'Ydi hi'n bell i dŷ Nain?' gofynnodd Owain wrth iddi blygu drosto i'w gau'n ddiogel yn ei sedd, a pharodd hynny i'w fam wneud un arall o'i phenderfyniadau sydyn.
Fodd bynnag, a chymryd bod y glud sy'n eu dal wrth ei gilydd yn hyblyg i ryw raddau, yna fe allai blygu tipyn dan ddylanwad grymoedd allanol.
Cofiwch Dylech blygu eich penliniau AC NID EICH CEFN cyn codi rhywbeth, fel ' bod cyhyrau'r glun yn cymryd y straen.
Oni wyr archifwyr cenedlaethol Ffrainc y dylsid naill ai gadw rhywbeth fel hyn yn wastad, heb ei blygu o gwbl?
'Dere ma ac fe gei di ysgub ar dy din?' galwodd Vera gan blygu i godi'r bag o'r palmant.
Gofalodd pob un blygu'i ben tua'r llawr a disgwyl yn ddistaw.
Nid wyf fi'n deilwng i blygu a datod carrai ei sandalau ef.
Nid ydym wedi cael un Binney i'n dysgu i blygu yn wylaidd syn yn yr olwg ar y 'Goleuni Tragwyddol', nac un Alford i'n galw gyda 'Forward be our watchword' i adael ofn y diffydd, a gweled goreu Duw a dyn yn y dyfodol; ac ni chawsom un Newman i weddio gyda ni am arweiniad yr 'hawddgar oleuni'.
Wrth blygu fe wnes i gyffwrdd yn ysgafn yn ei ysgwydd â'm llaw, er efallai yn anfwriadol.
Rhoddai'r dwblwr holl nerth ei freichiau cryfion i blygu'r blaten boeth, a chyn i ddeupen y blaten gyfarfod â'i gilydd ar lawr y felin, rhodd ai'r dwblwr holl bwysau'i glocsen ar y blaten i ddyfod â'r dybliad i fwcwl.
Yn y cyfarfodydd dysgais y morse code a'r semaphore, sut i wneud cylymau o bob math a thrafod cwch hwyliau, sut i godi pabell a chwythu biwgl a sut i blygu baner yr Union Jack, ei chodi i dop y polyn a'i hagor yn daclus.
Wrth blygu lawr, sylweddolais nad papur sbwriel oedd ond esgid plentyn.
Roedd hi'n anodd dychmygu'r hen wraig honno a edrychai mor Gymreig a thraddodiadol â hen fenyw fach Cydweli, gyda'r siôl frethyn coch, a'r sgert frasddu, yr hen wraig â'i gwar esgyrnog yn grwm wrth iddi blygu'n dawel dros ei thro%ell, a'i phen yn frith dan y cap gwau, anodd oedd dychmygu honno'n deisyfu dyn!
'Diolch, eich mawrhydi.' Cilwenodd y gwrachod gan blygu'u pennau i gyfeiriad y gath.
'Welaist ti'r Gwyliwr heddiw?' 'Naddo, wir.' 'Yr ydw i wedi gwneud i hyd yn oed bobol Caerfenai 'ma chwerthin,' meddai'r Golygydd, gan agor y papur a'i blygu a'i gyflwyno i Dan.
Maen nhw'n barod i blygu i'r gwynt, felly mae'r gwynt yn chwythu drwyddynt heb eu niweidio.
'Rwy'n cofio edmygu ei dawn i blygu popeth, ac wedi i mi ei phriodi, 'rwy'n dal i edmygu'r ddawn arbennig hon o ofalu am bob dernyn o ddillad a'i blygu'n berffaith.
Yn y padiau clwm mae'r silia yn dal i geisio curo ac mae yna blygu a sythu rhythmig yn y padiau sy'n awgrymu gweithgaredd cyhyrau.
Stryd o faw wedi cywasgu drwy aml deithio arni, yn bantiau ac yn dyllau i gyd, ac wrth i mi blygu lawr, baglais yn fy mlaen yn sydyn.
Gafaelodd yn ei goler wrth iddo blygu i fynd i mewn i'w sedd.