Bellach, 'd oes dim ond un bonc yn cael ei gweithio yn chwarel Trefor, a honno wedi'i gosod i gwmni o Loegr.
Dyma'r platelayers yn gosod ffordd haearn ar hyd y bonc, neu fel y byddent yn dweud gosod ffordd union, ac yn torri branches allan ohoni a phob cangen yn cario i'r graig.
'Be' naethoch chi wedyn?' 'Dyma fi'n hitio'r drws hefo'r procar hynny 'fedrwn i a gwaeddi, "Get away, yr hen uffar drwg!" ' Gan nad oedd yn perthyn i'r un bonc na chaban neilltuol, ni fyddai ganddo siât gydag eraill mewn tebot neu dcgell.
Wel rwan yntê, dyma'r malwr yn mynd i ben draw'r bonc ac yn nôl wagen, peth rhywbeth yn debyg i focs sgwâr heb gaead arno ac un pen wedi ei dorri i ffwrdd, a'r bocs hwn wedi ei osod ar bedwar olwyn, ac yn dal rhywbeth o ddwy dunnell i ddwy dunnell a hanner o bwysau.
Gan y byddai'n symud o bonc i bonc ynglyn â'i waith daethai pawb yn y chwarel i'w adnabod.
Penderfynwyd fod yn rhaid saethu a rhoddwyd gorchymyn i bawb a weithiai yn y bonc islaw i adael eu bargeinion.
Daeth yn ôl i'r bonc un diwrnod wedi bod o flaen y goruchwyliwr yn yr Offis Fawr.
Gosodwyd y gwaith ar gontract i Francis, ac er syndod i'r stiward a phawb yn y bonc roedd y caban yn barod i'r dynion fynd iddo ymhen deuddydd a hanner.
Gallai'r stiward, o'r bonc islaw, weld ffrynt y twr, ond ni allai weld y tu ôl iddo.
Cariai ei gwpan gyda'i dun bwyd mewn bag, a châi ei llond o ddwr poeth o gwt injian y bonc lle y digwyddai fod yn gweithio, yna fe wagiai hanner llond tun oxo o de a siwgwr yn gymysg ar ben y dwr a gosod ei law yn dynn dros y gwpan a'i hysgwyd yn iawn, ac er i'r dail fod yn nofio ar yr wyneb fe âi'r cwbl i lawr--ond y rhai a lynnai wrth ei fwstas.
Gan fod llawer o ddynion yn gweithio yn y bonc roedd yn rhaid cad rhyw drefn gyda'r saethu, neu mi fuasai rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu bob tro; felly roedd amserau neilltuol i'r saethu a threfn rhywbeth tebyg i hyn: roedd dyn penodedig yn chwythu biwgl, ac ar y chwythiad cyntaf roedd pawb nad oedd a wnelo hwy â'r saethu yn mynd i le diogel i ymochel neu, i ddefnyddio term y chwarel, i wardio ffiars.
Ond roeddwn i'n lwcus iawn: roedd 'na ddynion o Lanfairfechan yn gweithio ar Bonc Ganol, Graiglwyd.
Post o wenithfaen solet yn rhedeg uwy lechfaen da yw'r 'Negro' (y mae yno o hyd, ac yno y bydd bellach.) Dylesid fod wedi ei symud er dechrau'r ganrif gan iddo fod yn rhwystr i ddatblygu o leiaf bum ponc o lechfaen ardderchog, sef Califomia, Pen Diffwys, Ponc Mosys, New York a'r Bonc Fawr.