Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

boen

boen

Deng niwrnod i'r dydd fe deimlais anesmwythyd yn ochr dde fy nghefn, a'r noson honno fe'm dihunwyd yn sydyn gan frathiad o boen yn ochr fewnol fy morddwyd.

Gwnâi ei safn fawr agored iddo ymddangos fel un mewn dirfawr boen, ac edrychodd Dan yn dosturiol arno.

'Tuedd unrhyw un ag ysfa fel d'un di ydi mynd yn dipyn o boen i'w ffrindiau weithiau,' meddai Robin.

A phan ddirywiodd ei iechyd, roedd bron yn gymaint o boen, hyd yn oed i'r 'nhw', â brad y siopwr o Brifweinidog a werthodd ryddid Tsecoslofacia am ddarn o bapur diwerth.

Fe godais o'r gwely, gosodais botel dwr poeth ar y man priodol ac fe gymerais Aspirin i leddfu'r boen.

Ei amddiffyniad oedd iddo wneud hynny gyda'r bwriad didwyll i'w rhyddhau o boen annioddefol a hynny pan oedd hi ei hun yn dymuno marw.

Trosiad hir yw'r gerdd, ymysg pethau eraill, mae mor gyfoethog ei hawgrymiadau, o'r gynhaliaeth ysbrydol sydd i feidrolyn i wynebu ei feidroldeb yn ei aml boen a'i siom a'i anobaith.

Cynorthwywyd ef i ddod allan o'r ffos gan Ernest a'r bonheddwr ieuanc, ac wedi iddo ddod ato'i hun cafodd fod ei geffyl gwerthfawr wedi torri ei goes, ac ebe Ernest: `Wel, wel, mae'r cwbl drosodd efo fo; gadewch i ni ei roi allan o'i boen,' a chan dynnu ei gyllell allan, torrodd y brif wythi%en yn ei wddf, a gwaedodd yr anifail yn fuan i farwolaeth.

Tra byddai'r hoelen yn y goeden ni fyddai'r ddannodd yn dychwelyd gan fod y boen wedi ei drosglwyddo i'r pren.

Y bore canlynol cafodd Dulles boen sydyn yn ei fol; cafodd operasiwn a darganfuwyd canser yn y coluddyn mawr.

Yn y paragraff cyntaf y maer pwyslais ar gyflwr amddifad y tad, ac ymddengys ei alar yn ddiderfyn ('i boen mwy ...

Chwerw Boen y Byd

Deuthum o dan fy maich dirgel o boen yn ara' deg dros foroedd anwadal i Dde'r Iwerydd, mewn bad anferth a oedd yn ysbyty gloyw, nes cyr'aeddyd cyrrau moel a gerwin yr ynysoedd amddifad .

Saethodd cyllell o boen drwy 'nghefn, ac mi wyddwn yr eiliad honno na fydde'n bosib i mi gario 'mlân.

Ar ddiwedd wythnos o boen meddwl y mae'r bachgen yn sylweddoli na fydd ef fyth yn fynach nac yn offeiriad.

Aeth eu helynt yn destun sylw gwlad, a'r papurau newydd a'r radio a'r teledu yn boen beunyddiol iddynt.

Ar boen dy fywyd, paid â chyffwrdd yn y deisan gwsberis.' 'O?

Gwyddai'r bugail yn dda am y boen o weld praidd newynog yn chwilio am borthiant a heb ei gael; gwyddai hefyd na chaent eu porthi oni ellid darparu ar eu cyfer yr Ysgrythur yn eu hiaith eu hun.

tipyn o boen yn fy stumog y dyddia dwytha' 'ma.' 'Stumog ne' beidio .

a stori arall am boen mawr ei enaid o argyhoeddi'n tydi?

Roedd y gwynt yn llenwi ei ffrag hi ac oni bai am y boen yn ei glustiau tybiai y gallasai fod yn hapus yno.

Nid ambell i donc a thinc gwladaidd a glywyd yn codi oddi wrth Alp Funtauna, fodd bynnag, ond corganu cyfoes cannoedd o heffrod a lloeau heb boen yn y byd am orbori a gorgynhyrchu.

O gofio hyn oll, y mae'n eironig o ddealladwy mai'r unig emyn o'i eiddo sydd wedi byw hyd heddiw yw 'Er maint yw chwerw boen y byd .

Braidd symud 'y nghoese fedrwn i 'neud, ac yn yr eiliade poenus hynny, fflachiodd y cof am ddamwain 'Nhad yn ôl i mi, a'r boen a ddioddefodd e am gyfnod mor hir.

Prin iawn oedd profiad Schneider a'i gyfoedion o'r ofnau a'r boen a oedd wedi dilyn yr Ail Ryfel Byd.

"Ond 'does yr un ohonyn nhw wedi rhoi'r fath boen i mi â Sioned, cofiwch." "Sut mae hi a'i gŵr, a'r hogyn bach?"

