Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

boblogaidd

boblogaidd

Yn y Gaiman yr oedd yr ymarfer hwnnw a elwir yn u turn neu dro pedol gennym ni yn un hynod boblogaidd - ac annisgwyl - gyda gyrwyr eraill yn dibynnu mwy ar delepathi na goleuadau fflachio i wybod beth mae gyrrwr o'i flaen yn mynd i'w wneud nesaf.

Dros y blynyddoedd defnyddiwyd y term archaeoleg môr gyda llu o ystyron iddo ac y mae'r modd y defnyddia'r wasg boblogaidd y term yn adlewyrchu amlochredd y pwnc.

Llwyddodd Eddie Butler a Jonathan Davies i osod eu stamp unigryw ar Gwpan Rygbir Byd gyda'r rhaglen boblogaidd Scrum V, a rhoddwyd her ychwanegol i'r tîm chwaraeon wrth i'r BBC sicrhaur hawl i ddarlledu Cwpan Rygbi Ewrop pan ddychwelodd gemau byw i deledu BBC Cymru ar nos Wener.

Buont yn boblogaidd ar y Cyfandir ymhell cyn hyn, yn Zurich yn amser Zwingli ac yn Strasbourg ar ôl hynny.

Nid oedd yn boblogaidd iawn yn y pentref ar y dechrau oherwydd ei natur di-flewyn-ar-dafod ond cafodd ei derbyn yn well ar ôl iddi ddweud wrth yr heddlu fod Mark yn gwerthu cyffuriau i blant ysgol.

Mewn mannau eraill, roedd yr hen ffefrynnau, String of Pearls, Play It Again Frank, All The Best Tunes a Late Show, Steve Dewitt yn chwarae cerddoriaeth boblogaidd ar draws y sbectrwm.

Roedd drama, yn arbennig Belonging ar BBC One Wales, yn hynod o boblogaidd gydan cynulleidfa ac fei gwobrwywyd gyda ffigurau gwylio sylweddol.

Yn amlwg mae gan yr opera sebon boblogaidd Pobol y Cwm fformwla lwyddiannus wrth iddi ddathlu 25 mlynedd.

Er bod peth gwrthwynebiad iddynt ar y dechrau ymhlith yr Hen Ymneilltuwyr, buan y gorchfygwyd y rhagfarnau a daeth yr ysgol Sul yn rhyfeddol o boblogaidd ymhob rhan o Gymru.

Er mor boblogaidd oedd y cyfuniad o lun a sain yn y sinemâu, 'roedd y wasg yn gyfrwng pwerus o hyd.

Perthynai'r ddwy, yn eu ffyrdd gwahanol, i fudiad llenyddol pur boblogaidd yn Ffrainc tua dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg: mudiad a welai ar y naill law ymgais i gysylltu'r chwedl Arthuraidd (cyfraniad mwyaf Cymru i ddychymyg Ewrop, o bosibl) â chyfnod y Testament Newydd a sefydlu'r Greal Sanctaidd yn un o brif themâu llên Ffrainc, a mudiad a oedd yn dyst ar y llaw arall i symud pendant oddi wrth yr hen arfer Ffrengig o gyfansoddi naratif ar fesur ac odl i lunio stori%au rhyddiaith.

Mewn cyfnod pan oedd cryn elfen o ofergoeledd yn perthyn i feddyginiaeth yr oedd ffynhonnau iachaol yn hynod o boblogaidd.

Cyfieithiadau i'r Saesneg o lyfrau yn y gyfres boblogaidd, Llyfrau Llawen.

Yn naturiol gallai'r cardiau lithro ar fwrdd o'r fath neu gael eu hadlewyrchu ynddo, dyna pam mae defnydd gwyrdd ar fwrdd cardiau mor boblogaidd.

Ymgynghorydd y gyfres fydd Jocelyn Stephens a fu'n gyfrifol am y gyfres boblogaidd i blant - Sesame Street.

"Oedd y jocs yn mynd lawr yn dda iawn, o'n i'n 'neud storis am y teulu, pethe bob dydd, a bywyd, ac o'n nhw'n boblogaidd iawn...

a chamarweiniol yw'r dyb boblogaidd mai clasurol yw traddodiad llenyddol Cymru.

Trosglwyddwyd cyfres hynod boblogaidd S4C i bobl ifanc, Pam Fi Duw? yn llwyddiannus iawn i'r radio.

