Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blwmp

blwmp

Pan ddywedodd yr Iesu wrth y disgyblion i fod e'n mynd i baratoi lle iddynt, a'u bod nhw'n gwybod y ffordd, a'r lle 'roedd e'n mynd, a thra oedd y gweddill o'r disgyblion yn meddwl dros y peth, yn pwslo ac yn ceisio dyfalu beth i'w ddweud, Tomos oedd yr un, y very one a ddwedodd wrtho yn blwmp ac yn blaen nad oedden nhw ddim yn gwybod o gwbwl, y ffordd na'r lle.

Gwenodd arnaf finnau a gwenais innau'n ôl, a dwedais, 'S'mai heno?' Hwyrach imi ymddangos yn rhy gyfeillgar oherwydd trodd yn ôl ac eistedd yn blwmp wrth f'ochr i.

wel, gadewch ifi weud yn blwmp ac yn blaen i bod hi'n gwbod shwt i gymryd cusan, a'i roi hefyd.

Mi ddôth y dyn llyfr bach ata i ar ddiwedd yr oedfa bore Sul a dweud wrtha i yn blwmp ac yn blaen na chawn i byth fynd yno wedyn am fy mod i'n rhoi oel ar fy ngwallt.' O drugaredd, 'roedd gan y bachgen hwnnw gryn dipyn o synnwyr digrifwch ac fe ddaeth yn bregethwr poblogaidd iawn ac yn un o arweinwyr 'i enwad - er 'i fod o'n dal i roi od ar 'i wallt.

Yn blwmp ac yn blaen, dyma ddiwedd dy antur.

Fe gwympodd y corff lawr blwmp i'r gwair oedd ar y llawr.

Gosododd hi'n blwmp i lawr ar ganol llawr yr ystafell wely a'i gadael yn syn.

Cyn gynted ag y dringai o un pwll disgynnai yn blwmp i bwll arall a hwnnw, os rhywbeth yn ddyfnach na'r un blaenorol.

Ymatebai'n blwmp "Rwyf wedi ffaelu'n deg ag Almaeneg".

Wrth gwrs, 'roedd eglwys hynafol Sant Dyfrig wedi ei gwasgu i gesail y mynydd ganrifoedd cyn hyn, ac yn ddiweddar bu rhywun mor ddifeddwl â gollwng 'sgubor o gapel Annibynwyr yn blwmp ar ganol y rhos yn y man mwyaf diarffordd posib'.