Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blj

blj

Er bod Bedwyr wrthi'n traethu cerddodd Mrs R____ ar hyd yr ale/ i'r tu blaen, eistedd, edrych i fyw ei lygaid, a cherdded allan ar ei hunion y ffordd y daeth, gan ddweud wrth geidwad y drysau y tybiai hi mai DLlM a gyhoeddwyd i ddarlithio yno: "Dw-i wedi clŵad hwn o'r blaen." BLJ ei hun a ddywedodd y stori wrthyf i, gyda'r afiaith arferol hwnnw a gyffroai ei aelodau i gyd.

Yn hyn o genhadaeth mae'r cylch yn grwn: y cof cyntaf sydd gennyf i o BLJ yw'r cof amdano yn Ystafell Gymraeg Coleg y Gogledd yn arwain cylch trafod llenyddiaeth a gododd ef ei hun; y mae yn ei rifyn olaf o Daliesin gerddi a stori%au byrion gan raddedigion newyddaf y Gymraeg.

Coffa da nid yn unig am ei gyfraniadau i gyfarfodydd colegol o bob math ond hefyd am giniawau'r Calan llawer dydd, am y bowliwr troellog ciami iawn ar leiniau Treborth, y tripiau hwyliog yn yr haf i'r criced i Old Trafford, yn y gaeaf i Lerpwl i weld timoedd Shankly, Paisley a Dalglish; ac am BLJ y gŵr a'r tad yng nghysur mawr agored Bodafon.

Pan glywodd fy mrawd-yng-nghyfraith y newydd am ei farwolaeth ar y teledu dywedodd wrth ei wraig fod "y dyn 'na a arferai gadw gôl i Amlwch wedi marw." Dyna'n union y math o stori y byddai BLJ wrth ei fodd yn ei chlywed, ac wrth ei fodd wedyn yn ei hailadrodd.

Mewn pwyllgor, er y gwelid ac y clywid BLJ y rhefrwr wrthi-hi weithiau, yr oedd fel arfer yn bwyllog eithriadol.