Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bnawn

bnawn

Mi fyddai yna stori ysgafn yn y Cymru'r Plant weithiau, ond prin y byddai hi byth yn ddigon digri i'w hail- adrodd ar y ffordd adre o'r ysgol neu wrth aros iddi stopio bwrw glaw ar bnawn Sadwrn.

Ond roedd yn rhaid iddi weithio ddwy shifft bnawn yr wythnos, beth bynnag.

Gollyngdod digamsyniol ar bnawn heulog o Fehefin i gaethion bach y desgiau pren fyddai edrych i fyny ar y manol yn entrychion yr ysgol a chofio fel yr oedd Wmffra a Nedw wedi treulio pnawn cyfan yn y seilin yn gollwng slumod wrth ben dosbarth y sgþl.

Ne...ne mi eith y gwarthaig i'r mart 'i hunan." Er ei bod hi'n bnawn myglyd 'roedd drws Nefoedd y Niwl yn agored led y pen a chorff byrgrwn, wynebgoch Laura Elin o'r Felin yn hanner llenwi'r drws hwnnw.

Ar bnawn o heulwen tanbaid ym mis Mai eniUodd Cymru, bron yn anhygoel, o bedair gôl i un.

Ond yr oeddwn in digwydd bod yn eistedd yn yr haul gyda fy mheint y tu allan i dy tafarn am chwarter wedi tri bnawn Llun.

Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.

Bu'n bnawn gwerth chweil gyda'r tri gŵr da, yn olrhain hanes 'Chwarel Bryn', y cymeriadau a weithiai yno, y teuluoedd oedd yn byw o gwmpas, ynghyd a thrafod nodweddion y tirwedd a'r ardal.

Mae rhai cwsmeriaid yn treulio y rhan orau o bnawn yn pori trwy lyfrau neu'n byseddu a darllen cylchgronau.

Cael gwahoddiad i dy un o'r athrawon bnawn Sadwrn.

Doedd yna ddim gwaed ar y stryd y tu allan i adeilad y Cynulliad Cenedlaethol pan oeddwn yn pasio bnawn Sul - er gwaetha'r hyn a ddigwyddodd i'r Fonesig Gwyther ar ei ffordd i'r Roial Welsh.

Mi gawson nhw'u rhyddhau'n ôl i'r dwr ar Draeth Sant Ffraid bnawn Sadwrn.

Cofiwch am ail raglen 4 Trac ar S4C bnawn Sul yma efo Ian Cottrell yn canolbwyntio ar bedwar grwp arall.

'Roedd o'n beth digon amlwg na fuasai neb yn disgwyl i'r Beibil fod yn siarad, er y byddai y bobol oedd yn hwnnw yn gorfod siarad ar bnawn Sul pan fyddai yna holi'r plant yn yr ysgol þ "Be ddeudodd Samiwel bach wrth Dduw 'y mhlant i?" 'Roedd pobol mewn oed yn sôn bod yna bethau digon difyr fel cerdded drwy'r mwd a chwffio efo llewod yn Nhaith y Pererin, ond 'doedd dim dichon cael hyd iddyn nhw fel y medrech chi gael hyd i Dôn y Botel neu Spargo'r Felin yn Nedw.

Mae ymdeimlad o gefn gwlad i'r ardal ac mi gaiff yr ymwelydd flas ar fywyd sydd heb newid ers canrifoedd - yn enwedig ar bnawn Gwener - heblaw, yng ngwres yr haf - gyda chystadleuaeth ymladd teirw.

Yn eistedd led mainc oddi wrthyf yng nghanol Caerdydd bnawn Sadwrn yr oedd dau yn amlwg i lawr o Abertawe ar gyfer y gêm rygbi.

Wrth drwsio setts ar stryd yn Glasgow ryw bnawn, digwyddodd weld bachgen a merch ifanc yn dod i lawr y stryd ac er mawr syndod iddo eu hadnabod fel dau o Benmaenmawr.

Diolch iddyn nhw, nid yn unig am bnawn diddorol ac addysgiadol ond hefyd am bnawn o'u hatgofion difyr hwythau.

Mae Nedw yn cael gwneud cymaint o bethau y carai pob llefnyn o hogyn deg neu ddeuddeg oed eu gwneud, o chwarae triwant yn y tyno ar bnawn o haf hyd at golli ei ben a'i galon i Jinny Williams am ddau o'r gloch y bore wrth yr Hen Ffynnon.

Mi gefais i brofiad - byr diolch byth - o Uffern bnawn Sadwrn diwethaf.

Ond bnawn Llun mi ddywedodd Adran Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Môn nad oedd neb wedi dweud wrthyn nhw am y digwyddiad.

Doedd hi ddim yn hawdd dewis bnawn Sadwrn.