Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bloeddio

bloeddio

Dychymgwch eich bod yn byw drwy'r bedlam yna ar ôl Dolig pan mae pob dim ar sêl yn y sipa, a phob twll a chornel yn bloeddio hynny.

y wawr yn codi ar Gymru, hualau'n cael eu lluchio ymaith, iau gormes canrifoedd yn cael ei thynnu, y mynyddoedd yn bloeddio canu, y coed yn curo dwylo, ac felly ymlaen.

'Roedd Dewyrth Dafydd yn bump oed ar y pryd ac yn cofio amdano'i hun yn sefyll efo'i fam yn nrws Crowrach a chlywed yr ardalwyr yma ac acw hyd yr ardal yn bloeddio 'Elin, Elin'.

Tawelwch sydd wedi bod ym Mhrydain ers i'r grwp ganslou taith Brydeinig llynedd, ac ers hynny, mae Cerys wedi wynebu beirniadaeth yn y wasg am ei sylwadau am gyffuriau, a chyhuddiadau o ymddygiad rhagrithiol - yn bloeddio canu am ba mor ddi-enaid yw bywyd Llundain, ond eton cael ei sbotion gadael y Met Bar bondigrybwyll gydag amrywiaeth o ser.

Tua chanol nos, a'r gelyn yn cysgu'n drwm yn y dyffryn isod, rhoes Gideon arwydd a thorrodd pob gŵr ei biser a dechrau chwifio'r ffagl dân a bloeddio pob un ei utgorn nes i'r dyffryn grynu.

NI welid mohono'n plymio'n acrobatig, yn bloeddio'n uchel ac yn mynd dros ben llestri er mwyn tynnu sylw ato'i hun (fel y gwneir heddiw, gwaetha'r modd).

Toc, clywn siffrwd traed yn tuthian ar draws y leino o'r tu ôl, ac yn sydyn dyma drywaniad yn serio drwy fy meingefn, ac ar yr un eiliad yn union y meddyg yn bloeddio 'Sori!' Rwy'n barnu mai honno oedd y boen corff fwyaf dirdynnol a brofais erioed.

Erbyn hynny roedd Guto'n bloeddio nerth ei ben ac Owain hefyd yn eithaf piwis.

Clywais y bloeddio'n codi'n uwch ac yn uwch.

Go brin fod yna ddim byd mwy plagus i'r sawl sy'n dioddef o unigrwydd neu'r felan na chlywed eraill yn bloeddio chwerthin, na dim sy'n fwy tebygol o bwysleisio'r anniddigrwydd a'r iselder.

Mae o'i weld yn bloeddio'n iach iawn, diolch yn fawr, ac yn fodd i ddifyrru Cymraes fach gegrwth sy'n bell o'i chartre', beth bynnag!

Mae hi fel trampolîn.' `Wyt ti'n meddwl y cawn ni afael ar drysor yma?' `Cellwair yr wyt ti wrth gwrs.' `Wel - dwyt ti byth yn gwybod - edrych ar y wardrob draw fan na - pwy a yr beth sydd ynddo.' `Yr unig ffordd i ddarganfod hynny yw mynd i edrych!' Gan waeddu a bloeddio neidiodd y giang dros y gwahanol rwystrau i'r fan lle safai hen wardrob yng nghanol pentwr o ddodrefn diraen fel llong ofod a adawyd ar ôl.

Ond wnaeth y bechgyn ddim byd ond dechrau bloeddio eto, er gyda thipyn llai o arddeliad.

Ni fu'n rhaid i gefnogwyr Holland aros yn hir cyn bloeddio eto.

Gweryru a sisial, bargeinio a bloeddio a mân siarad yn llythrennol gymysg â llawer o falu awyr.