Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blwyddyn

blwyddyn

Castell Nedd, felly, yn colli gartre yn y Gynghrair am y tro cynta ers blwyddyn a mwy a Chaerdydd er yr holl newiadau yn y tîm yn aros ac yn cynnal eu sialens ar y brig.

Oes raid iti neud bob blwyddyn?' gofynnodd Robin, ei wrychyn yn codi wrth weld rhai o'i oriau hamdden prin yn cael eu dwyn oddi wrtho eto.

Roedd addasiad BBC Cymru o Cancer Ward Solzhenitsyn ar gyfer BBC Radio 3 yn un o'r dramâu radio a ddenodd y ganmoliaeth uchaf yn ystod y flwyddyn - blwyddyn y cynhyrchodd adran ddrama BBC Cymru Cardiff East gan Peter Gill, yn ogystal â Passnotes on Romeo and Juliet a The Egoist.

Blwyddyn gyfoethog yn hanes yr adran oedd honno.

Mae'n anodd credu bod y dderwen yn ffurfio'r holl fes bob blwyddyn, a hynny dim ond i sicrhau eginiad a dat- blygiad un goeden i gymryd lle yr hen goeden wedi iddi oroesi cyfnod ei chryfder.

A blwyddyn yn ôl trefnwyd diwrnod yn y Ganolfan Gynadledda yn Llandudno iddyn nhw gael manylion am y cynllun.

Y mae cyfrinach llwyddiant ac enwogrwydd y cylchoedd glan môr hyn bellach ynghlwm wrth yr ymosodiadau cyson arnynt gan ymwelwyr o bob math rhwng Ebrill a Hydref bob blwyddyn.

Eira Rhagfyr - blwyddyn ffrwythlon i ddod.

roedd hwn yn gyfle da i gymru ennill ei gêm gyntaf yn y bencampwriaeth gan gofio y gweir a gafodd yr alban gan y crysau duon ond gwaetha'r modd nid wyf yn gweld y tîm hwn yn eu trechu hyd yn oed ar y maes cenedlaethol ac nid yw'n rhoi bodlonrwydd o gwbl imi fod yn dweud hynny ar ddechrau blwyddyn.

Taranau yn Ionawr, blwyddyn wlyb.

Ni welwyd erioed amgueddfa mor lliwgar, y waliau yn ddu a llif-oleuadau bach yn goleuo'r cesys, rhai yn ymwneud â blynyddoedd y rhyfel fesul blwyddyn ac eraill yn trafod hysbyseb unigol, OXO, Ovaltine, Rinso ac yn y blaen.

Cefais ddeng mlynedd hapus ar y staff, blwyddyn i ddechrau gydag Aneirin Talfan Davies yn Abertawe a'r naw mlynedd arall gyda Sam Jones ym Mangor.

Yna yng ngwanwyn bob blwyddyn daw miloedd ar filoedd i ymwthio i fyny afonydd Ewrop.

Yn ôl yr adroddiadau gwreiddiol byddai'n colli blwyddyn gyfan.

Cyfres o dameidiau oedd blwyddyn a rhoddid pwyslais ar bob cymal ohoni yn ei dro.

Blwyddyn streic y glowyr.

Cwestiwn naturiol i'w ofyn ydi paham eu bod yn mudo pob blwyddyn o Affrica yn y Gwanwyn.

Gofynnwyd i Crile weld y claf ymhen blwyddyn.

Gadawodd y fugeiliaeth ar ôl llai na blwyddyn, a gwnaeth gais am gael ei dderbyn i Eglwys Lloegr.

Un naw chwe tri oedd blwyddyn f'ordeinio'n weinidog yn Ebeneser Trawsfynydd, i ofalu am yr eglwys honno yn ogystal â Phenstryd a Jeriwsalem - Jeriw ar lafar gwlad.

Mae blwyddyn a mwy ers i Gymru guro De Affrica yn y gêm gynta yn Stadiwm y Mileniwm.

Gwelwn ddefnydd gwahanol ohonynt bob blwyddyn, ac mae dyfodol disglair, mewn sawl ystyr, o'u blaenau.