Toc, clywn siffrwd traed yn tuthian ar draws y leino o'r tu ôl, ac yn sydyn dyma drywaniad yn serio drwy fy meingefn, ac ar yr un eiliad yn union y meddyg yn bloeddio 'Sori!' Rwy'n barnu mai honno oedd y boen corff fwyaf dirdynnol a brofais erioed.

Yr oedd chwant cnoi yn ei ddannedd; y poer tan daflod ei enau yn wyn a phluog fel poer y gwcw; ei ben yn boen a'i gorff yn llesg ac yn llaith ac yn darfod o fodfedd i fodfedd.

Gwariodd ugeiniau o bunnoedd ar feddygon, ond bu flynyddoedd heb dderbyn nemawr wellhad; ac ni wellhaodd byth yn hollol, er ei fod ers llawer o amser yn gwbl ddi-boen.

Roedd y pwl o boen drosodd, casglodd Okey gyda rhyddhad.

'Diawch, Dan, mae hon yn werth diodda tipyn chwanag o boen er 'i mwyn hi.'

Ond yr oedd methiant pobl i ddeall rhai o'i gerddi yn syndod ac yn boen iddo.

Aeth ei fraich yn ddiffrwyth gyda'r boen.

rhegodd yn uchel wrth i lafn o boen saethu drwy'i ysgwydd.

Gwingodd, heb fedru deall sut y gallai rhywun hollol ddieithr achosi cymaint o boen iddi.

Ond gwrthodiad pendant a gafodd a pharhaodd Bowser i dramwy heibio'r fferm yn ffroenuchel gan anwybyddu'r boen a'r gofid a fodolai yno.

Fe wnaethon ni ddioddef, ond roedd yr artaith yn werth y boen.

Fyth oddi ar hynny bu ei ddiflaniad yn boen meddwl i'w deulu ac yn ddirgelwch i'w gyd-filwyr a'i lu cyfeillion.

Nid oedd ar boen bywyd i'w godi a'i ddwyn i'r ty rhag ofn i fellt ei daro.

Fe gefais ambell waith dynnu Talfan allan o'i gragen, a'i berswadio i rannu ei boen.

Gwingais gan boen ei sathriad a cheisio'i wthio ymaith oddi wrthyf.

Daeth dagrau o boen i'w llygaid wrth iddi sythu a rhwbio'i phen.

Rhoddodd Duw ddiod felys iddi er mwyn gwella'r boen a achoswyd gan ei chariad a pharodd i Faelon droi yn dalpyn o iâ.

Yn sydyn dyma ben ar y niwl a'r boen.

Wedyn dyna Kevin Jones, bachgen pymtheng mlwydd oed o Surrey, a gafodd ei anafu mewn damwain trên ond a anwybyddodd ei boen ei hun er mwy helpu a chysuro eraill.

Gyda llaw, wyt ti'n hoffi bwyd ysbyty?' Ac yna, yn ddisymwth, roedd y cyfarfod ar ben a Dei wedi cael mis o amser i gyflawni'r tasgau, ac wedi cael ei siarsio ar boen ei fywyd i gadw'r cyfan a welodd ac a glywodd yn gyfrinach.

Rhai blynyddoedd yn ôl fe gafodd claf yn yr ysbyty boen a thrwch o bothelli ar ochr chwith ei wddf yn ymestyn i'r fraich, a'r ymddangosiad yn nodweddiadol o'r Eryrod.

"Na, roeddwn yn llewygu gan boen o hyd," meddai'r claf.

Camp fawr y cofiant hwn yw peri i ni, ddarllenwyr, rannu peth o'r boen ac ymdeimlo â'r dirgelwch.

Nid heb boen y llwyr lanheir y llawr dyrnu.

Taflwr crwyn banana ymenyddiol oedd y dyn, ac wrth ei fodd yn cuddio i gael gweld y boen a ddeilliai o'r llithriad.

Testun tosturi yn peri tristwch hyd boen yw gweld darn o wlad yn wynebu difodiant ei hiaith a dinistr ei diwylliant a thranc ei chymdeithas a'i harferion a'i ffordd o fyw.

Ac roedd hynny'n dipyn o boen iddo gan ei fod mewn cariad â Madelen Porneg, merch y gŵr cyfoethocaf yn y plwyf.

Mae rhywun wedi ymosod arno ac ymddengys ei fod mewn cryn boen.

Ar ôl iddi fynd dechreuodd Mam feddwl am yr hen ddyddiau yn Lerpwl a'r boen o fyw drws nesaf i Modryb.

Y boen yn ormod iddo fo mae'n debyg." Safodd y pump ar y bont i wylio'r llanciau'n cael eu cario i'r ambiwlans er mwyn mynd i'r ysbyty am driniaeth.

Ond er yr holl boen, daeth Douglas yn well a dysgodd gerdded ar ddwy goes fetel.

A'r noson hon hefyd yr oedd rhyw wrthwynebu mewnol yn boen iddo.