Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bolisi

bolisi

NATO yn cynnal ymgyrch yn erbyn Slobodan Milosevic, Arlywydd Serbia, i amddiffyn Albaniaid Kosovo rhag ei bolisi o lanhad ethnig.

Ffacsiwyd ein hymateb at y tri arweinydd Cyngor yn Neuadd y Sir heddiw, ac ynddo mynna Cyd-Gadeirydd y Gymdeithas, Aled Davies, fod adolygiad trylwyr o Bolisi Iaith y Cyngor yn digwydd a noda bod obsesiwn y cyngor gyda rheolwriaeth yn troi pobl ifanc, ynghyd â phobl proffesiynol, i ffwrdd o'r broses ddemocrataidd, gan eu bod yn teimlo na fydd neb yn sylwi ar eu barn.

Mae hyn yn dangos mai canlyniad i bolisi swyddogol y Cynulliad yw dwyieithrwydd y cyfarfod, nid mympwy personol y Cadeirydd.

Nid oes gan TAC bolisi ffurfiol yng nghyswllt hawliau, ond fe fydd ganddynt bolisi ffurfiol yn y dyfodol agos.

Yn yr ail gyfnod hwn yr oedd rhaid mynegi'r egwyddorion haniaethol hyn yn bolisi economaidd y Blaid.

Mae'n bwysig iawn fod aelodau'r Pwyllgor yn deall o'r cychwyn bod modd defnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn y cyfarfod a gellir atgyfnerthu hyn yn weledol drwy osod copi o bolisi iaith y Cynulliad (pan ddaw) neu eiriau Deddf Llywodraeth Cymru ynghylch defnydd y ddwy iaith, neu Reol Sefydlog 8.23 -- 'Caiff aelodau'r pwyllgorau, a phersonau eraill sy'n annerch y pwyllgorau siarad Cymraeg neu Saesneg, a bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer trafodion Cymraeg.

Yn ddiweddar cryfhawyd ei bolisi iaith cynradd trwy ddatgan o blaid dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardaloedd traddodiadol Gymraeg.

Yr oediad olaf un, a'r un mwyaf sylweddol, yw'r oediad ymateb, sef yr amser cyn i bolisi%au cyweiriol ddechrau effeithio ar amrywebau nod y llywodraeth, megis lefel cyflogaeth.

Ni fyddai'n dderbyniol i'r Pwyllgor fod yr Ysgrifennydd Gwladol, wrth ystyried cais gan ysgol am gael ymadael â gofal awdurdod, yn medru caniata/ u i'r ysgol newid natur ei bolisi iaith yn sylweddol.

Y swyddfa gofrestru tir a'r swyddfa drwydded deithio yn symud i Gymru fel rhan o bolisi'r Llywodraeth i ddatganoli swyddfeydd gweinyddol.

Fel arweinydd y Cuban American Foundation, MasCanosa yw'r dylanwad pwysicaf ar bolisi yr Unol Daleithiau tuag at Cuba, ac un o'i gydweithwyr agosaf yw mab yr Arlywydd George Bush.

Edrycher ar y penderfyniad pasiffistaidd yn gyntaf, penderfyniad yn datgan fod y Blaid yn ymwrthod â dulliau milwrol ar gyfer ennill Ymreolaeth, a hefyd yn rhan o bolisi'r Gymru Rydd.

Dogfen bolisi'r Swyddfa Gymreig yw hon, sydd yn nodi hawliau rhieni a chyfrifoldebau darparwyr gwasanaethau.

(i) Cynlluniau a datganiadau polisi statudol ac anstatudol fel, e.e., sylwadau ar y Cynllun Fframwaith neu unrhyw adolygiad ohono, creu cynlluniau lleol a datblygu unrhyw bolisi cynllunio arall sydd yn effeithio ar bolisi%au cyffredinol y Cyngor.

Yr oedd y wasg wedi dechrau brygawthan am 'rwyg' yn y Blaid, ac ateb y Gynhadledd oedd - unfrydedd tros bolisi cydnabyddedig y Blaid."' Nid oedd unfrydedd llwyr, a bod yn fanwl; ond mae'n debyg fod y rhai a oedd yn anghytuno â'r penderfyniad a basiwyd wedi cilio heb bleidleisio ar y cynnig, ar ôl i'r gwelliant a gynigiwyd ganddynt fethu.