Yn ychwanegol at hynny os na fyddai arian yn eu pocedi yna byddai blwyddyn drafferthus yn eu wynebu.

Cyn iddo fynd i Gadair y Cyngor bu am ryw bum mlynedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Llenyddiaeth, yn gofalu am raglen gyhoeddi'r Eisteddfod ac yn gwirio a chadarnhau ei thestunau llên flwyddyn ar ôl blwyddyn gan gadw'r ddysgl yn wastad rhwng yr amryfal is-bwyllgorau lleol a'r canol.

Blwyddyn a phum mis oedd rhwng Doris a mi, a chofiaf lawer o gydchwarae rhyngom.

Roedd Alun yn Form Three neu Four - heddiw Blwyddyn naw neu ddeg yn yr Ysgol Gyfun, ac yn derbyn gwersi Lladin.

Oddeutu'r pum cant, fwy neu lai, sydd yn cystadlu yn Adran Llên y Genedlaethol bob blwyddyn, er bod pum mil a mwy ar b'nawn Iau yn ysu am roi 'u llinyn mesur ar 'u tipyn ymdrechion nhw hefyd.

Ar bwyntiau y gwnaeth y Cymro ennill yn erbyn y rheini ond buasai llorio a churo Sheika yn hwb mawr i Calzaghe ar ôl blwyddyn ddi-nod.

Bu raid iddo fodloni ar ennill pencampwriaeth y veterans - flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Roedd Pridd a Gwaed, drama radio gyntaf Siôn Eirian ers sawl blwyddyn, yn gynhyrchiad radio llawn diddordeb yn canolbwyntio ar griw o Gymry a ymunodd â'r Frigâd Ryngwladol i frwydro yn erbyn ffasgaeth yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.

Wrth i derfynau yr iâ encilio fwy-fwy i'r gogledd bob blwyddyn, roedd yr adar hefyd yn ymestyn eu man bridio ac yn dychwelyd i rannau cynnes Affrica yn y Gaeaf.

Yna, mewn llais tawel, a gwên hiraethus ar ei hwyneb dywedodd yr hen wreigan: "Ugain mlynedd yn ôl i heno, fe laddwyd fy merch ar y ffordd ble y gwelsoch chi hi heno, a phob blwyddyn ers hynny, ar y noson arbennig hon y mae rhyw yrrwr caredigyn dod â hi adref, - diolch i chi - fe gaiff dawelwch am flwyddyn arall rwan." Gadawodd y dyn y tþ wedi ei ysgwyd i'w sodlau gan yr hyn a welodd ac a glywodd.'

Roedd hynny flwyddyn yn ôl - Blwyddyn y Milliniwm.

Neges Blwyddyn Newydd PDAG

Ers sawl blwyddyn bellach rydym yn gweithredu system sy'n golygu ein bod yn atgoffa pob aelod ei bod yn amser iddynt ail ymaelodi bob 12 Mis.

Er iddi fod yn arferol i roi cilwg yn ol ar ddechrau blwyddyn newydd, tydw i ddim am godi'r felan coli arnoch wrth restru'r problemau a gafwyd o fewn y diwydiant yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.

Hawl weithredol i'r Is-bwyllgor adolygu'r Rhaglen Gyfalaf yn ystod pob blwyddyn ariannol.

Ac mi fyddaf yn rhyfeddu at y goeden hon bob blwyddyn gan na wn am unrhyw goeden arall sydd yn blodeuo cyn deilio þ sef mynd yn hen cyn bod yn blentyn!Y Ferch Dawel - Manon Eames (tud.

Byddai Eisteddfod yn cael ei chynnal yn y capel bob blwyddyn yn y gwanwyn ac yno y dechreuais gystadlu.

Blwyddyn yr Arwisgo yng Nghaernarfon.

Rwy'n meddwl i'r trampolîn gyrraedd tua blwyddyn o mlaen i a byddai Syd yn ei addysgu ei hun ai fyfyrwyr yr un pryd.

Blwyddyn Newydd Dda - rhagom i'r Gymru Rydd.

