Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

boddhad

boddhad

Bu'r diwrnod ar ei hyd yn un o bleser, boddhad a bendith.

Un peth ydi bod yn fwriadol ddigri a pheri i eraill chwerthin þ mae yna orchest a boddhad yn hynny.

Ac un o'r pethau sydd yn fforddio mwyaf o gysur i mi y funud hon ydyw, ddarfod i mi fy hun gario allan drefniadau claddedigaeth fy hen feistr er boddhad pawb, heb ymgynghori â neb ond Dafydd Dafis.

"Ond cofia," ychwanegodd, "mi fydd yn rhaid i ti roi cweir i un o'r hogia cyn y cei di lonydd ganddyn nhw." Er cased gen i glywed y newydd hwn ganddo, sylwn gyda boddhad ei fod wedi newid y "chi% bell i'r "ti% agosach ac anwylach.

Dyna fy nghred ac y mae'n gywir dweud mai mewn gwasanaethu'r Efengyl trwy bregethu a hyfforddi myfyrwyr y cefais y boddhad dyfnaf.

Gwerthfawrogir eu presenodeb gan blant y Gateway ac mae'r ymweliad bob amser yn rhoi boddhad a phleser i bobl ifanc Penuel.

Fodd bynnag caiff caredigion yr oesoedd canol eu swyno gan y stori hon o hyd, a hefyd boddhad o'r ysgolheictod cadarn sy'n ei chyflwyno inni yma.

Adroddwyd straeon lawer wrthyf am y mulod hynny, ac un wraig a gymerth ataf lun, ar ba un yr oedd y teithwyr oddi mewn i'r trên, a mul yn eistedd ar y llwyfan y tu allan i'r cerbyd, ac yn ôl a welwn i yr oedd y mul yn dangos cymaint boddhad â'r bobl wrth deithio.

Nid oedd peiriannau heddiw gan y ffermwyr i hwyluso'u gwaith, ond roedd cyd- ymdrech gan y teulu cyfan a'r gymdogaeth yn rhoi boddhad iddynt er gwaetha'r gwaith caled.

Mae gen ti'r boddhad o weld dy ddyfodol yn canghennu 'mlaen yn dy ddisgynyddion." "Ydi, mae hynny'n beth braf," cytunodd Gruff.

Wrth sôocirc;n am yr orchest ddiweddaraf hon i gynnyrch animeiddiedig S4C, dywedodd Cyfarwyddwr Animeiddio'r sianel, Chris Grace, oedd hefyd yn Gynhyrchydd Gweithredol ar y gyfres, "Mae'r gamp o ennill yr Emmys hyn yn rhoi boddhad dwbl, gan eu bod nhw'n cydnabod y dalent sydd yng Nghymru a swyddogaeth alluogi S4C yn dod â'r cyd-gynhyrchiad gwirioneddol ryngwladol ac arloesol hwn at ei gilydd.

Y mae i denant y boddhad moesol o wybod bod pob gwelliant a wna yn lles i rywun arall.

Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.

Dwi'n gwybod fod y cyflog yn dda iawn mewn pethau felly, ac mae'n siŵr fod rhywun yn cael boddhad o'i wneud o, ond mae'n well gen i wneud pethau amrywiol, i ddweud y gwir.'

Yno roedd o yn sâff rhag y tywydd, a gwenai mewn boddhad wrth weld cymaint o'r bobl wedi dod i wrando arno.

Teimlaf serch hynny mai bod yn anniolchgar fyddai imi beidio â sôn am y bwyd a'n nerthodd i gerdded, rhagor na Syr John Hunt yn peidio â sôn am y boddhad a dderbyniodd goresgynwyr y grib dalfrig honno drwy fwyta eu hymborth.