Dyma blaid geidwadol a'i gwreiddiau yng nghefn gwlad gorllewin Canada, sydd wedi datgan gwrthwynebiad i bolisi dywieithog y wlad, ac am gyfyngu ar rai mathau o fewnfudiad.

Dylai ysgolion fod ag agweddau positif, dylent gytuno ar bolisi%au pynciau a gefnogir gan amcanion a nodau, ac fe ddylent weithredu trefniadau cwricwlaidd a threfniadol i gefnogi disgyblion ag AAA.

Yr ydym ni'n yn y Gymdeithas yn mynnu fod adolygiad trylwyr o bolisi iaith y Cyngor Sir yn digwydd.

Gall dosraniad anghywir o'r argost effeithio ar bolisi prisio'r busnes, a bod yn niweidiol pan yw'n gwestiwn o gynnig pris yn erbyn cystadleuaeth.

Petai'r Gynhadledd yn derbyn y cynnig hwnnw'n bolisi, yr oedd rhai ohonom yn rhagweld ymosodiadau na fyddem yn gallu amddiffyn y Blaid rhagddynt, a byddai'n rhaid inni ei gadael.

Mae'n sicr bod economeg Keynes wedi bod o fudd mawr i ddeall amryfal droadau'r economi, ac wedi cyfarwyddo aml i bolisi ar gyfer chwyddiant a datchwyddiant.

Rhaid trawsnewid y diwylliant sy'n cadw'r Gymraeg ar y cyrion a sefydlu'r Gymraeg yn elfen integredig o bob agwedd ar bolisi, gweinyddiaeth a gwasanaeth yng Nghymru.

Ond, ar yr un pryd, y mae rhywbeth gwrthnysig yn y ffordd y mae'r awdurdodau yn Lloegr yn mynnu cuddio'r wybodaeth am bolisi%au'r blaid oddi wrthym.

Tynnwyd sylw y llynedd at y cwynion a dderbyniwyd parthed methiant rhai awdurdodau cynllunio i ufuddhau i bolisi%au cynllunio a chwynion bod rhai penderfyniadau cynllunio yn wrthnysig.

Mae'r gofal a amlygwyd gan rai athrawon i sicrhau fod darllenedd y deunydd a ddarperir ganddynt ar gyfer plant yn addas i'r grwp targed, i'w gymeradwyo'n fawr ac yn rhywbeth y dylid ei ymestyn fel rhan o bolisi ysgol.

Wrth estyn y gwahoddiad, amlinellodd brif elfennau ei swyddogaeth: bod yn fforwm a fyddai'n gallu cynghori llywodraeth ganol a lleol ar bolisi iaith; gwella cydlynu ymhlith asiantaethau sy'n cyfrannu at addysg yn yr iaith Gymraeg; dynodi anghenion datblygiad, a blaenoriaethau oddi mewn i'r anghenion hynny, ac i fod yn gyfrwng i'w hateb; dosbarthu gwybodaeth; dynodi anghenion ymchwil.

Mae'r diolch yn bennaf i ffrwyth misoedd o waith rhwng Adran Bolisi Bwrdd yr Iaith a Bill Hicks o Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor, meddai.

Cytunwyd i gadw golwg ar bolisi'r papur yngl^yn a chynnwys deunydd trwy'r Gymraeg.

Mae'r dystiolaeth yn dangos yn eglur y byddai ein hymrwymiad i lynnu at bolisi o gynnig rhenti y gall pobl eu fforddio yn cael ei danseilio os na sicrheir hyn.

o Rocet yn ei ddweud mai 'gyrru dogfen bolisi sych at awdurdodau lleol' y mae'r Gymdeithas - ond mae'r potensial yma, yn y flwyddyn nesaf, o weddnewid sut mae Cymru yn cael ei rheoli.

i esbonio eto'n eglur bolisi cymdeithasol y Blaid.

Ac ni ellir osgoi cyfeirio at bolisi%au llywodraeth mewn gwahanol gyfnodau at iaith.

John Major yn cael problemau gydai'i bolisi 'back to basics' oherwydd agwedd rhai aelodau o'r Llywodraeth.

Yn hanesyddol ac yn gwbl ddigynsail, mae arweinwyr y tair carfan wleidyddol ar Gyngor Sir Gâr wedi uno trwy anfon llythyr ar y cyd at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn condemnio ein beirniadaeth ar Brad Roynon, prif weithredwr y cyngor, ac yn pledio am werthfawrogiad o bolisi iaith y Cyngor.

Dyna'r unig bolisi a weddai i genedl '....' ei weithredu.

