Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

boeth

boeth

Ddydd Gwener, a hithau'n boeth, roedd y drysau a'r ffenestri ar agor ac mae'r brif fynedfa ar agor i ymwelwyr rhwng dau a chwech y prynhawn a rhwng saith ac wyth i dadau.

Roedd y tywydd yn boeth a thraethau ynys Guernsey yn llawn o bobl ar eu gwyliau.

Heb boeni dim am neb a allai fod yn gwylio, plygodd ei phen yn ôl a'i chusanu'n boeth ac yn galed, nes brifo'i gwefusau.

Yna roedd hi'n wirioneddol boeth.

"Mae'n boeth iawn yma, yn 26 ar ei uchaf ac 18 ar ei isaf gyda gwaharddiadau tân ym mhobman," meddai.

Arogl y cytiau tywyll ac anadl boeth y lloi wrth darllen am roi bys i lo bach i'w annog i yfed o bwced yn hytrach na sugno'r deth.

Yn ystod oes o ildio i'r demtasiwn frown, un peth sydd wedi fy synnu fi'n fawr ydi gymaint mae gwnethurwyr siocled yn edrych tua'r ffurfafen am ysbrydoliaeth - tydi siopa petha da yn gyforiog o Farsus, Galaxis, Milky Wals a Star Bars yn union fel pe bydda'r gwneuthurwyr â'u llygaid o hyd ar y nefoedd honno o lle daeth yr hen Quetzalcoatl i chwilio am damaid o swpar a'i hada Cacao fo mor anhoddadwy â Treets yn ei law fach boeth o.

Marw tros un bron â suddo Yn Gehenna boeth i lawr?

Er bod yr Eisteddfod i weld yn bell iawn i ffwrdd erbyn hyn a bod Dolig bron a bod yr un mor agos mi hoffwn gychwyn drwy edrych yn ôl ar yr wythnos boeth honno yn Awst a diolch i bawb fu o gymorth i'w gwneud hi yn wythnos mor lwyddiannus.

Roedd yr haul yn tywynnu'n boeth iawn ar ben Douglas erbyn hyn.

Ond ddiwedd yr wythnos hon y llynedd pan oeddwn ar wyliau yn yr Alban yr oedd yno goblyn o le wedi i hogan bedair ar bymtheg oed redeg bron yn boeth at Tiger Woods ar ddeunawfed grîn y Scottish Open a rhoi clamp o sws iddo fo a dawnsio o'i gwmpas.

Mi glywais y lleisiau a glywais yng Ngherrig Duon sawl tro wedyn mewn drama neu stori ar y radio a'r teledu, a theimlo mod i'n 'nabod cymeriadau Carreg Boeth (Hufen a Moch Bach) cystal â'r Parch.

prifathro ata' i ar y diwedd hefyd a 'nghuro i ar fy nghefn a rhoi pat ar fy mhen i ac er bod taten boeth lond ei geg fe ddywedodd wrtha' i: 'We liked you most awfully but we thought your accent might militate againstyou in this type of establishment.

'O'dd hi'n galed ac yn boeth ofnadw mâs yna.

Rhoddai'r dwblwr holl nerth ei freichiau cryfion i blygu'r blaten boeth, a chyn i ddeupen y blaten gyfarfod â'i gilydd ar lawr y felin, rhodd ai'r dwblwr holl bwysau'i glocsen ar y blaten i ddyfod â'r dybliad i fwcwl.

Os yw dechrau Awst yn boeth, bydd eira'r gaeaf yn para'n hir.

Ymhlith pynciau sgwrs pobl Llanelli yr oedd y tywydd deifiol o boeth a methiant diflas Cymdeithas Harmoni Llanelli yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin lle honnodd yr Athro Walford Davies fod y côr yn 'badly flat' wrth ganu 'How lovely is thy dwelling place' gan Brahms.

Mae'r Nadolig yma ganol haf a'r tywydd yn boeth iawn.

Gallai Rhys deimlo ei hanadl yn boeth ar ei glust a throdd ei ben tuag ati.

Mi fuo yno am flynyddoedd, y pwll tar, a phan oedd hi'n boeth, roedd yna gannoedd o swigod ar ei wynab o, ac mi fyddan ni'n eu clecian nhw hefo piga drain." "Ffendiodd rhywun pwy wnaeth?" "Naddo.

Mi fydda'n well gen i fod wedi cal mynd i wlad boeth ac aros mewn gwesty mawr.

A phan fydd hi'n haul braf, wel yr ateb adeg hynny ydi nad ydynt yn dod i r golwg ar dywydd sy'n rhy boeth.

Go brin i'r terfysgoedd fod yn ddi-drais, fodd bynnag, oherwydd ai pethau'n reit boeth yn yr arwerthiannau a gynhelid ar ol atafaelu eiddor rhai a wrthodai dalu'r degwm.

Pan wnaethom ni gyrraedd Awstralia ym mis Chwefror 1968 roedd y tywydd yn ofnadwy o boeth - dros 100F ac ymhen tri diwrnod yr oeddwn wedi llosgi'n ofnadwy.

Gallai pethau fod yn anodd iawn yn y felin fawr gydag ambell archeb drom, a phan oedd yr hin yn boeth.

Aeth y ddadl yn un boeth, eithr nid yn ofer.

Mae'n rhy boeth yma i ddyn â gwaed yn ei wythiennau." Sefais a thynnais fy ngh^ot oddiamdanaf a thynnais fy hances boced allan a sychais fy wyneb a'm gwddf a chefn fy ngarddyrnau.

Aiff pethau o chwith: dyma ddifetha'r holl gnwd am ei bod yn rhy boeth iddynt dan ddaear.

Roedd hi'n rhy boeth.

Aeth yn ddadl boeth rhwng Deiniol a Charadog, ac meddai Deiniol, a thôn fuddugoliaethus yn ei lais, 'Wel diolch i Dduw.

Deud wrtho fo am fynd i ganol anialwch tywod y de lle mae'r haul yn boeth a sychad yn cau gyddfau'r nadroedd, mi gâi groeso'n fanno.

Gan mai heddychwyr cadarn oedd tad a mam Waldo, yn anochel fe ddatblygai hi'n ddadl boeth ynghylch heddychiaeth, gyda'r hen ewythr yn dal y dylid gyrru'r holl heddychwyr i'r ffosydd yn Ffrainc.

Dim pryder ar wahân i nosweithiau rhy rewllyd cefn gaea a haul rhy boeth canol ha.