Wedi sawl blwyddyn yn y mynyddoedd fe benderfynodd ffoi o Cwrdistan, a gan fod ei frawd eisoes wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd fe ddaeth Kamarin, hefyd, i brifddinas Cymru.

Dyna pam mae'n hymgyrch ni yn para dros blwyddyn a hanner.

mewn canlyniad i'r arbrawf lwyddiannus, cytunodd llywodraeth ffrainc i roddi blwyddyn o brawf i'r ddyfais, ac ar ddiwedd y cyfnod prawf, fe'i derbyniwyd yn ddiamheuaeth.

Bob blwyddyn, mi fydda i'n mynd ar ryw fath o bererindod yn ôl i weld y tŷ lle cefais fy ngeni.

Fel y bydd mis Ebrill yn tynnu at ei derfyn fe fydd pawb yn ceisio cau'r sŵn allan o'u tai ac yn stwffio wadin i'w clustiau, ond y mae'r cwbwl yn ofer bob blwyddyn.

Wedi blwyddyn a thri mis yn ysgol Brynrefail symudais i Awstralia.

Ond wedi cyfnod o arbrofi dwys - "blwyddyn a hanner, a ninnau heb wybod i ba gyfeiriad yr oedden ni'n mynd" - ar ddamwain y trôdd at gerddoriaeth boblogaidd.

Wedi blwyddyn yn yr Ysgol Ganolraddol bu'n rhaid i Euros, a hefyd ei frawd hŷn, Thomas a oedd wedi cael ei dystysgrif 'Junior' fel y gelwid hi, adael yr ysgol a chwilio am waith.

Mae'n cyhoeddi cyfrol o Drafodion (mae cyfrol 1999 ar gael yn awr) ac yn cynnal tri achlysur arbennig pob blwyddyn- Cyfarfod y Gwanwyn, gwibdaith yr Haf a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gyda siaradwr gwadd.

Mae traean o aelodau yn ymddeol bob blwyddyn ond maent yn gallu cael eu hailethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Os defnyddir blodau blynyddol, gellir defnyddio'r ardd ar gyfer dosbarth newydd bob blwyddyn.

Mae'n 'fam' i gasgliad digon difyr o anifeiliaid, gan ei bod yn 'mabwysiadu' anifail gwahanol pob blwyddyn trwy noddi un ar gynllun arbennig sy'n gwarchod anifeiliaid yn eu cynefin.

Unwaith eto bu raid mynd i ysgol lle'r oedd gweddill yr adeilad yn cael ei ddefnyddio gan ysgol Saesneg hyd nes bod ei disgyblion wedi ei gadael fesul blwyddyn.

Ar y llinell amser ceir manylion am brif ddigwyddiadau hanesyddol, a'r Eisteddfod Genedlaethol, ym mhob blwyddyn o'r ugeinfed ganrif.

Dro arall y canfu+m i'r rhyfeddod prin yn ffurf oenig annhymig oedd achlysur ymweliad cerbydaid ohonom â Dolwar Fach, ym mlwyddyn dathlu daucanmlwyddiant geni Ann Griffiths, llynedd blwyddyn y gwres diddiwedd.

Yn Offshore, a lefarwyd gan Tim Piggot Smith, dogfennwyd blwyddyn ym mywyd staff a myfyrwyr Athrofa Gwyddorau'r Cefnforoedd Prifysgol Cymru ym Mangor.

Unwaith bob blwyddyn, ar benwythnos y gêm ryngwladol, byddem yn mynd i Ddulyn, ac yn chwarae rygbi yn erbyn y myfyrwyr meddygol yno ar fore Sadwrn cyn mynd i weld y gêm yn y prynhawn.

Mae blwyddyn yn weddill o gytundeb Hollins gydag Abertawe.

Yn Offshore, a lefarwyd gan Tim Piggot Smith, dogfennwyd blwyddyn ym mywyd staff a myfyrwyr Athrofa Gwyddoraur Cefnforoedd Prifysgol Cymru ym Mangor.