Heddiw ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Môn, lansiwyd CD-Rom newydd o Sam Tân, y gyfres animeiddiedig boblogaidd i blant.

Roedd drama, yn arbennig Belonging ar BBC One Wales, yn hynod o boblogaidd gyda'n cynulleidfa ac fe'i gwobrwywyd gyda ffigurau gwylio sylweddol.

Gwir fod y teitl 'academi' wedi marw yn ystod y ganrif a bod y gair 'coleg' yn taro'n fwy parchus ar glust gwŷr oes Victoria - er, chwarae teg iddynt, parhaodd y gair 'athrofa' yn bur boblogaidd trwy ail hanner y ganrif.

Er fod techneg ffilm wedi datblygu'n frawychus yn ystod y ddegawd olaf, ochr yn ochr â theledu, ac er fod gwaith Spielberg, er enghraifft, yn gwneud defnydd rhyfeddol o effeithiau gweledol, eto y mae'r ffilm 'lenyddol', ffilm sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar rinweddau'r nofel - cymeriadaeth, ethos lle ac amser ac yn y blaen - yn parhau'n boblogaidd ac yn gwbl dderbyniol ar unrhyw lefel.

Yn groes i'r gred boblogaidd, mae'r defnydd a wneir o ysgolion cynradd gan y gymuned wledig yn isel iawn.

“Bu Hoff Gerddi Cymru yn syfrdanol o boblogaidd ac y mae'n fwriad gennym gyhoeddi sawl casgliad o gerddi gwahanol er mwyn cael cyfres o lyfrau barddoniaeth y bydd pawb yn mwynhau eu darllen.

Mae Yma o Hyd Angharad Tomos yn hawdd ei darllen a'i deall, ond nid yw'n debyg o fod yn boblogaidd am nad yw'n porthi dychymyg y gynulleidfa gyda'r stereodeipiau ystrydebol.

Gyda chwmni Granada yn talu amdani, y gobaith yw y bydd hi yr un mor boblogaidd â ffilmiau 'cyfnod' diweddar eraill Hopkins, Remains of The Day a Shadowlands.

Llwyddodd Eddie Butler a Jonathan Davies i osod eu stamp unigryw ar Gwpan Rygbi'r Byd gyda'r rhaglen boblogaidd Scrum V, a rhoddwyd her ychwanegol i'r tîm chwaraeon wrth i'r BBC sicrhau'r hawl i ddarlledu Cwpan Rygbi Ewrop pan ddychwelodd gemau byw i deledu BBC Cymru ar nos Wener.

Ond mae'n amlwg bod y stori'n parhau i fod yn boblogaidd ac ambell dro fe gaed fersiynau arbennig o wrth-Seisnig.

Perfformiwyd rhai ou caneuon newydd megis Graffiti Cymraeg, Llenwi Fy Llygaid a Gweld y Llun - does dim dwywaith y bydd y caneuon yma yr un mor boblogaidd â Cae Yn Nefyn, Chwarae Dy Gêm, Dawns y Glaw ar clasuron eraill.

Diolch i Cwl Cymru mae bellach yn boblogaidd bod yn Gymro neu Gymraes, ac adlewyrchwyd y diwylliant ieuenctid Cymraeg yng nghynyrchiadau BBC Radio Cymru, yn arbennig y pwyslais ar slotiau cerddoriaeth gyfoes llawn bywyd a rhaglenni bywiog i ieuenctid.

Dyma gasgliad arall o farddoniaeth yn y gyfres boblogaidd o Lyfrau Lloerig gan Gwasg Carreg Gwalch.

Roedd cynnal chwaraeon yn boblogaidd iawn ar fore Nadolig, yn arbennig rhyw fath o gêm pêl droed, taflu codwm ac yn y blaen.

Ac er bod sefydliadau cyhoeddus ac addysgol yn tueddu i'w hanwybyddu, erys yn hynod boblogaidd.

Wedi cyrraedd y ddinas, rydw i a'r criw ffilmio yn penderfynu ymweld â'r ty bwyta Milano, sy'n cynnig dewis da o fwyd ac sy'n boblogaidd gyda gweithwyr cymorth.

