pengwern ar ei glun, ac wrth gwrs fod ei ddillad wedi eu datod iddi fedru gwneud hyn.

Gan ddefnyddior ystod lawn o arbenigedd newyddiadurol y BBC, cynigiar rhaglen y goreuon o blith adroddiadaur dydd.

Ac o blith y mewnfudwyr hyn y caem ni ein cynulleidfa.

Fel yr esgynna Sam i blith y cymylau a'r sêr yng nghwch y ferch ddi-enw, ddi-sylwedd a ninnau gyda hwy, y mae'r bro%ydd cartrefol beunyddiol, ein priod ardaloedd hysbys yn pellhau a lleihau otanom yn y dyfnder ac fe ddaw moment pan anghofiwn amdanynt yn

Llwyddiannus iawn fu'r ymdrech i ddwyn y Grefydd Anghydffurfiol i blith gwerin Gymraeg yr ardal hon, ond aflwyddiannus fu'r ymdrech i'w Seisnigeiddio, ac yn yr oes hon holwn a yw'r fantol wedi troi.

Nid oedd pawb o blith yr ymneilltuwyr o blaid addysg, beth bynnag, ac yr oedd y gred fod addysg yn creu balchder yn gyffredin yn eu plith.

Y mae tueddiad i ni anghofio mai grŵp bychan o blith trwch y gymdeithas yw aelodau'r mudiadau hyn a bod y rhelyw o'r Cymry Cymraeg o gyffelyb oedran yn cymdeithasu mewn cylchoedd gwahanol iawn nad ydynt o'r braidd yn dod i gysylltiad â'r diwylliant Cymraeg o gwbl yn eu cylchoedd hamdden.

Gall olwg sydyn ar fap daearegol o Fro Gþyr ddangos i ni fod creigiau'r ardal yn gorwedd yn blith drafflith ar draws ei gilydd.

Fel gwraig i fanijer pen-pwll Tyn-y-bedw roedd ganddi'r statws angenrheidiol i gael y fraint o arllwys te wrth un o'r byrddau adeg unrhyw barti a gynhelid yn y festri, swydd o urddas i'r dewisol o blith y chwiorydd.

Hawliai Israel fod Duw wedi'i dewis o blith holl genhedloedd y ddaear yn forwyn iddo, yn genedl etholedig.

Dim ond dau odolyn sy'n cael mentro'n agos ato, sef CARYS HUW ac un actor wythnosol o blith JEREMY COCKRAM, JUDITH HUMPHREYS, GWEN LASARUS a DANNY GREHAN.

A chorff gwirfoddol wedi ei recriwtio o blith y meistri tir a'r clerigwyr oedd hwn.

Wrth feddwl, 'roedd yna eraill wrth gwrs o blith aelodau'r capel yn yr un cyflwr â mi, yn rhyfedd iawn 'doeddyn nhw ddim i gyd yn gyfoedion a mi.

Cymdeithasau cenedlaethol oedd y Cymdeithasau Taleithiol, cymdeithasau lleol oedd rhai'r Cymreigyddion; a thra denai'r Cymdeithasau Taleithiol eu cemogaeth yn bennaf o blith yr offeiriaid a haenau uchaf cymdeithas, roedd y Cymreigyddion yn fwy 'eciwmenaidd' yn grefyddol ac yn gymdeithasol.

Dim ond dwy enghraifft yw'r rhain o blith llawer o genhedloedd sydd yn rhoi gwerth ar eu hieithoedd yn sgil democratiaeth. 08.

Erthygl Saunders Lewis sy'n sefyll allan o blith y tair, er eu bod oll yn rhyfeddol o ffres o'u cymharu a'r rhan fwyaf o newyddiaduraeth wleidyddol hanner cant oed.

Ychwanegodd y pethau hyn o blith y llwch a'r baw yn storws Dafydd William yn ddirfawr at werth fy llyfrgell i.

Tebyg mai o blith y gwŷr rhyddion y dôi'r rhan fwyaf o'r offeiriaid plwyf.

Aeth yr heddlu i blith y dorf.

Yr abad yw'r cyntaf a enwir o blith y rhai y gofynnir ganddynt am y rhodd wrth i'r bardd gyfarwyddo ei negesydd: 'Cyrch dai amlwg ...

Bradley Dredge sy'n gwneud orau o blith y Cymry sy'n cystadlu ym Mencampwriaeth Dubai.

Os oedd y beirniaid yn ei dyfarnu'n orau o blith cystadleuwyr neithiwr ar sail dwy gân - rhai hir oedd yn sicrhau bod ei rhaglen yn ugain munud, mae'n wir - yna rhaid eu bod nhw'n ei hystyried hi'n dalent arbennig iawn.

Ac o blith aelodau Cymdeithas yr Iaith daeth recordiau, cylchgronau, llyfrau a nosweithiau o adloniant.

Peth anlwcus hefyd yw gadael i'r 'chips' orwedd blith drafflith ar fwrdd.

'Dwi'n saff i ddweud 'dwi'n meddwl, mai o blith y gwþr sydd â'u gwreiddiau yn nhir Llanfechell ar Ynys Môn y mae'r un a gafodd y dylanwad mwyaf ar gwrs y byd llynedd - Mr Tristan Garel-Jones (mi fentra i y daw llythyr gyda throad y post yn cynnig ymgeisydd mwy teilwng - oedd hen nain Boutros Bourtos Ghali yn dod o Fynydd Mechell tybed?).

Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.

