Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blwyf

blwyf

Anaml iawn yr âi allan o'i blwyf.

Ond prin y gallent hwy, hyd yn oed, gystadlu o ran harddwch â'r eglwysi cadeiriol, yr hen eglwysi clas (megis Llanbadarn Fawr) ac ambell eglwys blwyf, heb sôn am abatai a phriordai'r gwŷr wrth grefydd- casgliad nodedig o adeiladau gwych dros ben.

A dywed yn ei ewyllys iddo gael ei fedyddio yn eglwys blwyf Mellteyrn.

Yn y rhifyn cyntaf cyhoeddwyd erthygl gan Peter Bailey Williams, oedd wedi canfod "y gelyn yn brysur wrth ei waith", yn nes at adref, sef ychydig o filltiroedd i lawr y ffordd o'i blwyf ei hun, yn nhref Caernarfon.

Ond, ysywaeth, nid oedd tafodiaith y Cei yn gymeradwy iawn y tu allan i blwyf Llanllwchaearn.

Yn ail, 'roedd y ddau blwyf yma wedi'u lleoli mewn rhan o'r wlad a gysylltid yn agos iawn â Lolardiaeth, hen heresi canlynwyr y Diwygiwr medifal, John Wyclif.

Llifa Afon Camas trwy blwyf Llangernyw ac y mae lle o'r enw Camas-y- dreyn Ystradgynlais.

Y ddau blwyf arall sy'n ffinio â Llangwyryfon yw Llanilar a Llanddeiniol.

Gelwir y rhan o Afon Caradog sy'n llifo drwy blwyf Llandrygarn yn Afon Post hefyd gan bobl yr ardal, enw sy'n amlwg wedi tarddu o'r ffaith fod Swyddfa'r Post ar un adeg yn Rhydcaradog.

Gwr o blwyf Paston, sir Amwythig, oedd Sieffre Parry, Rhydolion.

Gwyddom bellach mai un o blwyf Llanrwst oedd Edmwnd Prys, ac mai yno yr oedd cartref ei dad a'i daid.

Rhaid fod y llecyn hwn yn agos i Gwm Croesor ac y mae'n bosibl fod yna groesau eraill gynt yn nodi'r ffin rhwng y ddau blwyf.

Un o ysgolheigion disgleiriaf Rhydychen a'i golygai, ond nid dysgedigion a ysgrifennai iddo, ond llenorion gwlad; rhywun a wyddai hanes ei blwyf ei hun, a fedrai ddisgrifio golygfa o ben mynydd, a wyddai am hynodion hen bregethwyr, a gofiai bethau diddorol am ei blentyndod, a adwaenai adar a blodau, neu a deimlai ar ei galon lunio cân o dri neu bedwar pennill.

Un arall o'r troseddau cyhoeddus oedd dwywreiciaeth, a dedfrydwyd John Hart o blwyf Llanstadwell.

Gan fod pob arwydd y bydd darlledu analog yn dod i ben cyn diwedd y degawd hwn, bydd angen i BBC Cymru lunio strategaeth glir a fydd yn sicrhau ei fod yn ennill ei blwyf ei hun, lle y gall barhau i gynnig gwasanaethau safonol i bobl Cymru.

Wrth adael y ffordd a charlamu i lawr trwy'r pinwydd at gyrrau S-chanf, fodd bynnag, a gweld y dyffryn yn ymestyn o blwyf i blwyf tua'r gorllewin, teimlwn fy mod 'wedi croesi'r Alpau' lawn cymaint a Wordsworth a Robert Jones Llangynhafal, yn dod i lawr y Simplon, gynt.