Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bocs

bocs

Gan mai dydd Gwener oedd hi roedd yn rhaid iddo roi stop ar bopeth am wyth o'r gloch (hynny yw peidio â syllu'n wag ar y bocs tra sticiai ei ddychymyg binnau i ddelw gŵyr o Bethan) a mynd ar draws y comin i nôl Catrin o'i dosbarth bale.

Cadwai nhw mewn bocs pren gyda'i drysorau eraill: darlun brown a melyn o'i gariad cyntaf, y llythyrau a anfonodd ati a'i hances lês.

Cadwai'r bocs o'i flaen ar y bwrdd nes gorffen yr uwd.

Ni ddylech gael bocs o siocledi bob tro y byddwch yn colli rhywfaint o bwysau, neu fe fyddwch yn ol yn y dechrau unwaith eto!

democrataidd.' Cafodd hyd i lwy a lympiau o siwgr mewn bocs, ac estynnodd goffi iddo.

Ar ôl diolch am allu i'w fwyta, clywaf ef yn dweud, "Er i mi dreulio bron i hanner can mlynedd ar y môr fy hoff sŵn yw si awel ysgafn dros barc o geirch aeddfed." Credaf fod gwên radlon yr "hen Grynwr" ar y bocs ceirch yn ysbrydiaeth iddo hefyd.

Camodd Mr Williams yntau o'r cerbyd ac estyn bocs o'r cefn a'i gario at y tŷ.

Ar y dydd Mercher, ni allai'r tad ddod o hyd i allwedd y bocs lle y cadwai ei lyfr banc.

Edrychodd Gwen ar gynnwys y bocs.

'Ga'i weld un waith 'to - jest un waith - be sy yn y bocs at heno, mam?

Wel rwan yntê, dyma'r malwr yn mynd i ben draw'r bonc ac yn nôl wagen, peth rhywbeth yn debyg i focs sgwâr heb gaead arno ac un pen wedi ei dorri i ffwrdd, a'r bocs hwn wedi ei osod ar bedwar olwyn, ac yn dal rhywbeth o ddwy dunnell i ddwy dunnell a hanner o bwysau.

Roedd y dillad a'r cyfarpar ganddo eisioes, mewn bocs mawr yn yr atic.

Mi fedra' i 'i rhwygo hi cystal â neb yn y fan yma ond nid ar y bocs chwarae teg .

Daethant yn foddion i boblogeiddio mater a fuasai cyn hynny'n beth digon esoterig, a defniddiodd Gruffydd hwy fel bocs sebon, gan fynnu hawl draddodiadol yr areithiwr bocs sebon i osod gwrthrychedd o'r neilltu.

O holl amrywiaeth taclau'r gwareiddiad newydd, o raselydd i beiriannau golchi, mae'n debyg mai'r teledu ddaeth a'r chwyldro i'w anterth wrthi ganolbwynt yr aelwyd symud o'r lle tan, gyda'r gadair freichiau a'r setl a'r soffa yn gylch o'i gwmpas a phawb yn ei wynebu, i'r bocs yn y gornel, a phawb yn eistedd yn rhes a'u hochrau at y tan a'u hwynebau at y sgrin.

Roedd popeth o bwys iddo yn y bocs bach hwn.

Ymhen amser clywsom leisiau Mr a Mrs Edmunds, yna daeth mama i'n hystafell i nol rhywbeth o'r bocs mawr.

Ond clywed yr hanes am osod ei was bach mewn bocs te a chlymu'r bocs wrth sedd yr injan lladd gwair wnes i.

Rhoddodd yr arian yn ôl yn y bocs beicarb a'i guddio'n ofalus rhwng plygiadau ei dillad isaf.

BOCS: Cyn ei benodi yn ddarlithydd ym Mangor bu Gwyn Chambers yn gweithio am saith mlynedd gyda Gwasanaeth Gwyddonol y Llynges o ganol y pedwardegau hyd ddechrau'r pumdegau.

Ac yn y fan fawr roedd pump cadair, pump gwely, pump beic, a phump cwpan mewn bocs.

Ar y tudalen flaen mae'r bocs dialog yn lliw porffor - nid gwyn fel rydym yn disgwyl; a'r eicon 'chwilio' ddim yn hollol amlwg chwaith.

