Syrthiodd ei dors allan o'i boced ac wrth iddo ymbalfalu o'i gwmpas amdani gafaelodd ei ddwylo yn rhywbeth a oedd yn debyg i brennau.
Fel pe na byddai hynny yn ddigon i wneud i rywun roi ei ddwylo yn ei boced i wneud yn siwr fod popeth yn dal yn ei le, wele luniau graffig o ffariar yn ymosod â chyllell ar geilliau ci er mwyn tawelur anifail.
Yn ei ddicter a'i wylltineb, tynnodd y crwydryn gyllell o'i boced i drywanu Idris ond torrodd honno'n ddarnau pan darodd yn erbyn y wisg ddur a oedd o dan ddillad Idris.
Estynnodd lyfryn o'i boced a darllen ohono: 'Lleidr yw Vatilan a phlismon o'r enw PC Llong wyf innau.'
Rhoes ef yn ofalus yn ei boced cyn cychwyn i'w waith, gan addo iddo'i hun y pleser - efallai!
Fel y saif y Gyfraith ar hyn o bryd, nid oes reidrwydd ar yrrwr i gario'i frwydded yrru yn ei boced.
Tynnodd Alun ei gyllell o'i boced a thorri'r lein.
Tynnodd fol afal a phwt o gortyn o boced ei drwsus a'u cyflwyno fel tystiolaeth.
"Ydi," ebe'i ffrind, "Torrodd y llythrennau "DB" hefo'i gyllell boced ar un o lysiau gorau'r prifathro yn ei dŷ gwydr.
Wrth i'r ddau gerdded teimlodd Bleddyn yn ei boced am ei drwydded,.
Cododd yntau'i lyfr o'i boced a chrychu'i dalcen wrth chwilio a chwalu drwyddo fo.
Sylweddolodd Denzil mewn pryd fod Dic yn ei dwyllo a diflannodd Dic gydag arian til y siop yn ei boced.
Dechreuodd ei galon gyflymu eto wrth iddo deimlo'r cardiau arwyr pêl-droed yn ei boced.
Yn y bore daeth Siôn Corn yr ysbyty heibio i bawb, ac i'r rhai a gollodd eu baban yr oedd ganddo hances boced, ychydig o siocled a gair o gydymdeimlad a chysur.
Roedd Twm yn fodlon gwneud unrhywbeth am ychydig arian cwrw yn ei boced:
Roedd tripiau'r Rhyl yn bethau arbennig iawn, dyddiau hapus i'w cofio er bod y boced yn weddol dlawd ond roedd hwyl i'w gael gyda bwced a rhaw a the am ddim yn nhŷ bwyta'r 'Summers'.
Heb edrych ar ei wyneb e, fe dynnes fy nghylleth boced allan, roedd wastad awch fel raser ar honno gen i, a chydag un ergyd mi dorres y rhaff.
Tynnodd y Doctor ei bapurau swyddogol o'i boced a'u dangos.
'A finna hefyd' meddai Rondol gan dynnu leinin ei boced allan.
Tynnodd y pibydd ei bib o'i boced a dechrau ei chanu eto.
'Roedd ganddi hances boced fawr, ac os oedd un o'r merched yn chwerthin yn y capel, byddai'n ei tharo'n galed efo'r hances.
Gwelai ei gŵr yn taflu ei hances boced fudr o'i boced ac yn cymryd un lân o'r drôr, a'i esgidiau yn twymo ar y ffender, yn ddu am heddiw ar fore Llun, wedi eu hiro â saim, a hwnnw heb sychu yn nhyllau'r careiau, ac yn chwysu yng ngwres y tân.
Brysiodd yn ffrwcslyd tua'r sêt fawr, agor y llyfr emynau, ledio pennill a dweud wrth y gynulleidfa, 'Gellwch chi canu hwn ar eich tina.' Ar ganol ei bregeth un pnawn trymaidd, tynnodd o boced ei wasgod ffiol fechan o wydr.
Daeth Mary Jane Williams, un o Gaergybi ond yn lletya dros dro yn y Ffatri, Llanfachraeth, yno i geisio rhoi rhywfaint o drefn ar bethau, ond cyndyn iawn oedd yr hen Siôn Elias o roi ei law yn ei boced i dalu iddi er ei bod hi'n ôl pob sôn yn fwy na morwyn, a'r un mor gymwynasgar tuag at y tad a'r mab.
Ydi'r postciard yna yn dy boced ti'n barod?" "Ydi." Eisteddai William erbyn hyn ar y gadair freichiau a'i droed ar y ffender yn cau ei esgid, a rhôi ei ben i lawr cyn ised ag y medrai rhag i neb weld ei fod bron â chrio.
Gwawriodd y gwir ar Willie; tyrchodd i boced ei drowsus a dod o hyd i chwechyn a'i daro ar gledr ei law.
Mae'n rhy boeth yma i ddyn â gwaed yn ei wythiennau." Sefais a thynnais fy ngh^ot oddiamdanaf a thynnais fy hances boced allan a sychais fy wyneb a'm gwddf a chefn fy ngarddyrnau.
Rhif oed yr addewid, meddyliodd Willie'n hyderus, addewid o bethau gwych i ddyfod, nid nefoedd niwlog o fyd arall, ond yma o'i gwmpas ac yntau gyda digon o bres yn ei boced i dalu amdano.
'Gwthiodd Iestyn ei ddwylo yn ddwfn i boced ei gôt ac aeth ias fach o gryndod trwyddo.
Gallai ei dychmygu'n awr, yn gorwedd yn ddu ar ochr y mynydd yn y fan acw, a niwl fel cap llwyd am ei phen, fel rhyw hen wrach yn gwneud hwyl am ei ben, ac yntau;'n ymbalfalu tuag ati ar foreau tywyll fel hyn, a dim gwaith i ddechrau arno yn oerni'r bore; dim ond mynd o gwmpas a'i ddwylo yn ei boced i fegera.
Credid fod y pren yn amddiffyn y tir y mae arno neu'r cartref y bydd yn tyfu gerllaw iddo neu'r person fydd yn cario darn ohono yn ei boced.
Tynnodd gerdyn o boced ei siaced siarcol a'i roi i mi.
Estynnodd grib o'i boced a cheisio rhoi trefn ar ei wallt.
Rhoddodd ugain punt yn ei boced a'r gweddill yn y bag.
Dyma Jini yn mynd yn ddwfn i boced ei sgert ac yn tynnu allan lyfr bach, bach - y llyfr lleiaf a welais i erioed.