Gwelwyd yn fuan bod y rhai a oedd yn defnyddio cyffuriau mewn modd anghyfreithlon, gan rannu offer chwistrellu, yn fwy tebygol o ddioddef; hefyd y rhai, o blith y ddau ryw, a oedd yn anllad ac yn mwynhau rhyw gyda nifer o bartneriaid o'r naill ryw neu'r llall.

Dechreuodd ffidlan efo'i gôt o dan bentwr o anoracs, a oedd wedi eutaflu yn blith drafflith ar y soffa.

Roedd gan Dafydd William storws enfawr yn llawn i'r ymylon o lyfrau, a'r rheini'n blith drafflith ar draws ei gilydd ac yn llwch trostynt.

Fe welwyd siaradwyr gwir ddawnus yn datblygu i ddod yn siaradwyr o fri ar lwyfan: Daw enwau fel Geraint Lloyd Owen a Derfel Roberts i'r meddwl o blith y bechgyn, a Meinir Hughes Roberts (Jones gynt) ac Eirlys Jones Davies (Lewis gynt) o blith y merched.

Ond o blith y genhedlaeth honno, efallai taw Parry-Williams - yn fwy felly yn nhinc felancolaidd ei ymadrodd nag mewn unrhyw ddatganiad croyw - a roes lais yn bennaf i'r digalondid sylfaenol hwn.

Ond o blith cynllunwyr y theatr Gymraeg, mae un yn sicr yn adeiladu gyrfa lewyrchus iddo'i hun yng Nghymru a thros y ffin; a phetai unrhyw un yn meddwl am 'gynllunydd' fel rhyw fath o 'interior designer' wedi colli ei ffordd, buan y byddai sgwrs gydag Eryl Ellis yn ei ddarbwyllo fel arall.

Cyfeiriais eisoes at drefniant yr Awdurdodau Siapaneaidd fod nifer o ferched o blith y Koreaid yng nghyrraedd y gwersylloedd yn hwylus at ddifyrrwch rhywiol milwyr y Fyddin Imperialaidd.

Gwnaeth pawb bopeth i roddi'r Nadolig gorau i bawb ac aeth y Nadolig hwnnw a'i dristwch i blith y llaweroedd eraill.

O blith y mynaich traddodiadol, Urdd y Sistersiaid oedd bwysicaf yng Nghymru: hwy oedd piau mynachlogydd yr Hendy Gwyn ac Ystrad Fflur a Chymer, er enghraifft, a lleiandai Llanllyr a Llanliugan, er mai'r Premonstratensiaid oedd piau Abaty Talyllychau ac Urdd S.

Anrhefn trefnus oedd i'r farchnad geffylau: dyn ac anifail blith draphlith.

Dyn y pwll nofio'n dod i Ysgol Fitzalan i achwyn wrth y prifathro 'beutu Sandy a fi; ein bod ni 'di pigo ar ryw grwt bach gwantan - babi mami - o blith y crachach.

Canlyniad hyn fu cyfodi o blith y gwŷr rhyddion Cymreig, nad oedd ganddynt at ei gilydd ond ychydig aceri ar eu helw er gwaethaf eu hachau urddasol, ddosbarth o ysgwieriaid llawer mwy cefnog, a elwir yn aml yn uchelwyr.

Ond erbyn deall nid ser Hollywoodaidd fydd y lladron hynny ond dynion o Lundain bell yn dod i roi taw ar yr hen sinema, yr olaf o blith pump a fu yn y dref - Aberdar - pan oedd hi'n oes aur ar y pictiwrs.

Martyn Williams, blaenasgellwr Caerdydd, a hwyrach Robin McBryde, bachwr Llanelli, yw'r ddau fwyaf annisgwyl o blith y Cymry.

Pobol y Cwm sydd â'r gynulleidfa uchaf o blith unrhyw raglen Gymraeg ar S4C, gan gyrraedd cynulleidfaoedd ar agreg o dros 200,000 ac mae Newyddion yn rhaglen awdurdodol ag iddi barch mawr.

Bob haf, dewisir rhai miloedd o'r goreuon o blith plant ysgol Libya i dreulio tair wythnos mewn gwersylloedd.

Mae'r Adran wedi rhoi cychwyn pendant ar ddefnyddio Technoleg Wybodaeth, gan feddu ar y sustem fwyaf soffistigedig a chynhwysfawr o blith holl adrannau'r Awdurdod.

O blith y rhain cafodd Clwb Llanystumdwy ddwy o rai gweithgar iawn - Mary Pritchard (May) o Edern a ddaeth i Gefn-y-Meysydd, Pentrefelin, a Rhian Owen (Griffith gynt) a ddaeth i Bach-y-Saint, Cricieth.

Gan ddefnyddio'r ystod lawn o arbenigedd newyddiadurol y BBC, cynigia'r rhaglen y goreuon o blith adroddiadau'r dydd.

Canys mwy trist na thristwch oedd deall mai Miriam oedd yr unig blentyn punp oed a siaradai gymraeg o blith naw o blant a dderbyniwyd i ysgol Llangybi y flwyddyn honno wedi gwyliau'r haf, a hynny yn un o gadarnleoedd 'tybiedig' yr iaith.

Bu'n rhaid aros tri chwarter awr tra bo'r swyddogion yn galw am gymorth o blith aelodau staffiau'r swyddfeydd.

Dyfernir y gwobrau am Lwyddiant Unigol mewn Animeiddio gan banel o feirniaid o blith Animeiddwyr o fri o fewn yr Academi Celfyddydau a Gwyddorau Teledu (sy'n cynnal y seremoni Primetime Emmys bob blwyddyn).

Câi'r gŵr y moch, yr ieir ac un gath o blith yr anifeiliaid, a'r wraig weddill y cathod, y defaid a'r geifr.