Agorodd y bocs bron yn ddefodol, ac arllwys y ddau ddarn arian i mewn i'w dwrn chwith.

Symudodd yn araf tuag at y cwpwrdd lle roedd y bocs pren.

Maen nhw hefyd yn cynnig gwell noson, bob un ohonyn nhw, nag eistedd o flaen y bocs, a dyna, yn y pen draw, sy'n bwysig.

Fyddai neb wedi dychmygu'r gallu a'r grym a'r perygl oedd y tu ol i'r sgrin a'r tu mewn i'r bocs pren caboledig, melfedaidd.

'Dwy ddim wedi gweld y bocs bach crwn ers blynyddoedd.

Wfft i drenau drafftlyd ar noson fel heno.' Roedd y dynion wrthi'n sgwrsio, yn yfed te a glanhau'r ager o ffenestri eu bocs arwyddo pan glywsant s n cloch.

Dilynodd Mair hi i mewn i'r adeilad ac at y ddesg lle'r oedd gwraig ganol oed yn prysur roi trefn ar gardiau mewn bocs.

Mae'r ateb gen i." "Beth ydi hwnnw felly?" "Mewn bocs yn y fan yna mae math arbennig o anifail.

Bocs chwaethus, ac enw'r gwneuthurwr yn gynnil mewn print aur, artistig ar gornel isa'r caead.

Clymwyd y bocs wrth sedd yr injan a neidiodd Wil i mewn wedi ei sicrhau gan ei feistr y byddai'n cael ei gludo'n ddiogel y tu ol i'r injan.

Yr oedd popeth yn y bocs.

Torrwyd y gwifrau'n ofalus ac agorwyd clawr y bocs.

Trefen berffeth, yn y tŷ - ac yn y bocs, gobeithio!' 'Taw son am drefen dy dŷ wrtha'i - mae Alun o hyd yn dannod hwnnw i fi!' 'Alun yn dannod fy nhŷ i ti!

'Un neu ddau o bethe i chi oddi wrth Meri 'co,' meddai a gwthio heibio i Marian Dafis a chario'r bocs i mewn i'r gegin a'i osod ar y bwrdd.

Bocs crys oedd e, y crys diweddaraf a brynodd i'w gŵr.

Yn y Bocs Sebon y mis hwn mae Gill Rees yn mynd â ni i fyd y gyfraith ac yn trafod un o'n hawliau sylfaenol.

Gadewis i'r car fynd yn ei flaen ohono'i hun, a gafael yn y bocs diod cyn iddi wneud smonach o hwnnw.

A heno, gwahanol iawn oedd cynnwys ei bocs hithau.

Caeodd y bocs a'i ddodi yn nôl yn y cwpwrdd.

JFelly o ganol Hydref ymlaen byddaf yn rhoi'r gêr plu o'r neilltu ac yn gafael yn y wialen "drotio%, y rîl rydd (centre pin) bocs o fflôts pwrpasol, bocs o bwysau (heb blwm ynddynt cofiwch)...

Yno hefyd y sicrheais res o gofiannau prin i bregethwyr y Cyfundeb, cofnodion Sasiynau cynnar a llond bocs o bregethau rhai o'r "hoelion wyth".

Gosododd hithe'r bocs cardboard yn ofalus yn y cefn.

'Roedd hi'n dal yn dywyll, ond nid yn rhy dywyll iddi fedru gweld i nôl y bocs beicarb o'r drôr isaf yn ei llofft.

þ'i cheg yn dechrau glafoerio trodd y bocs crwn yn ofalus ar ei ochr, ac ysgydwodd y darnau arian allan i'w llaw chwith.

Bocs Teganau Smot a Tywydd Smot gan Eric Hill.

Rhwbiodd ei ddwylo dros y bocs cyn ei agor e.

Ar ben deheuol y bont fawr roedd dau dyn yn yfed te mewn bocs arwyddo.

Wedyn, gan wneud stumiau, camodd allan o'r bocs arwyddo i ddannedd y gwynt.

Un ffordd ydi ymateb i bethau a defnyddio', bocs pleidleisio yna yn ddoeth.