Ond wedi cyfnod o arbrofi dwys - "blwyddyn a hanner, a ninnau heb wybod i ba gyfeiriad yr oedden ni'n mynd" - ar ddamwain y trôdd at gerddoriaeth boblogaidd.

ac yn ddiweddarach y rhydfrithylliaid fel y galwaf y brook trout nad yw'n drowt o gwbl - yn hytrach torgoch o'r Mericia ydyw - Salvelinus fontinalis - ac fel brithyll yr enfys yn boblogaidd gan y pysgotwyr...

Nodwedd boblogaidd o'r gyfres hon fu'r sesiwn holi ac ateb wedi'r cyngerdd sy'n cynnwys y gynulleidfa, Cyfarwyddwr Cerdd y gerddorfa, Mark Wigglesworth, y Prif Arweinydd a chwaraewyr allweddol.

Daliai darlithoedd cyhoeddus yn boblogaidd a cheid cynulleidfaoedd mawrion i wrando ar bobl fel Bob Owen, Croesor, Llwyd o'r Bryn a Chynan yn mynd drwy eu pethau.

mae'r rhaglen gylchgrawn The wRap (ar yr awyr ddwywaith yr wythnos ar ddydd Mawrth a dydd Iau) wedi cyflwyno pynciau ychwanegol yn ogystal â chyflwyno ei detholiad arferol o ffyrdd o fyw, chwaraeon, newyddion, adloniant a diwylliant tra profodd After Midnight, sioe jukebox fideo fywiog wedii chyflwyno gan Lisa Matthews, yn boblogaidd iawn.

Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol yr oedd yr hanes wedi treiddio i eicongraffeg boblogaidd, ac i'w weld hyd yn oed yn y cerfiau dan y seddau yn yr eglwysi (e.e yn eglwys gadeiriol Caer).

Mae cannoedd o garolau plygain sy'n dyddio'n ôl i'r ail ganrif ar bymtheg, y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dal yn boblogaidd heddiw.

Gan fod y tafarndai a chlybiau yn fannau cyfarfod mor boblogaidd i ieuenctid y fro mae'n hanfodol bwysig i ni geisio cyflwyno'r Gymraeg mewn modd mor ddeniadol â phosibl i'r cylchoedd hyn.

Fel ardaloedd eraill Cymru bu'r faled yn arbennig o boblogaidd yn nyffryn Aman drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Fe aeth yntau oddi wrth ei wobr at ei waith, a chynhyrchu dwy nofel boblogaidd arall - Pan Ddaw'r Machlud ac Oed Rhyw Addewid, a gobeithio nad yw ei yrfa fel nofelydd ond megis dechrau.

Ni all y CDs hyn ond atgoffa rhywun o'r senglau feinyl 7 modfedd a oedd mor boblogaidd flynyddoedd yn ôl ond sydd erbyn hyn yn gymharol brin.

Yr oedd cyfarwyddiadau Emli'n burion: tro ar y chwith wedi mynd heibio'r eglwys, yna, ymhen tua dwy filltir, dyma'r Tarw Du i'r golwg, lle pur boblogaidd a barnu wrth nifer y ceir a oedd yn ei fuarth.

Recordiau CD yn dechrau dod yn boblogaidd.

Un o'r santesau estron a oedd yn boblogaidd yng Nghymru oedd Margred o Antioch.

Pan gyflwynodd y Rhufeiniaid y llysieuyn i Brydain, buan iawn daeth yn boblogaidd i wneud gwin.

Awdl delynegol, bert oedd yr awdl fuddugol, a bu'n awdl boblogaidd iawn am flynyddoedd lawer, yn enwedig un darn cywydd adnabyddus.

Bu Llanwrtyd a'i ffynhonnau yn gyrchfan boblogaidd gan lowyr a gweithwyr alcan dyffryn Aman yn ystod y cyfnod hwn, ac yma y treuliai Gwilym Meudwy yntau fisoedd yr haf, gan ddychwelyd i Frynaman, Llanelli, neu Abertawe bob gaeaf.

Dros y canrifoedd y ffurf Brecknock a arferwyd amlaf a dim ond yn lled ddiweddar y daeth y ffurf Brecon yn boblogaidd.

Stori newydd sbon yn y gyfres boblogaidd i blant bach.

Roedd Parti Ponty yr ail yn hynod o boblogaidd, gyda pherfformiadau gan Big Leaves a Celt yn ychwanegu at yr awyrgylch bywiog.