Ymateb cyffredinol oedd eu bod o fudd mawr ac wedi hwyluso gwaith trwy'r adran i gyd, sef ar gyfer: - cytuno ar bolisi ysgol: help gyda'r Prifathro ac eraill!

y mae hynny'n dystiolaeth deg i farn y mwyafrif mawr o'r gwŷr eglwysig a'r boneddigion Cymreig ar bolisi'r Tuduriaid.

Mr Wynne Samuel, os cofiaf yn iawn, a ddaeth ag awgrym gerbron y Pwyllgor, yn cymell y Blaid i fabwysiadu yn bolisi gynllun ar gyfer Cymru o waith arbenigwr yr oedd ef yn ei adnabod; yr oedd y cynllun yn un priodol iawn i Gymru, ac ni chafodd y Pwyllgor anhawster i'w dderbyn.

Adleisia'r adroddiad y feirniadaeth gyffredinol o bolisi'r Llywodraeth yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf - a hynny'n adeiladol, wrth gwrs.

Yn hanesyddol ac yn gwbl ddigynsail, mae arweinwyr y dair carfan wleidyddol ar Gyngor Sir Gâr wedi uno trwy ddanfon llythyr ar y cyd at Gymdeithas yr Iaith yn condemnio ein beirniadaeth ar Brad Roynon (Prif Weithredwr y Cyngor), ac yn pledio am werthfawrogiad o bolisi iaith y Cyngor.

Sut bynnag, oherwydd yr oediadau sydd ynghlwm wrth bolisi%au economaidd, y mae perygl i fesurau gwrthgylchol y llywodraeth gynyddu yn hytrach na lleihau osgled y toniannau, ac, fel canlyniad, ansefydlogi yn hytrach na sefydlogi'r economi.

Argymhellwyd y dylid mabwysiadu'r cynllun lleol fel drafft ymgynghorol yn ddarostyngedig i rhai mân newidiadau i bolisi%au unigol.

'Ni bu neb chwerwach na mi yn y gorffennol,' ebe Gruffydd, 'yn condemnio rhai agweddau ar bolisi'r Ymerodraeth Brydeinig, ac ni ddymunwn dynnu sillaf yn ôl o'r hyn a ddywedais.

Am y tro cyntaf mae gan y gorllewin lais clir a digon o aelodau seneddol i effeithio ar bolisi.

* sicrhau trwy bolisi ysgol gyfan fod datblygiad yn y mathau o dasgau a osodir sydd yn arwain pob math o blentyn, a hynny'n gynnar yn eu gyrfa uwchradd, i arfer y pum math o ddealltwriaeth a nodir.

Nid yw iaith yn bodoli mewn gwagle, felly mae unrhyw benderfyniadau neu bolisi%au a wneid yn y meysydd allweddol hyn yn effeithio ar ddyfodol y Gymraeg ac yn fwy na dim byd arall ar fywyd pob dydd pobl ifainc yr ardal.

Pryderir na fyddai fformiwla/ u cyllido corff o'r fath yn ymatebol i'r anghenion amrywiol sydd yng ngwahanol ardaloedd Cymru, nac wedi'u seilio ar bolisi%au wedi'u llunio gan bersonau etholedig ac atebol i'r cymunedau lleol hynny.

Fe gafwyd adroddiadau o Sweden i geisio asesu damcaniaeth Phil Williams, gwyddonydd rhyngwladol ac aelod blaenllaw o Blaid Cymru, fod tref anghysbell yno yn elwa mwy dan bolisi rhanbarthol Sweden nag yr oedd ei dref enedigol, Bargoed, yn ei wneud dan bolisi rhanbarthol gwledydd Prydain.

Credwn fod angen chwyldroi meddyliau ac arferion yn ogystal ag ailddosbarthu cyfleon a grym o fewn cymdeithas er mwyn troi hyn yn bolisi bwriadol ac yn realiti.

Hunan-lywodraeth i Gymru yn dod yn bolisi swyddogol gan Blaid Genedlaethol Cymru.

Cyfieithu egwyddorion, meddai, yn bolisi a threfn yw ein tasg gwleidyddol.

Ac yna, yn goron ar y gyfundrefn, bydd Senedd Ffederal i'r wlad yn gyfan, yn gyfrifol am bolisi tramor ac am bob agwedd ar fywyd cenedlaethol y wlad.

Mater o gywirdeb calon oedd ei choledd, nid mater o bolisi.