Yr ochr arall i'r lon i giat y Pandy mae fferm Glanrafon, ac ychydig i fyny oedd y Bull Inn, a gedwid gan John Thomas, a pherthynai y dafarn yr amser honno i Mr Lambert, gwr bonheddig oedd yn byw yn Tanygraig, Traeth Coch, ac mae gennyf gof amdano yn dod i'w oed yn un ar hugain, yn cael ei dynnu mewn cerbyd gan ddynion ifanc, ac rwy'n cofio bod pont o flodau ger y Pantom Arms.
Mi fuo'r arglwydd Gruffudd yn rhy hir yng ngharchar Degannwy..." "Mab naturiol ein Tywysog..." "O waed pur Cymreig..." "Yn byw fel gwr bonheddig ers chwe blynedd bron yng ngharchar Degannwy a Sinai'n gywely iddo!" Chwerthin amrwd wedyn nes i rywun eu hatgoffa y byddent at drugaredd yr Ymennydd Mawr a'r Gwylliaid pe rhyddheid yr arglwydd Gruffudd.
Amlwg iawn yw'r elfennau sylfaenol hynny yng nghyfansoddiad y teulu sy'n adlewyrchu delfryd bonheddig yr oes yn Lloegr ac ar y Cyfandir.
Y fath sbort a gâi y mân ysbigod bonheddig wrth wrando ar Ernest yn adrodd hanes anffawd Harri y Wernddu a'i geffyl di- ail!
T., pan fo'n ymdrin a phwnc aflednais, rhwng awydd yr hanesydd cydwybodol am gywirdeb ac annhuedd y gwr bonheddig.
Chododd e ychwaith mo'i ddwrn na'i lais mewn protest, roedd yn swagrwr bonheddig ac yn ŵr llaith a ddewisoedd, yn gam neu'n gwmws, broffesiwn arbennig o galed.
Ni ofynnodd iddi erioed gynnau tân na gwneud neges, roedd yn ormod o ūr bonheddig i hynny.
Doedd dim gwyr bonheddig yn trigo o fewn yr ardal, ac yno doedd neb ond clerigwyr i lenwi'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd.
Erbyn hyn aeth yn agos i ddau gan mlynedd heibio oddiar i ūr bonheddig o'r enw George Bowser ddod i lawr o Lundain i ardal Penbre, yn yr hen Sir Gâr, gyda'r bwriad o gychwyn y diwydiant glo yno.
Yn hwyrach y noson honno a ninnau ar ein trydydd peint edrychasom eto ar Iwerddon a chofio mai arweinydd mudiad yr iaith a ddewiswyd yn Llywydd cyntaf y Weriniaeth, ac yna treuliasom noswaith ddifyr yn dyfalu pa un o'r tai bonheddig yng Nghymru a fyddai orau gennym fel plas i'n llywydd, a pha un ohonynt a ddylai fod yn Chequers Cymru.
Roedd yn ūr clên bonheddig a fyddai wastad yn galw.
Wedi dod yn rhydd o'r breichiau cryfion cafodd JR ei lusgo i'r gadair freichiau ger y tân a rhoddodd Laura Elin orchymyn siarp i'w mab Hywal, a eisteddai ar y stôl drithroed, yn pigo'i drwyn, i symud 'i hen betha oddi ar y bwrdd i'r gŵr bonheddig gal tamad yn 'i grombil.
Da gennyf dy weld yn dal dy dir hefo'r gŵr bonheddig.
Ar y lefel hon fe ddathla'r broses lle cymer y dosbarth canol Cymreig newydd feddiant ar freintiau a swyddogaethau'r hen ddosbarth bonheddig.
'Paid ag edrych, ond mae 'na ŵr bonheddig ar 'i ffordd yma sy'n mynd i edliw hynny i ti.' 'Chwilys.' 'Roedd llais Lleucu'n chwerwach.
Ei brif bwrpas oedd ymarfer ei ddoniau o fewn i'r fframwaith bonheddig, a golygai hynny ysgrifennu hanes o'r math a fyddai'n cydymffurfio, cyn belled ag yr oedd modd, â gofynion ysgolheictod y dydd.
Prifio'n wr bonheddig a wnaeth Elias, yn enwedig ar ôl priodi Lady Bulkeley (nad oedd fwy o ledi o ran ei tharddiad na finnau!).
Ond ni ddysgodd Christmas lyfnder y gwr bonheddig hyd ei fedd.