Mae 11 o ddisgyblion blwyddyn 12 YSGOL GYFUN LLANHARI wrthi'n trefnu alldaith i Forocco, lle y bwriadwn ddringo fynydd ucha'r wlad.

Cynhelid gwasanaeth bob pnawn Sul ac ysgol Sul, ac yn ôl arfer ardaloedd de Cymru byddai Cymanfa Bwnc bob blwyddyn, gyda pharatoi mawr ar ei chyfer.

Sawl blwyddyn ers y bu hi'n segura yn ei gwely am hyd yn oed ddiwrnod, heb sôn am wythnos gyfan?

Y sefyllfa fel mae'n sefyll ar hyn o bryd yw mai ieithoedd Lwcsenbwrg yw'r unig ieithoedd a fydd yn derbyn arian o gyllid Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd y flwyddyn nesa, hyn am fod yr ieithoedd hyn wedi eu clustogi yn ieithoedd swyddogol oddi fewn i'w cenedl wladwriaethau.

Mae ei chwaer-raglen Post Prynhawn, fel yr orsaf, yn dathlu ei 21ain blwyddyn.

Roedd yn dal i beintio ar y pryd; yna gwelodd hysbyseb a fyddai'n mynd ag o i gyfeiriad a gyrfa bendant: hysbyseb am gwrs blwyddyn i ddysgu Cynllunio Llwyfan.

Hoffwn weld 'Noson o Siarad Cyhoeddus' yn ymddangos ar raglen pob clwb bob blwyddyn pe ond am y gwerth addysgiadol sydd iddi.

Blwyddyn gyntaf Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Hon oedd blwyddyn 'gaeaf yr anniddigrwydd' pan welwyd biniau sbwriel yn ymgasglu ar y strydoedd, ysbytai yn gwrthod cleifion, toriadau yng nghyflenwad bwyd a phetrol, miloedd ar y clwt ac ambell enghraifft o dorrwr beddau yn gwrthod agor beddau.

Blwyddyn o anghydfod diwydiannol gyda 200,000 ar streic, a'r Heddlu, hyd yn oed, yn mynd ar streic, a'r faner goch yn hedfan yn Glasgow.

Peidiwch byth â defnyddio chwynladdwr yn ystod blwyddyn gyntaf lawnt newydd.

Bwyta ac yfed digon i bara blwyddyn.

Bum mewn amryw ddramau gyda Miss Annie Thomas y ferch hynaf, a bu hithau a'i chwaer yn organyddion Capel Ebenezer am lawer blwyddyn.

"Mae pob cenedl arall wedi bod yn dathlu eu gwyliau mewn ffordd arbennig bob blwyddyn ac yr oedd yn hen bryd i'r Cymry wneud yr un fath," eglurodd Julian Phillips o Dreorci sy'n gadeirydd y Clwb.

Ni all afon Conwy gystadlu â hyn ond er hynny y mae'n cludo sawl mil o dunelli o waddod bob blwyddyn i Fôr Iwerddon.

Aeth blwyddyn arall heibio, a syndod i ni, o siarad hefo fo, oedd nad oedd albym newydd ar y gweill ganddo.

Ymhell cyn fy ngeni i deuai bob blwyddyn â hosan Nadolig i bob plentyn yn yr ysgol, o'r lleiaf i'r mwyaf, ynghyd â ffrwythau a melysion.

Bydd busnesau, hefyd, yn gwneud cyllidebau am gyfnod hwy na blwyddyn - efallai'n edrych ymlaen am dair, pedair neu ddeng mlynedd.

Yno, wrth gwrs, y byddai'r myfyrwyr yn cwbwlhau eu cwrs ar eu blwyddyn olaf, ac, yn wahanol i heddiw, byddai rhai o'r myfyrwyr am beth amser cyn derbyn galwad i ofal Eglwys.

Mis yn ddiweddarach cânt sylw y drudwennod, ac mae olion y wledd i'w gweld ar foned y car o flaen y tþ 'cw pob blwyddyn.