Mae ffilmiau epig a hanesyddol yn boblogaidd nwan ac mae llwyddiant Hedd Wyn wedi rhoi Cymru ar y map fel lle sydd â golygfeydd gwledig dramatig ac wedi profi bod gynnon ni adnoddau ac arbenigrwydd i'w cynnig." Mae gan Gyngor Gwynedd staff arbennig sy'n canolbwyntio ar geisio profi bod heip Sgrîn Cymru yn wir.

Gwraig ddifrifol oedd Anti, ni chofiaf amdani'n chwerthin, a phrin yn gwneu, ac ni chredaf ei bod yn boblogaidd ymhlith y bobl ifanc.

I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.

Daeth alcemeg yn boblogaidd iawn wrth i bobl arbrofi gyda'r syniadau yn llyfr Robert.

Er gwaethaf y tywydd poeth mae rygbi yn dal yn boblogaidd yma gyda Julian yn un o drefnwyr gornest ryngwladol i fechgyn ysgol dan 19 bob Pasg.

Er nad ydw i'n arbenigwraig ar anghenion dysgwyr dwi'n siwr y bydd y fersiwn arbennig hon yn boblogaidd gyda rhieni sydd a'u plant yn dysgu Cymraeg gan ei fod wedi ei anelu atyn nhw yn benodol.

'Y Lloer' oedd testun yr awdl fuddugol, awdl boblogaidd iawn ar un adeg.

Er mor boblogaidd y digwyddiad gyda gwylwyr gartref mae trefnwyr golff yr Alban wedi addo mai ar eu gwaetha nhw y digwydd yr un peth yr wythnos hon yn y Royal and Ancient yn St Andrews lle chwaraeir yr Open eleni.

Mae ein papur newydd dyddiol Cymraeg arlein, BBC Cymru'r Byd, yn eithriadol o boblogaidd ac yn adlewyrchu ymrwymiad BBC Cymru i ddatblygu technoleg newydd mewn ffyrdd llawn dychymyg.

Mae pethau felly'n boblogaidd y dyddia yma, ac yn talu.

Bowlio Mae bowlio yn boblogaidd dros ben ym Mhencoed.

Mae llyfrau ar arweiniad bob amser yn boblogaidd, ac ar adegau gall Cristion fynd i'r fath glymau ynglŷn a beth yw cynllun Duw ar gyfer ei fywyd, nes ei fod wedi ei barlysu gan ofn.

Ym maes drama, sefydlwyd Station Road fel opera sebon ddyddiol BBC Radio Wales, a phrofodd Belonging, cyfres chwe rhan ar gyfer cynulleidfa deledu BBC Cymru, yn boblogaidd.

Daeth safle Scrum V, a sefydlwyd yn ystod Cwpan Rygbir Byd 1999, yn gyfleuster hynod o boblogaidd i ddilynwyr rygbi o bell ac agos, gan helpu i gadarnhau safle BBC Cymru fel cartref rygbi Cymru.

Lledodd tros Gymru a dod yn hynod boblogaidd.

Yn y wasg ac ar y cyfryngau maen cael ei disgrifio fel cyfres y tu hwnt o boblogaidd.

Mae ein papur newydd dyddiol Cymraeg arlein, BBC Cymrur Byd, yn eithriadol o boblogaidd ac yn adlewyrchu ymrwymiad BBC Cymru i ddatblygu technoleg newydd mewn ffyrdd llawn dychymyg.

Daeth safle Scrum V, a sefydlwyd yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd 1999, yn gyfleuster hynod o boblogaidd i ddilynwyr rygbi o bell ac agos, gan helpu i gadarnhau safle BBC Cymru fel cartref rygbi Cymru.

Yn yr hen ddyddiau, roedd e yn boblogaidd...

Gwta awr a hanner y tu draw i frys soffistigedig Dubai mae Fujairah yn ardal boblogaidd gydag ymwelwyr o Ddubai ei hun ac - yn fwy aml y dyddiau yma - o dramor hefyd.

Roedd sawl cyfres newydd yn boblogaidd iawn gyda chynulleidfaoedd Cymru.

Ond chwerw neu beidio mae ysgall y meirch wedi bod yn boblogaidd er dyddiau cynnar yr Arabiaid a'r Rhufeiniaid.

Dyna bosteri hysbysebu'r Bwrdd Glo wedyn, oedd yn boblogaidd iawn ar ddechrau'r wythdegau cyn iddyn nhw gau'r pyllau glo i gyd - "Come Home to a Real Fire% rhywun wedi ychwanegu "Buy a cottage in Wales".