Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bodau

bodau

Mae'n dilyn felly eu bod nhw'n gydradd fel bodau dynol.

Diflannodd bron y cyfan o'r allanolion a'r digwyddiadau ategol arferol- diflannodd pob cymeriad arall am y rhan orau o'r hanes ond Sam ei hun a'r bodau lledrithiol y bu gyda hwynt Llwythir a gyrrir yr hanes â delwedd ar ôl delwedd, llun ar ôl llun, dyfalu ar ôl dyfalu, fel petai Tegla am gyrraedd pinaclau y profiadau mwyaf amhosibl eu dweud ac yn methu â theimlo ei fod yn ymdrechu digon.

Diau fod eithriadau, sef y bodau hynny a eilw'r Sais yn freaks of nature, ac os ydyw Prodder Rhys yn un o'r freaks hynny, y mae'n wrthrych tosturi.

O wisgo coron o frigau ysgawen noswyl Calan Mai gellir gweld bodau goruwchnaturiol.

o'r herwydd, mae gwylio bodau prin fel Ieuan yn mynd drwyu pethau yn addysg ynddi ei hun.

Y mae awgrym yn Genesis o gyfathrach rhwng merched dynion a bodau goruwchnaturiol a elwid yn ddemoniaid.

O'r cyfan o'r stori%au ysgogol, amrywiol a chyfoethog hyn, basgediad sy'n perio i ni fod yn wirioneddol falch o ansawdd ein rhyddiaith creadigol ar hyn o bryd, ei stori%au hi hwyrach sy'n cynnig y sylwadau mwyaf cynnil, praff a phriodol ar ein cyflwr fel bodau dynol yn niwethafiaeth yr Ewrob yr ydyn ni'n perthyn iddo.

Mae ymgais llenyddol felly nid yn unig yn peri i'r Groegiaid ymddangos yn fwy fel bodau dynol ac yn nes at fyd a diwylliant y darllenydd o Gymro, ond hefyd yn rhoi tras uchel ac urddasol, fel petai, i un o ffurfiau llenyddiaeth Gymraeg, trwy ddangos ei bod, os nad yn tarddu yn uniongyrchol o'r ffurf gyffelyb mewn Groeg neu Ladin, o leiaf yn ddigon tebyg iddi i haeddu parch cyfartal.

Bodau eithriadol gymdeithasol ydynt.

Buasai llawer ohonom yn y Blaid Lafur am flynyddoedd, a bodau gwleidyddol oeddem hyd flaenau'n bysedd, ac yn anad unpeth, deallem mai â grym y mae a wnelo gwleidyddiaeth, a dyna wers nad yw'r Blaid Lafur erioed wedi ei hanghofio.

Wrth gwrs, byddai'r esboniad hwn yn ateb rhai o'r posau oedd wedi peri cymaint o benbleth iddynt: pam roedd rhai pobl yn methu â'u gweld fel personau ond yn gweld effeithiau eu presenoldeb; pam roeddynt yn teimlo fel bodau ar wahân yn eu hen gynefin, yn fwy felly nag yr oedd traul y blynyddoedd yn ei esbonio; pam roedd agendor diadlam rhyngddyn nhw a'r bobl.

Arferent addoli nwyddau oherwydd credent mai duwiau oedd y bodau estron a ddisgynnai o'r awyr yn eu peiriannau rhyfel ac a ddeuai ag anrhegion gyda hwy.