A'r 'Dolig yn ymddangos yn y siopau ynghynt bob blwyddyn a'r tinsel a'r trash yn ein rhwymo mewn clyma drud a dichwaeth ar ein gwaethaf a oes felly fodd i osgoi'r þyl?

Y mae dechrau blwyddyn yn ein hatgoffa mai mynd yr ydym ni ond fod Duw'n aros.

Mae wedi golygu blwyddyn o waith achosti'n gorfod datblygu perthynas nid yn gymaint efo'r cwmni ond efo un person ." Y ffigurau allweddol i'w targedu, meddai, yw rheolwyr lleoliadau ffri-lans sy'n argymell lleoliadau i gwmni%au ffilm mawr sy'n edrych am lefydd addas.

Glaw Gwener y Groglith - blwyddyn sych.

Pan aeth y gweithwyr yn ôl i'w pyllau yn wythnos gyntaf mis Hydref, gwnaethant felly ar y telerau a fuasai ar gael ers blwYddYn.

Blwyddyn newydd ddrwg A llond tþ o fwg.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Hon oedd blwyddyn 'gaeaf yr anniddigrwydd' pan welwyd biniau sbwriel yn ymgasglu ar y strydoedd, ysbytai yn gwrthod cleifion, toriadau yng nghyflenwad bwyd a phetrol, miloedd ar y clwt ac ambell enghraifft o dorrwr beddau yn gwrthod agor beddau.

Treulir cryn amser a chyllid bob blwyddyn yn manylu ar yr anghenion, gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael a gofynion newydd y cwrs addysg.

Y mae tanysgrifiad blwyddyn dramor yn £59.

Fodd bynnag, mae'n achos pryder i'r Cyngor Darlledu bod cyrhaeddiad a chyfran gwrandawyr BBC Radio Wales wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Bu'n beirniadu cystadleuaeth y Gadair bron bob blwyddyn o droad y ganrif hyd at ei farwolaeth ym 1929, a cheisiodd arwain y canu caeth o'r diffeithwch yr oedd ynddo ar y pryd.

Roedd yn rhaid i ni, er hynny, ddilyn ymarferiadau milwrol am dair wythnos bob blwyddyn a hwnnw'n gyfnod di-dor, ond caem ddewis i ba adran o'r lluoedd arfog y dymunem ymuno â hi.

Mae digwyddiadau'r flwyddyn a fu wedi tynnu'r gorau unwaith eto o'n newyddiadurwyr a'n gwneuthurwyr rhaglenni mewn radio a theledu - blwyddyn o orchestion cyson a sylweddol.

Terfynodd Ffactri Wlân Glasfryn ei gwasanaeth ers llawer blwyddyn bellach, ac atgofion gan yr oedolion yn unig sydd am weithdy'r crydd.

Fe ddarganfu ymhen blwyddyn mai mwy buddiol fyddai iddo symud i Goleg arall lle roedd eglwysi Annibynnol i'w cael yn amlach ac y byddai mwy o alw am ei wasanaeth, a dewisodd fynd i Goleg y Brifysgol Abertawe.

Wedi iti orffen hyn, gorwedd ar dy ochr dde, a charia bechod tŷ Jwda; yr wyf wedi pennu ar dy gyfer ddeugain o ddyddiau, sef diwrnod am bob blwyddyn.

Erbyn hyn wrth gwrs, a Morfudd wedi bod yn ei bwthyn ers sawl blwyddyn, ac atyniadau llawer mwy pêr wedi cyrraedd y pentref i ddifyrru'r tafodau yn y cyfamser, anaml iawn y byddai unrhyw drafod ar yr hen wraig, yn gyhoeddus o leiaf.

Bydd y goeden afal yn dwyn ffrwyth cynyddol bob blwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf yn union fel y bydd Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl i'r C.C.T.A. fabwysiadu cynllun 5 mlynedd i greu Coleg Cymraeg i Sir Gaerfyrddin.

Dymunwyd yn dda i Mrs Jones gan obeithio y caiff flynyddoedd lawer iawn o ymddeoliad hapus gyda Mr W H Jones ei phriod a ymddeolodd tua blwyddyn yn ol.