Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bonedd

bonedd

Pan ymddieithriodd yr uchelwyr a'r bonedd oddi wrth eu Cymreictod yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg ymlynent wrth Loegr a Seisnigrwydd.

Amlygir hynny yn y cyfeiriad a wna Siôn Mawddwy at yr uchelwr a'i wraig yn cyd-dynnu am eu bod yn hanu o'r iawn ryw ('Chwi a'ch bun, iawn yw'ch bonedd').

Eithr ymhlith eu tenantiaid a'u cydnabod yn y sir neu'r cwmwd lleol yr enillodd y bonedd eu parch a'u hawdurdod, a cheir tystiolaeth ddigon i brofi hynny.

Ac meddir ar glawr Cribau Eryri Rhiannon Davies Jones - sydd hithau'n ymdrin a'r drydedd ganrif ar ddeg : Mynegir ofn ac ansicrwydd gwreng a bonedd yn wyneb creulondeb yr amseroedd a mynych droeon Ffawd....Efallai y gwelir yma arwyddocad cyfoes yng nghymedroldeb meibion y Distain, yng ngweledigaeth y Mab Ystrwyth ac yn bennaf yn nelfrydiaeth yr Ymennydd Mawr.

Ar y dechrau ni ellid cael digon ohonynt a chyfyngwyd nhw i geginau a byrddau'r llys, ond yn fuan iawn cynhyrchwyd digon yn N'Og i gadw gwerin a bonedd mewn wynwyn.

Nid rhyfedd i feirdd megis Wiliam Llŷn a Wiliam Cynwal roi cymaint pwyslais ar y 'Tŷ bonedd (a'r) Tŷ rhywiog' ynghyd â'r 'beunydd hil bonedd helaeth'.

Aeth nifer helaeth o'r bonedd ati nid yn unig i ddarllen hanes ond i'w ysgrifennu hefyd, ac yn araf tyfodd diddordeb brwd mewn bywgraffyddiaeth, ac ymddangosodd hwnnw un ai yn astudiaeth o berson gwrthrychol neu yn gronicl o deulu neu ardal arbennig.

Pa rwystr oedd i wreng a bonedd ddathlu'r žyl yn llon?

Edrychid ar ddiwylliant clasurol yn gyfrwng gwasanaeth ac yn sail y bywyd gweithredol y disgwylid i'r bonedd ei fabwysiadu.

Ymgais i ymddangos yn wâr eu hymddygiad ymhob agwedd ar fywyd oedd 'delfryd' y bonedd, ac er mwyn meithrin hynny, ymfudent yn raddol o'r wlad i'r dref neu'r ddinas, sef canolfannau'r cwrteisi llysol a'r ffasiwn.

Y maent yn chwilio am y ffordd rataf i gyflwyno addysg gyffredin i'r nifer fwya o'n plant, tra bydd eu plant hwy yn derbyn yr addysg orau yn ysgolion bonedd a phreifat y wlad yma!

Dyrchafai hynny fri y teulu ymhlith bonedd eraill llai ymwthiol yng ngogledd Cymru ar y naill llaw a'r cylchoedd ffasiynol yn Lloegr ar y llaw arall.

Gellir awgrymu nifer o resymau am y teyrngarwch rhanbarthol hwn, sef twf gweinyddiaeth a datblygiad sefydliadau sirol, cynnydd cyfoedth y bonedd gwledig a'u tuedd gynyddol i briodi aeresau lleol, eu diddordeb mewn hanes, hynafiaeth a chyfraith, a thwf trefi sirol yn ganolfannau cymdeithasol, diwylliannol a gweinyddol.