Mae'r manylion achyddol a geir yma yn newydd, ac yn cadarnhau'r darlun o Theophilus fel gūr bonheddig, ac yn ei osod mewn cefndir bonheddig, ar hyd glannau Teifi, a oedd o hyd yn Gymraeg ei iaith a'i ddiwylliant ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg.
Mae'n wynebu croesffordd yn ei fywyd, ei gydwybod yn dechrau ei boeni ynglŷn â digonedd ei deulu, ond yn bwysicach fyth mae wedi syrffedu ar y syniad o fyw fel gwr bonheddig, ac mae ei gariad at Lisabeth yn prysur oeri.
Cricedwr disglair, Cymro i'r carn, a gŵr bonheddig oedd David Evans.
O hyn allan yr ydym i fwyta oddi ar blatiau ac yfed o gwpanau fel gwyr bonheddig.
Yr oedd yn siriol a dengar gyda'i gydweithwyr, ac ni chollai ei dymer byth gyda'i wrthwynebwyr, ond eu hateb yn gwrtais a bonheddig.
Un rhinwedd a ddisgwylid gan wr bonheddig oedd haelioni at y tlawd.
A thro ar ôl tro awgrymir bod rhyw arbenigrwydd rhyfeddol yn perthyn i deulu Lleifior, rhyw foneddigeiddrwydd, yn ystyr ehangaf y gair, sy'n amheuthun ac yn deillio o'u tras fel gwyr bonheddig cyfoethog ym Mhowys.
Ni wrthodant Grist fel y dylai gŵr bonheddig.
Canfyddir y delfryd yn eglur iawn yn Il Cortegiano gan Castiglione lle y disgrifir prototeip y gŵr bonheddig perffaith, sef y cortegiano amryddawn ac eang ei gyraeddiadau a fagodd chwaeth at ddysg, celfyddyd, a bywyd cyhoeddus.
Dyna a ddylai gŵr bonheddig ei wneud!
ARLOESWR YM MYD DIWYDIANT Erbyn hyn aeth yn agos i ddau gan mlynedd heibio oddiar i ŵr bonheddig o'r enw George Bowser ddod i lawr o Lundain i ardal Penbre, yn yr hen Sir Gâr, gyda'r bwriad o gychwyn y diwydiant glo yno.
Torri 'ngwallt i heb yngan gair, dim ond gwenu a chrechwenu'n y drych wrth ddefnyddio'r siswrn obeutu 'nghluste i, ac esgus holi'n ddifrifol pa liw oedd 'y ngwaed i; gwaed 'nigar' - fel tasa fe'n gweud 'gŵr bonheddig' neu 'Gymro' neu 'Sais'.
Ond un diwrnod daeth gūr bonheddig cyfoethog ar gefn march glas i Aberceinciau gan holi am ūr y tū a phan ddeallodd ei fod wedi mynd i Abergwesyn fe aeth i'w gyfarfod.
Ni ellid cynnal y statws bonheddig heb addysg, a honno'n addysg glasurol.
Hogyn bach eiddil, tawel, bonheddig ac yn edrych yn ifanc iawn.
O'i hiawn ddefnyddio gellid olrhain twf yr ymwybod bonheddig o genhedlaeth i genhedlaeth.
Y parch a delid i'r etiquette moethus - y patrwm ymddygiad - a'r cwrteisi bonheddig, nodweddiadol o'r dosbarth tirol, yw'r brif allwedd i ddeall agwedd meibion Gwedir tuag at eu cymdeithas gartref ac oddi cartref.
Meddyliwch am y llogau gewch chi ar ddau gan mil, digon i'ch cadw chi'n ŵr bonheddig weddill eich oes, digon i roi sicrwydd i'ch mam.
Diau y byddai'n ymddwyn yn fwy bonheddig gerbron Tywysog Cymru na cherbron tîm rygbi Bae Colwyn, ond Bedwyr oedd Bedwyr ble bynnag yr âi, Bedwyr y sgwrsiwr hwyliog, Bedwyr y cefnogwr unllygeidiog, Bedwyr y rhefrwr didderbynwyneb a'r rhegwr.
Mae gūr bonheddig a aned yn Sir Fôn dros ddeg a thrigain o flynyddoedd yn ôl yn fy sicrhau fod y bechgyn o'i oed ef i gyd yn gwisgo esgidiau 'Welshod' i fynd i'r ysgol.
Cafodd Williams fwy o addysg na'r ddau arall ac ef oedd y gwr bonheddig naturiol o'r tri.